Wythnos y Ffoaduriaid 2024 | Ymchwilio i effaith iechyd y geg gwael ar bobl sy’n chwilio am loches

17 Mehefin, 2024

Offer deintyddiaeth, fel fflos , golchi ceg, brwsh dannedd, past dannedd, mewn llinell ar gefndir melyn

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn ymchwilio i fater pwysig iechyd y geg ymhlith ffoaduriaid. Maent yn gobeithio taflu goleuni ar yr heriau unigryw a wynebir gan boblogaethau wedi’u dadleoli wrth gynnal iechyd y geg a’r goblygiadau ehangach i’w llesiant cyffredinol.

Ar ôl sylweddoli mai ychydig iawn o ymchwil sydd yng Nghymru, sicrhaodd y grŵp ymchwil gyllid ar gyfer astudiaeth archwiliadol. Roeddent yn cydweithio gyda’r elusen, Displaced People in Action (DPIA), a wnaeth eu rhoi mewn cysylltiad gyda gweithwyr achos sy’n cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ddyddiol. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda grŵp bach o geiswyr lloches a ffoaduriaid a chanfuwyd bod llawer o debygrwydd yn y trafodaethau ar iechyd y geg, megis rhwystrau iaith, anawsterau ariannol a diwylliant.

Dywedodd yr Athro Cyswllt Anne-Marie Coll, Ymchwilydd Arweiniol: “Iechyd y geg yw’r ail angen mwyaf heb ei fodloni mewn pobl sy’n chwilio am loches.

“Rydym yn archwilio’r effaith ddofn y gall iechyd y geg gwael ei chael ar ffoaduriaid, gan gynnwys yr annhegwch o ran mynediad at ofal iechyd y geg.

“Ein nod yw darparu mewnwelediadau a all lywio polisïau, a gwella gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y cymunedau agored i niwed hyn, yn ogystal ag addysg ar raglenni atal iechyd y geg.

“Rydym yn y broses o wneud cais am ragor o gyllid i ymestyn yr ymchwil hwn yn ehangach. Os byddwn yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio dyfeisio gweithdai ar bynciau iechyd, megis iechyd y geg, diet, sut mae’r GIG yn gweithio. Pan ddaw pobl yma nid yw’r pethau hyn yn gyfarwydd iddynt. Mae DPIA wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i ddatblygu’r ymchwil hwn ac rydym yn gobeithio hyfforddi’r gweithwyr achos i gyflwyno’r gweithdai hyn.”

Dywedodd Dr Ashra Khanom, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Mae Astudiaeth HEAR (Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid) wedi nodi gofal deintyddol fel un o’r meysydd pryder allweddol i bobl sy’n chwilio am loches a darparwyr gofal iechyd.

“Mae ein hastudiaeth iechyd y geg yn ceisio mynd i’r afael â’r angen hwn drwy ddatblygu ymagwedd newydd at ofal ataliol. Mae gan y mewnwelediadau a enillwyd y potensial i gael eu lledaenu i grwpiau agored i niwed eraill.”

Dyfarnwyd statws Prifysgol Noddfa i Brifysgol De Cymru yn 2020, gan gydnabod ei hymrwymiad i greu diwylliant o groeso i bobl sy’n chwilio am loches o fewn, a thu hwnt, i’w campysau. Yn ogystal ag Ysgoloriaethau Noddfa i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, mae’r brifysgol yn darparu cyrsiau paratoi iaith heb gost i ffoaduriaid, ac yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i gefnogi pobl sy’n chwilio am loches.

Mae’r grŵp ymchwil yn cynnwys yr Athro Cyswllt Anne-Marie Coll, PDC, Dr Teresa Filipponi, PDC, Athro Emeritws Jamal Ameen, PDC, yr Athro Wayne Richards, a Dr Ashra Khanom, Prifysgol Abertawe.