Pam fod pobl yn cymryd rhan mewn Campau Eithafol? Ymchwil PDC yn datgelu cymhelliant annisgwyl
18 Medi, 2024
Mae Astudiaeth ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn herio canfyddiadau confensiynol ynghylch yr hyn sy’n gyrru unigolion i ymwneud â champau eithafol. Tra bo’r ddelwedd boblogaidd o gyfranogwyr campau eithafol yn aml yn troi o gwmpas caethiwed i adrenalin neu chwilio am wefr, mae ymchwil Odette Hornby yn awgrymu proffil seicolegol mwy cymhleth.
Cafodd Odette, sy’n cynnal ei hymchwil PhD o fewn maes seicoleg chwaraeon, ei symbylu i archwilio’r pwnc hwn gan ei phrofiadau personol fel dringwr.
"Beth sy’n rhyfeddu fi ynghylch campau eithafol yw pa mor oddrychol ydyn nhw," eglura. "Gall yr hyn mae un person ei ystyried yn weithgaredd peryglus gael ei weld yn gwbl ddiogel gan rywun arall, yn ddibynnol ar eu cymhwysedd a’u profiad."
Gwnaeth ymchwiliad Odette ddatgelu pum elfen cymhellol allweddol:
Dirfodol ac allanol: Disgrifiodd cyfranogwyr gysylltu â natur a theimlo’n rhydd o fywyd bob dydd, teimlad o berthyn a dymuniadau i wthio terfynau personol.
Personoliaeth: Cafodd rhai cyfranogwyr eu denu gan geisio cael cynnwrf. Yn arbennig, darganfu Odette fod llawer o gyfranogwyr yn defnyddio campau eithafol fel dull o fynegi a rheoli emosiynau – yn enwedig y rhai sy’n cael trafferth i ganfod a mynegi eu teimladau, cyflwr o’r enw alexithymia.
Nodweddion cymhelliad: Caiff llawer o athletwyr eu symbylu gan gyrraedd nod, ennill cystadleuaeth, a’r gred yn eu gallu i lwyddo, sy’n hybu eu hyder i gymryd risg a dyfalbarhau drwy anawsterau. Bydd cyfranogwyr yn aml yn teimlo rheolaeth gref dros eu gweithgareddau ac yn teimlo’n rhan o gymuned gyda phobl o’r un anian.
Rheoli risg: Caiff cyfranogwyr yn aml eu symbylu gan y modd maent yn canfod ac yn rheoli risg. Caiff rhai athletwyr eu denu gan wefr sefyllfaoedd gyda risg, gan eu canfod yn gyffrous yn hytrach na rhywbeth i’w hosgoi.
Cydweddiadau gyda chaethiwed: Bydd rhai pobl yn cael anhwylder hwyliau, fel diflastod neu ddigalondid, pan na fyddant yn ymwneud â champau eithafol. Gall hyn greu ysfa gref i barhau i gymryd rhan, yn debyg i drachwant neu symptomau diddyfnu y bydd pobl sydd â chaethiwed yn eu cael.
"I lawer, nid am y wefr yn unig maen nhw’n ymwneud â champau eithafol. Maen nhw’n cynnig ffordd o brofi emosiynau sydd fel arall yn anodd cysylltu â nhw. Mae’r casgliad yma’n herio stereoteip selogion campau eithafol fel ‘jyncis adrenalin’ ac mae’n agor llwybrau newydd i ddeall y manteision seicolegol dyfnach a geir gan y gweithgareddau hyn,” meddai.
Nid yw ymchwil Odette wedi’i gyfyngu i gylchoedd academaidd yn unig. Mae goblygiadau ymarferol i’w chasgliadau, gan gynnig mwy o wybodaeth am sut y gellir defnyddio campau eithafol at ddibenion therapiwtig, yn arbennig ar gyfer unigolion sy’n cael trafferth i reoli emosiynau. Yn ogystal, mae goblygiadau cymdeithasol ehangach i’w gwaith drwy annog ail-werthuso sut y canfyddir risg a symbyliad mewn amgylcheddau hynod fentrus.
Ar gyfer y rhan nesaf o ymchwil Odette, mae’n paratoi i gyhoeddi mwy o ganlyniadau o gyfweliadau cynhwysfawr gydag athletwyr campau eithafol o safon uchel. Ei nod yw archwilio sut mae cymhellion yn newid dros gyfnod, yn syth cyn, yn ystod ac ar ôl cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Mae ei gwaith yn parhau i wthio ffiniau’r hyn rydym yn deall am symbyliad dynol a chanfyddiad risg.