Diwrnod Plant y Byd | A yw plant dwyieithog yn wynebu oedi o ran diagnosis awtistiaeth?
20 Tachwedd, 2024
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn cyllid gan yr Academi Brydeinig i archwilio a yw plant o gefndiroedd dwyieithog neu leiafrifoedd ethnig yn wynebu oedi cyn cael diagnosis o awtistiaeth.
Dan arweiniad Dr Rebecca Ward, Darlithydd mewn Seicoleg, nod y prosiect yw darganfod a yw’r plant hyn yn cael eu hadnabod fel rhai awtistig yn llai aml neu’n hwyrach na phlant eraill, a pha effaith mae hyn yn ei gael ar eu haddysg a’u datblygiad.
Mae canfyddiadau cychwynnol o waith blaenorol Dr Ward yn dangos nad yw dwyieithrwydd yn rhwystro cynnydd datblygiadol mewn plant â chyflyrau niwroddatblygiadol. Fodd bynnag, gall gymhlethu'r broses ddiagnostig oherwydd amlygiad cyfyngedig i Saesneg neu ieithoedd cryfaf eraill, gan arwain at gamddehongliadau posibl gan addysgwyr a darparwyr gofal iechyd.
Gyda'r cyllid a dderbyniwyd, bydd Dr Ward yn cydweithio ag Uwch Ddadansoddwyr ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda chronfa ddata SAIL sy'n cynnwys cofnodion gofal iechyd ac addysg ar gyfer hyd at 80% o bobl Cymru. Bydd y tîm yn edrych ar ddata dros 20 mlynedd, hyd at 2019, i weld a oes gwahaniaethau o ran pa mor gyflym y mae plant o gefndiroedd gwahanol yn cael diagnosis a chymorth.
Bydd y prosiect hefyd yn ystyried effaith amddifadedd a rhyw ar y diagnosisau hyn. Y nod yw darparu tystiolaeth ar batrymau atgyfeirio a diagnosis ar gyfer plant o deuluoedd dwyieithog/amlieithog a chefndir lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, lle mae’r grwpiau hyn yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn systemau gofal iechyd. Mae'r ddealltwriaeth hon yn hanfodol ar gyfer sicrhau mynediad teg at asesiadau a diagnosis.
Tra bod yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar Gymru, lle mae 20% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, gallai’r canfyddiadau fod â goblygiadau ehangach.
“Mae tua 60% o bobl ledled y byd yn ddwyieithog neu’n amlieithog, felly mae hwn yn fater byd-eang,” meddai Dr Ward.
“Mae diagnosis cynnar yn hanfodol er mwyn darparu’r cymorth sydd ei angen ar blant i gyrraedd eu llawn botensial. Mae ein hymchwil yn gobeithio nodi a yw oedi o ran diagnosis yn fwy cyffredin ymhlith plant dwyieithog neu leiafrifoedd ethnig ac a yw hyn yn effeithio ar eu haddysg a'u datblygiad cyffredinol.
Os caiff plant ddiagnosis yn ddiweddarach, mae’n codi cwestiynau ynghylch beth fyddai wedi digwydd pe baent yn cael eu hadnabod yn gynharach, nid yn unig i’r unigolyn hwnnw a’i ganlyniadau, ond hefyd i’r teulu ehangach a phawb sydd wedi bod yn ymwneud â chefnogi’r plentyn hwnnw.”
Yn y tymor hir, nod yr ymchwil hwn yw dylanwadu ar bolisi ac ymarfer, gan hyrwyddo adnabyddiaeth gynharach a gwell ymyriadau ar gyfer plant niwroamrywiol. Mae'r tîm hefyd yn paratoi cais am arian ychwanegol i ymestyn yr ymchwil i gronfa data arall yn Llundain, gan gymharu'r ddau ranbarth ac archwilio effaith diagnosis ar iechyd meddwl a chanlyniadau addysgol.