16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd | Taith ysbrydoledig Lily
10 Rhagfyr, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/12-december/GettyImages-2010564927.jpg)
Heddiw (10 Rhagfyr) yw diwrnod olaf '16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd' - mudiad rhyngwladol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), mae Lily yn rhannu ei stori.
Mae Lily, 43, yn astudio gradd Meistr mewn Seicoleg yn PDC. Ei nod yw dod yn seicolegydd clinigol cymwys ond nid yw ei thaith i addysg uwch wedi bod yn hawdd.
Wedi’i geni a'i magu yn Ghana, cafodd Lily briodas wedi'i threfnu pan oedd hi'n 19 oed a symudodd i'r Iseldiroedd. Yn ystod y briodas, dioddefodd hi flynyddoedd o gam-drin domestig. Nid tan iddynt symud i'r DU y llwyddodd i dorri'n rhydd o'r cylch cam-drin a dechrau ailadeiladu ei bywyd.
Fe wnaeth ei phrofiad yn y berthynas hon, ynghyd â gweithio fel gweithiwr gofal a chymorth, agor ei llygaid i ddeinameg trawma seicolegol ac iachâd.
“Trwy fy ngwaith, sylweddolais mai'r hyn yr oeddwn wedi bod yn ei brofi oedd cam-drin. Fe gymerodd flynyddoedd i ddod o hyd i fy llais, ond ar ôl i mi ei ddarganfod, roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi dorri'n rhydd." meddai hi.
"Roedd yn gyfnod unig iawn. Er fy mod yn siarad â fy nheulu nawr, i ddechrau, doedd fy nheulu gartref yn Ghana ddim yn fy nghefnogi i adael y briodas.”
Ar ôl ceisio cymorth a gadael ei gŵr, dechreuodd Lily gynghori a chefnogi ffrindiau a oedd hefyd mewn sefyllfaoedd heriol, gan eu hannog â'r doethineb a gafodd o'i brwydrau ei hun. Fodd bynnag, gan wybod ei chyfyngiadau fel cwnselydd heb gymhwyso, ceisiodd hi hyfforddiant proffesiynol. “Dywedodd rhywun wrthyf o’r blaen, ‘Rydych chi’n dda iawn am wrando heb farnu, pam na wnewch chi ddilyn hyn?’ Dyna pryd y sylweddolais y gallai hwn fod yn llwybr gyrfa i mi.”
Ar ôl cwblhau rhai cymwysterau ochr yn ochr â'i gwaith gofal, cynigiwyd lle i Lily astudio BA (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig yn PDC, a fwynhaodd hi gymaint, felly penderfynodd hi barhau â'i haddysg trwy fynd ymlaen i'r cwrs meistr.
Bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i dau blentyn, 17 a 10 oed, mae Lily yn cael ei gyrru gan ei huchelgais i fod yn seicolegydd clinigol. Mae hi'n breuddwydio am weithio mewn ysbyty, gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl. Dywedodd: "Fy nod yn y pen draw yw gweithio mewn ysbyty, gan helpu pobl gyda'r offer seicolegol sydd eu hangen arnynt i wella, yn enwedig y rhai sydd wedi profi trawma."