Safle uchaf erioed ar gyfer PDC yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian

9 Medi, 2024

Students walking down a set of stairs from a campus building talking to each other.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cyrraedd ei safle uchaf erioed yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian, gyda’r Brifysgol bellach yn safle 51 o blith 122 o sefydliadau yn y rhestr.

Mae hyn yn gynnydd o 21 lle yn y safleoedd ers y llynedd, ac yn rhoi PDC yn drydydd yng Nghymru.

Mae PDC wedi gweld cynnydd mawr mewn nifer o safleoedd - cynnydd o 41 lle i safle 33 ar gyfer boddhad myfyrwyr ag addysgu; ac mae wedi gwella 13 lle, i safle 19, ar gyfer ansawdd yr adborth ac asesu gan staff academaidd. Roedd cynnydd hefyd o 17 lle yn y categori sy’n canolbwyntio ar ganran y myfyrwyr sydd mewn swyddi lefel gradd neu mewn astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio.

Mae nifer o bynciau PDC - Peirianneg Awyrofod, Animeiddio, Gwyddor Fforensig, Nyrsio Cyffredinol, a Marchnata - ar y brig yng Nghymru, tra bod gan y Brifysgol naw pwnc sydd ymhlith y 25 uchaf yn y DU – Peirianneg Awyrofod, Animeiddio a Dylunio Gemau, Addysg, Ffasiwn a Thecstilau, Gwyddor Fforensig, Proffesiynau Iechyd, y Gyfraith, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, a Bydwreigiaeth.

Y pwnc sydd â'r safle uchaf, yn y pumed safle, yw proffesiynau iechyd, tra bod y gyfraith wedi codi'n aruthrol yn y canllaw, gan ddringo 31 lle i safle 19.

Mae peirianneg awyrofod ar y brig yn y DU ar gyfer addysgu ac asesu, mae ffasiwn a thecstilau ar y brig yng Nghymru ar gyfer Addysgu, mae proffesiynau iechyd yn ail yn y DU ar gyfer ychwanegu gwerth - sy'n graddio ansawdd yr addysgu; mae bydwreigiaeth yn drydydd yn y DU ar gyfer parhad - sy'n mesur nifer y myfyrwyr sy'n parhau â'u gradd ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf - tra bod seicoleg yn safle 29 ymhlith y 116 cwrs yn y DU.

Dywedodd yr Athro Donna Whitehead, Dirprwy Is-ganghellor PDC, am y safleoedd hyn: "Mae hwn yn gyflawniad anhygoel ac mae'n dangos sut mae gwaith caled cydweithwyr ar draws PDC yn dwyn ffrwyth.

"Rydyn ni'n gwybod bod addysg uwch yn wynebu rhai heriau ar hyn o bryd, ond dydyn nhw ddim yn rhywbeth rydyn ni'n mynd i’w osgoi, yn enwedig gan fod y safleoedd yn dangos ansawdd uchel ein haddysgu a sut rydyn ni'n datblygu graddedigion sy'n barod am waith.

"Fydden ni ddim wedi gallu cyflawni hyn heb ymrwymiad cydweithwyr ar draws y Brifysgol, ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol y sefydliad bod gennym gydweithwyr sy’n rhoi’r hyn sydd ei angen arnynt a’r hyn y maent yn ei ddisgwyl i’n myfyrwyr – safon uchel o addysgu a’r cyfle i symud ymlaen i yrfa dda neu astudiaeth bellach ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.”