Gwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru | Nyrsys Anabledd Dysgu dan hyfforddiant yn PDC yn derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith allgymorth

22 Tachwedd, 2024

Mae Aimee a Claire yn gwisgo prysgwydd porffor gyda logo PDC

Enillodd dwy fyfyrwraig nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), y Wobr Myfyriwr Nyrsio ar y cyd yng ngwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (CNB) neithiwr.

Cafodd Aimee Robinson a Claire Welch eu henwebu ar y cyd gan Arweinydd y Cwrs, Dr Stacey Rees, am eu gwaith allgymorth i godi proffil nyrsio anabledd dysgu. Mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), fe aethon nhw i ysgolion a cholegau i roi cyflwyniadau am eu maes gofal iechyd. Credir eu bod wedi bod yn gyfrifol am gynnydd amlwg mewn ceisiadau mewn prifysgolion ledled De Cymru.

Cafodd Emily Hoskins, myfyrwraig arall o Brifysgol De Cymru, ei henwebu yn yr un categori. Yn arbenigo mewn Nyrsio Plant, enwebwyd Emily am ei gofal eithriadol ac am feddwl yn chwim mewn digwyddiad 'taro a ffoi’, lle'r oedd bachgen ifanc wedi cael ei anafu'n ddifrifol. Disgrifiodd y parafeddyg oedd yno bod ei gofal wedi bod yn 'rhagorol'.

Dywedodd Iwan Dowie, Dirprwy Ddeon Iechyd a Gofal Cymdeithasol PDC: "Llongyfarchiadau enfawr i Aimee a Claire am ennill y Wobr Myfyriwr Nyrsio. Rydym yn hynod falch o'r tair nyrs am gael eu henwebu yn y digwyddiad cenedlaethol hwn. Rwy'n hyderus bod gan bob un ohonynt yrfa addawol mewn nyrsio o'u blaen."

Cynhaliwyd yr unfed seremoni wobrwyo flynyddol ar ddeg yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 21 Tachwedd, ac mae'n cydnabod nyrsys, bydwragedd, myfyrwyr nyrsio, a gweithwyr cymorth gofal iechyd sydd wedi eu henwebu, ac sydd wedi dangos angerdd dros eu proffesiwn ac wedi bod yn gyfrifol am ragoriaeth mewn gofal, arweinyddiaeth, gwasanaeth ac arloesedd. Gall unigolion gael eu henwebu am wobr gan gyfoedion, timau, rheolwyr, cleifion a'r cyhoedd.