Taith ysbrydoledig Sinead i Orsedd y Beirdd
14 Mehefin, 2024
Bydd y fyfyrwraig nyrsio Sinead Harris ymhlith aelodau diweddaraf Gorsedd y Beirdd – criw o unigolion uchel eu parch sydd wedi cyfrannu at ddiwylliant Cymru – yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yr haf hwn.
Bydd Sinead, 33, o Abercynon, ynghyd â’i ffrind Geraint Ashton, yn ymuno â’r Orsedd mewn seremoni arbennig ddydd Llun 5 Awst, yng nghartref yr Eisteddfod eleni ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.
Mae’r Orsedd yn cynnwys beirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac unigolion sy’n frwd dros hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Ymhlith yr aelodau enwog – sy’n cael eu hadnabod fel derwyddon – mae sêr Hollywood Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, y cantorion Bryn Terfel a Caryl Parry-Jones, yr athletwyr Tanni Grey-Thompson ac Aled Siôn Davies, y cyflwynwyr Alex Jones a Huw Stephens, a’r arwyr rygbi Cymreig George North a Jamie Roberts, ymhlith llawer eraill.
Astudiodd Sinead, sydd yn ei hail flwyddyn o Nyrsio Plant yn PDC, ei gradd prifysgol gyntaf – Drama a Theatr – trwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth. Yn ystod ei chyfnod yno y cofleidiodd y gweithgareddau Cymraeg oedd ar gael, a datblygodd gariad at hybu’r iaith.
Ar ôl graddio, bu’n gweithio dramor am nifer o flynyddoedd, cyn dychwelyd i Gymru a gweithio i Urdd Gobaith Cymru – mudiad ieuenctid gwirfoddol sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed gymryd rhan mewn ystod o brofiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond yn haf 2020 y cymerodd bywyd Sinead dro annisgwyl. Ar ôl dioddef o feigryn difrifol a lludded, cafodd ddiagnosis o glefyd cronig yn yr arennau, a chafodd ei derbyn i'r ysbyty am bum niwrnod.
“Tra roeddwn yn yr ysbyty sylweddolais pa mor rhyfeddol yw’r GIG,” meddai Sinead, a fynychodd Ysgol Gyfun Rhydywaun yn Aberdâr.
“Roedd hyn ar anterth pandemig Covid-19, pan oedden nhw dan bwysau aruthrol, a chefais y gofal mwyaf anhygoel o hyd. Rwy'n dweud wrth bobl fy mod wedi mynd trwy argyfwng canol oed, er fy mod ar fin troi'n 30 ar y pryd! Roeddwn ar ffyrlo o fy swydd, yn ceisio penderfynu beth i’w wneud â fy mywyd – dyna pryd i mi benderfynu fy mod eisiau bod yn nyrs.”
Dechreuodd Sinead ei gradd yn PDC ym mis Medi 2021, ond gyda’i hiechyd yn gwaethygu’n gynyddol, dywedwyd wrthi y byddai angen trawsblaniad aren arni i roi’r ansawdd bywyd gorau posibl iddi.
Dyna le camodd ei hewythr Gareth i’r adwy – gan roi ei aren yn hael – a llwyddodd Sinead i gael trawsblaniad ym mis Ionawr 2023, yn ystod blwyddyn i ffwrdd o’i hastudiaethau.
“Roeddwn i’n teimlo cymaint yn well ar unwaith,” meddai. “Fe wnaeth i mi sylweddoli pa mor sâl roeddwn i wedi dod, oherwydd roeddwn i wedi dod i arfer â theimlo mor flinedig, heb unrhyw egni - yna'n sydyn roeddwn i'n teimlo y gallwn i gymryd drosodd y byd. Roedd gallu mynd allan ar leoliad a gwneud popeth y gallai fy nghyd-fyfyrwyr eu gwneud yn rhyddhad mawr.”
Penderfynodd Sinead a Geraint wneud cais i’r Orsedd nôl yn 2019, ar ôl clywed am y cyfle i ddod yn aelod oherwydd eu bod yn astudio gradd mewn disgyblaeth berthnasol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wedi i Covid-19 achosi i Eisteddfod 2020 gael ei gohirio, cyhoeddwyd RhCT fel y lleoliad ar gyfer y flwyddyn hon, ac felly bu modd iddynt ohirio eu cais a bod yn rhan o’r ŵyl ar garreg eu drws.
Mae Sinead bellach yn paratoi ar gyfer y seremoni gynefino arbennig, lle bydd yn gwisgo dillad gwyrdd ac yn cael ei chyflwyno gyda'i henw derwyddol dewisol – Sioned Bryn Cynon.
"Nes i ddewis Sioned achos dyma'r fersiwn Gymraeg o fy enw, Bryn ar ôl fy hen dad-cu, a Cynon gan mod i'n dod o Gwm Cynon," meddai.
"Mae fy nheulu i gyd mor falch, a byddan nhw'n dod draw i wylio fy seremoni urddo i.
“Rwy’n ddiolchgar am byth fod mam wedi anfon fy chwaer a minnau i ysgol cyfrwng Cymraeg, oherwydd yr holl gyfleoedd y mae wedi’u rhoi i mi.
“Rydw i mor gyffrous i fod yn rhan o’r Eisteddfod fel hyn, gan ei fod yn achlysur mor wych – ac yn un y byddaf yn ei gofio am byth.”
Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd tan Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, a gynhelir ym Mhontypridd rhwng 3 a 10 Awst. Bydd gan PDC bresenoldeb sylweddol ar y Maes, ac mae'n falch o fod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu llety ar ei Gampws yn Nhrefforest.
I gael gwybod mwy, ewch i https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/Busnes/Cynhadledda-a-Chyfleusterau/accommodation-group-residential-bookings/eisteddfod-2024/