BSc (Anrh)

Nyrsio (Plant)

Bydd cwblhau'r radd nyrsio plant hon yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i chi i Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel nyrs plant gymwys ac yn barod i gychwyn ar yrfa werth chweil.

Mae ceisiadau ar gyfer Medi 2026 bellach wedi cau.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Byddwch yn barod am yrfa sy’n helpu plant a’u teuluoedd
Byddwch yn barod am yrfa sy’n helpu plant a’u teuluoedd

Côd UCAS

B702

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

B702

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd nyrsio plant tair blynedd hon yn cyfuno theori ac ymarfer mewn ffordd arloesol, i ganolbwyntio ar ofal plant mewn amrywiaeth eang o leoliadau gofal iechyd.

Mae nyrsys plant yn gallu deall anghenion datblygiadol plant o'u genedigaeth hyd at drosglwyddo i fywyd fel oedolyn a sut mae salwch yn effeithio ar hyn. Mae rhaniad cyfartal rhwng theori ac ymarfer, sydd wedi'i integreiddio drwy gydol ein holl gyrsiau nyrsio. 

Wedi'i gymeradwyo gan

Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Wedi'i gymeradwyo gan Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth


Pam astudio'r cwrs hwn?

Cyfleoedd lleoliad

Mae lleoliadau dan oruchwyliaeth yn rhan annatod o'r rhaglen nyrsio plant. Mae'r rhain yn ein byrddau iechyd partneriaeth, yn ogystal ag yn y sector cymunedol ac annibynnol.

Cyfleusterau rhagorol

Drwy gydol eich hyfforddiant nyrsio plant, byddwch chi'n dysgu yn ein cyfleusterau iechyd trawiadol. Mae ein Canolfan Efelychu Clinigol yn efelychu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Dysgu rhyngweithiol

Byddwch yn gweithio ar efelychwyr cleifion sy'n dynwared ymatebion y corff i salwch, gofal a thriniaeth.

Addysgu o ansawdd

Rydym yn yr 20 uchaf yn y DU am Nyrsio Cyffredinol (Tabl Cynghrair y Guardian 2023)

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Mae modiwlau damcaniaeth yn cynnwys cymysgedd o ddysgu craidd a dysgu penodol i'r maes.

Mae pynciau craidd yn berthnasol i bob maes nyrsio tra bod sesiynau penodol i'r maes yn caniatáu ichi roi damcaniaeth ar waith, gan helpu plant mewn amrywiaeth o leoliadau gofal.

Cyflwyniad i hanfodion nyrsio, gan gynnwys cysyniadau allweddol mewn iechyd corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol. Datblygu sgiliau hanfodol. 

Dysgwch sut i nodi, diffinio a mesur anghenion iechyd ar draws oes.Cymhwyswch theori lles, amddiffyn a hyrwyddo iechyd yn ymarferol.

Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Deallwch brosesau a thechnegau asesu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Datblygwch eich sgiliau clinigol wrth gyflawni asesiadau sylfaenol.   

Datblygwch eich hyfedredd a'ch hyder ar leoliadau gwaith trwy archwilio dogfennaeth angenrheidiol, ymarfer myfyriol, rhoi meddyginiaethau yn ddiogel, a sgiliau nyrsio.

Adeiladwch ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyda damcaniaeth a lleoliadau dan oruchwyliaeth arbenigol wrth i chi ddatblygu fel nyrs dan hyfforddiant.

Bydd yr hyn a ddysgwch mewn darlithoedd yn cael ei drafod mewn gweithdai arbenigol a thiwtorialau gyda nyrsys eraill i ychwanegu cyd-destun at y ddamcaniaeth.

Adeiladwch eich galluoedd ym meysydd asesu, diagnosis ac ymyriadau therapiwtig. Dysgwch am gydweithio ar draws arbenigeddau a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Archwiliwch gysyniadau ac egwyddorion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol sy'n ymwneud â gofal iechyd. Datblygwch eich ymwybyddiaeth wleidyddol ac adeiladwch sgiliau dylanwadu. 

Datblygwch bendantrwydd, sgiliau gwaith tîm a dewrder proffesiynol. Deallwchddulliau moesegol ac egwyddorion gwneud penderfyniadau fel galluedd meddyliol.

Dyfnhewch ddealltwriaeth o dystiolaeth, ansawdd a gwelliant parhaus. Archwiliwch fethodolegau ymchwil a dulliau gwerthuso.

Bydd eich blwyddyn olaf yn eich helpu i ddatblygu i fod yn nyrs medrus sy'n barod i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm gofal iechyd ehangach.

Bydd yr un cyfuniad o theori, ymarfer a chymorth personol yn eich helpu i deimlo'n barod ar gyfer eich gyrfa newydd wrth gymhwyso.

Datblygwch eich sgiliau wrth ofalu am bobl â chyflyrau cymhleth. Archwiliwchbathoffisioleg a chyfathrebu ynghylch rheoli gofal cymhleth.

Datblygwch sgiliau arwain. Ystyriwch effeithiau newid polisi ar ddarpariaeth gofal. Astudiwch reoli adnoddau, gwneud penderfyniadau ar y cyd ac atebolrwydd.

Ehangwch eich sgiliau adborth ac addysgu. Ymarferwch sgiliau cyflwyno a datblygwch ddulliau hygyrch o addysgu a dysgu.

Paratowch ar gyfer cofrestriad drwy ddeall egwyddorion dysgu gydol oes. Atgyfnerthwch sgiliau cyfathrebu, goruchwylio a nyrsio.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Byddwch chi'n astudio gyda myfyrwyr o bob maes a phroffesiynau eraill, yn ogystal â chael sesiynau sy'n benodol i'ch maes chi. Mae’n ofynnol gweithio gyda chleientiaid a chleifion o feysydd eraill hefyd, fel y gallwch ofalu am gleifion ag anghenion lluosog a chymhleth. Mae'r radd Nyrsio’n para o leiaf 42 wythnos. Mae lleoliadau ymarfer dan oruchwyliaeth yn rhan annatod o'r rhaglen. Mae rhaniad cyfartal rhwng theori ac ymarfer, sydd wedi'i integreiddio yn ein holl gyrsiau nyrsio.

Byddwch yn cael eich asesu ar draws damcaniaeth ac ymarfer wrth i chi ddysgu ochr yn ochr â myfyrwyr o wahanol feysydd a phroffesiynau nyrsio, yn ogystal ag mewn sesiynau sy'n canolbwyntio ar eich arbenigedd. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chleifion o ystod o feysydd, gan ddangos eich gallu i ofalu am bobl ag anghenion cymhleth. 

Dros o leiaf 42 wythnos, byddwch yn cwblhau lleoliadau dan oruchwyliaeth lle mae eich sgiliau clinigol yn cael eu hasesu mewn lleoliadau go iawn. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cwblhau gwaith academaidd i ddangos eich gwybodaeth. Gyda rhaniad cyfartal rhwngdamcaniaeth ac ymarfer, cewch eich asesu ar ba mor dda rydych chi'n rhoi dysgu ar waith yn y ddau faes. 

Mae lleoliadau dan oruchwyliaeth yn rhan annatod o'r rhaglen nyrsio plant. Mae'r rhain yn ein byrddau iechyd partneriaeth, yn ogystal ag yn y sector cymunedol ac annibynnol. Cewch gefnogaeth lawn ar leoliadau clinigol gan nyrs gymwys, sy'n gweithredu fel mentor drwy gydol eich lleoliad. Pan fyddwch chi'n gweithio gyda'ch mentor mewn practis clinigol, rhaid i chi weithio patrymau shifft y maes clinigol rydych chi wedi'ch dyrannu iddo. Mae cyfle hefyd i astudio ac ymarfer dramor mewn nifer o wledydd yn ystod eich ail flwyddyn. Bydd hyn yn eich galluogi i ddod i ddeall gwahanol systemau gofal iechyd.

Ymarferwch mewn Ystafell Efelychu Clinigol realistig, gan gynnwys atgynhyrchiad o fflat, ambiwlans, ystafelloedd meddygon teulu, a wardiau ysbyty. Adeiladwch sgiliau gan ddefnyddio offer go iawn ac efelychwyr cleifion realistig, gan baratoi ar gyfer popeth o ofal sylfaenol isenarios clinigol cymhleth mewn lleoliadau gofal iechyd.

Arweinydd y Cwrs

Rachel Watkins

Mae Rachel Watkins yn arbenigo mewn nyrsio plant ac mae ganddi gymwysterau mewn Ymarfer Clinigol Uwch a Rhagnodi Annibynnol Anfeddygol, gyda phrofiad helaeth mewn gofal acíwt ac argyfwng. Mae hi wedi gweithio ar draws byrddau iechyd lleol, gan gynnwys Adran Achosion Brys Ysbyty Prifysgol Cymru, gan feithrin cysylltiadau proffesiynol cryf. Rachel yw Arweinydd Cymru ar gyfer CYPNAUK ac mae wedi cyd-gynhyrchu erthyglau gydag Iechyd Digidol Cymru, yn ogystal â chyfrannu at benodau llyfrau ar hyn o bryd. Mae ei harddull addysgu ynhamddenol ac yn gefnogol, gan annog cyfranogiad i feithrin hyder a rhoi dysgu ar waith mewn ymarfer clinigol yn y byd go iawn. 

Rhagolygon Gyrfa

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Mae graddedigion yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, gwaith tîm, arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau moesegol, sy'n cael eu gwerthfawrogi ar draws gwasanaethau cyhoeddus ehangach a gofal iechyd. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Nyrsio cymunedol a gofal sylfaenol
Nyrsio Adran Achosion Brys
Nyrsio gofal critigol
Nyrsio meddygol/llawfeddygol
Nyrsio gofal lliniarol
Ymarferydd arbenigol

100% o raddedigion Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd Prifysgol De Cymru mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach

(Arolwg Hynt Graddedigion 2022/23)

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Nyrsio agor cyfleoedd ar draws Nyrsio. Mae gyrfaoedd Nyrsio yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol
DU: £37.5k y flwyddyn
Cymru: £37.2k y flwyddyn

Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 1.03m
Cymru: 49,860

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

A male nurse in purple scrubs adjusts an IV drip in a hospital room. He is wearing glasses and a name badge, and is smiling while holding the IV tubing. Behind him are medical equipment, a hospital bed, and blue privacy curtains.

"Mae pob lleoliad wedi cynnig lefel wahanol o gyfrifoldeb, gan fy helpu i droi theori yn ymarfer a datblygu fy sgiliau clinigol."

Edward Pace, Myfyriwr Nyrsio

Dysgwch fwy

Partneriaid diwydiant

Fel cwrs a gymeradwyir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, rydym yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i sicrhau bod ein rhaglen yn cyrraedd y safonau uchaf a diweddaraf. Rydym hefyd yn cydweithio â'n byrddau iechyd partner, i drefnu lleoliadau gwaith gwerthfawr fel y byddwch yn derbyn yr holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch. Yn ogystal, mae ein rhwydwaith cyn-fyfyrwyr cryf yn ein galluogi i wahodd arbenigwyr clinigol a oedd yn arfer bod yn fyfyrwyr PDC i roi darlithoedd gwadd, gan gyfoethogi eich profiad dysgu.

Gofynion Mynediad

Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar y cyngor sydd ar gael ar-lein, o ddangos bod gennych y cymwysterau neu brofiad perthnasol, awgrymiadau ar ysgrifennu eich datganiad personol i gyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad, mae gennym gyfoeth o gymorth ac arweiniad ar gael i ymgeiswyr i sicrhau eich bod yn gallu dangos bod gennych yr hyn sydd ei angen a gwneud eich cais y gorau y gall fod. Darllenwch: Cyngor Ymgeisio.

 

Ychwanegol

  • Mae gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad. I gael cymorth pellach ar baratoi ar gyfer cyfweliad a beth i'w ddisgwyl yn y cyfweliad, darllenwch ein Cyngor cyn Ymgeisio.
  • Un geirda boddhaol gan rywun sy’n gallu rhoi sylwadau ar eich agwedd a’ch dull o ymdrin â dysgu mewn ystyr broffesiynol neu academaidd.
  • Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
  • Bydd angen prawf meddygol boddhaol unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at eich dyddiad dechrau gyda manylion sut i gael y rhain.
  • Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
  • Y cymwysterau cyfwerth a ystyrir yw Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Swyddogaethol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg. (Rhaid bod wedi ei gyflawni ers 2016).
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
BBB i eithrio Astudiaethau Cyffredinol

Bagloriaeth Cymru:
Gradd B a BB ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol

BTEC:
Teilyngdod Rhagoriaeth Diploma Estynedig BTEC

Mynediad i AU:
Rhaid cwblhau 60 credyd yn gyffredinol gydag o leiaf 45 ar Lefel 3 a 15 ar Lefel 2. O'r 45 credyd ar Lefel 3, byddwch angen o leiaf 24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 Pasio.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Datganiad Derbyniadau Cyd-destunol

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r Gwasanaeth Diweddaru*

 Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell. Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.

Lleoliad Clinigol

Mae 50% o'r cwrs yn cael ei gynnal ar leoliad. Yn ystod y lleoliad, mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn ysgwyddo costau sy’n gysylltiedig â chostau teithio. Mae ad-daliadau teithio ar gael ar gyfer pellteroedd sy’n fwy na'r pellter o'r cartref i'r Brifysgol. Darperir gwisg swyddogol i’w gwisgo, ond disgwylir i fyfyrwyr ddarparu dillad ychwanegol megis esgidiau addas sy’n cydymffurfio â Pholisi Gwisg GIG Cymru. Cost: Amrywiol

Gliniadur neu gyfwerth

Bydd eich gofynion lleoliad clinigol yn cael eu cofnodi ar ddogfen electronig. Bydd eich gwaith academaidd ar gael drwy ein system Blackboard, ac mae asesiadau’r modiwl yn cael eu cwblhau a’u cyflwyno’n electronig. Cost: Amrywiol

*Rhwymedig

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,200

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r Gwasanaeth Diweddaru*

 Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell. Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.

Lleoliad Clinigol

Mae 50% o'r cwrs yn cael ei gynnal ar leoliad. Yn ystod y lleoliad, mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn ysgwyddo costau sy’n gysylltiedig â chostau teithio. Mae ad-daliadau teithio ar gael ar gyfer pellteroedd sy’n fwy na'r pellter o'r cartref i'r Brifysgol. Darperir gwisg swyddogol i’w gwisgo, ond disgwylir i fyfyrwyr ddarparu dillad ychwanegol megis esgidiau addas sy’n cydymffurfio â Pholisi Gwisg GIG Cymru. Cost: Amrywiol

Gliniadur neu gyfwerth

Bydd eich gofynion lleoliad clinigol yn cael eu cofnodi ar ddogfen electronig. Bydd eich gwaith academaidd ar gael drwy ein system Blackboard, ac mae asesiadau’r modiwl yn cael eu cwblhau a’u cyflwyno’n electronig. Cost: Amrywiol

*Rhwymedig

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#2

Astudiaethau Iechyd yn PDC yw'r 2il yn y DU o ran Canlyniadau Graddedigion a rhagolygon Graddedigion ar y trywydd iawn.

(Complete University Guide 2026)

A student nurse checking the Human Patient Simulator's pupil reactions

Yn yr 20 uchaf yn y DU ar gyfer Nyrsio Cyffredinol (Tabl Cynghrair y Guardian 2023)

Dau fyfyriwr mewn llyfrgell Prifysgol

Yn y 50 prifysgol gorau yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2026.

100%

o’n heffaith ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol.

Cyfweliadau Nyrsio

Popeth sydd angen i chi ei wybod cyn mynychu eich cyfweliad Nyrsio.

Darllenwch ein hawgrymiadau cyfweliad

Archwiliwch ein cyfleusterau

Amgylchedd trochi llawn.

Canolfan Efelychu Clinigol

Hyfforddwch yn ein Canolfan Efelychu Clinigol realistig, wedi'i hadeiladu i adlewyrchu lleoliadau'r GIG. Defnyddiwch efelychwyr geni uwch, ymarferwch weithdrefnau allweddol, a chymerwch ran mewn chwarae rôl gydag actorion. Adeiladwch sgiliau ymarferol, enillwchfewnwelediad cleifion go iawn, a thyfwch eich hyder cyn dechrau lleoliadau clinigol.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Nyrsio (Plant)

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Nyrsio (Plant)

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Edward Pace

Sut wnaeth fy ngyrfa fy ysbrydoli i ddilyn gradd nyrsio plant

Edward Pace Myfyriwr Nyrsio

Gweld proffil myfyriwr

Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?