'Doeddwn i ddim yn gweld unrhyw un fel fi': Menywod o Gymru yn lansio map trywydd uchelgeisiol i gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn technoleg

23 Ebrill, 2025

Lansiad Ailraglennu’r Dyfodol, adroddiad STEM

Mae map trywydd, y cyntaf o'i fath, wedi'i lansio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes STEM Cymru ac i feithrin ecosystem dechnoleg amrywiol a deinamig.

Wedi'i ddatblygu gan Rwydwaith Menywod Cymru mewn STEM, mewn cydweithrediad â Her Place, nod 'Ailraglennu'r Dyfodol' yw creu sector technoleg ddigidol mwy cynhwysol a chydradd i fenywod yng Nghymru.

Ei nod yw adnabod y rhwystrau allweddol sy'n atal merched a menywod rhag mynd i weithio yn sector technoleg ddigidol Cymru a symud yn eu blaen ynddo, ac mae'n tynnu sylw at gyfleoedd a mentrau amrywiol y gall merched, menywod, addysgwyr, cyflogwyr, llunwyr polisi, a theuluoedd gael mynediad iddynt i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn technoleg ddigidol.

Mae'r map trywydd - sydd ar gael ar-lein yn Ailraglennu'r Dyfodol - Prifysgol De Cymru - yn tynnu sylw at nifer o fenywod sy'n gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau yn y sector technoleg ddigidol yng Nghymru, ac sy'n fodelau rôl all ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Mae’n hyrwyddo busnesau ledled Cymru sy'n meithrin ymarfer cydradd, amrywiol a chynhwysol ac sy’n creu amgylcheddau diogel, hyblyg a chynhwysol yn eu gweithleoedd, lle gall pawb ffynnu. Mae hefyd yn hyrwyddo mentrau sy'n cefnogi menywod a merched ym maes STEM.

Daeth y syniad gan Grŵp Llywio Menywod Cymru mewn STEM, am eu bod yn sylweddoli bod angen helpu merched ifanc i wireddu eu dyheadau mewn gyrfaoedd STEM yng Nghymru.

Esboniodd Dr Louise Bright, sylfaenydd Rhwydwaith Menywod Cymru mewn STEM a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru dros Fenter, Ymgysylltu a Phartneriaethau, bwysigrwydd yr adroddiad a'i argymhellion.

"Rwyf wedi dwlu ar ddysgu am wyddoniaeth erioed, yn enwedig sut mae'r corff dynol yn gweithio," dywed Dr Bright.

"Yn dilyn cwblhau PhD a threulio tair blynedd fel ymchwilydd biofeddygol, rhoddais y gorau i fy ngyrfa STEM. Doeddwn i ddim yn gweld unrhyw fenywod yn y swyddi uwch lle roeddwn i'n gweithio a phan fyddai angen hwb bach ar fy hyder, doedd dim rhwydwaith o fenywod o ’nghwmpas yn gefn i fi. Roeddwn i'n meddwl mai'r ateb oedd newid gyrfa a datblygu fy ngyrfa mewn sector gwahanol.

"Rwyf wrth fy modd â'r rôl sydd gen i nawr ond rwy’n pendroni’n aml sawl menyw sy'n cael eu colli ym maes STEM, a faint o ferched sy'n rhoi'r gorau i wyddoniaeth yn yr ysgol heb wireddu eu potensial i wneud gwir wahaniaeth yn y byd.

"Rwyf am wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod Cymru'n adeiladu gweithlu STEM amrywiol sy'n cynnwys menywod yn llawn. Mae hyn yn golygu annog a chefnogi merched o oedran ifanc, gartref ac yn yr ysgol, a herio cyflogwyr STEM i chwalu rhwystrau strwythurol a chreu amgylcheddau cynhwysol lle gall menywod ffynnu."

Mae Emma Tamplin, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Her Place, sy'n anelu at ddatblygu dyfodol i ferched a menywod ym maes STEM, yn ychwanegu bod angen dymchwel  rhwystrau strwythurol a chreu system lle mae pob merch yng Nghymru yn ystyried technoleg fel rhywbeth y gall ei siapio.

"Nid map trywydd yn unig yw 'Ailraglennu'r Dyfodol', mae'n alwad i weithredu. Mae Cymru yn cael ei thrawsnewid gan dechnolegau digidol, ond mae cyfran o'r boblogaeth yn dal i gael ei heithrio rhag bod yn rhan o’r trawsnewidiad hwnnw," dywed Mrs Tamplin.

"Trwy ailraglennu'r dyfodol, byddwn yn datgloi talentau anhygoel menywod a merched, ac yn creu economi sy'n gweithio i bawb. Mae'r map trywydd hwn yn ymwneud â dymchwel y rhwystrau strwythurol sydd wedi dal menywod yn ôl ac adeiladu system lle mae pob merch yng Nghymru yn gweld technoleg fel rhywbeth y gall ei ddefnyddio, ond hefyd yn rhywbeth y gall ei siapio.

"Y tu ôl i bob rhwystr mae yna botensial sydd heb ei ddefnyddio, arloesedd sydd wedi'i golli, a dyfodol sydd wedi'i ddargyfeirio. Dyfodol a allai helpu i lunio Cymru gryfach, decach a mwy ffyniannus i ni i gyd.

"Rydyn ni'n gwybod bod timau amrywiol yn creu cynnyrch gwell. Rydyn ni’n gwybod bod arloesedd cynhwysol yn creu economïau cryfach. Ac rydyn ni’n gwybod bod dyfodol Cymru yn dibynnu ar harneisio ein holl dalentau, nid dim ond eu hanner.

"Mae angen i ni fynd y tu hwnt i weithredu gan fenywod a merched yn unig. Mae angen i gyflogwyr, addysgwyr, llunwyr polisi, a chymunedau gyfrannu, oherwydd fo pawb yn chwarae ei ran, mae pawb yn elwa. Nid mater i fenywod yn unig yw hwn, mae'n gyfle i Gymru ac yn un na allwn fforddio ei golli."

Yn ôl yr adroddiad, amcangyfrifir bod sector technoleg ddigidol Cymru yn werth tua £8.5bn, gyda 25% o'r gweithlu yn fenywod. Dim ond 5% o swyddi arwain sector technoleg y DU sy’n rhai mae menywod yn eu cyflawni.

Dywed hefyd fod 7% o fusnesau Cymru yn cael trafferth gyda phrinder sgiliau, yn enwedig mewn meysydd fel Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau gwyrdd, ac mai dim ond 17% o weithlu seiber y DU sy’n fenywod. Mae'n ychwanegu bod dros 70% o'r swyddi yr ystyrir eu bod mewn perygl uchel o gael eu digideiddio a’u hawtomeiddio yn rhai sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd gan fenywod.

“Mae timau amrywiol yn creu cynnyrch gwell, ac arloesedd cynhwysol yn creu economïau cryfach,” ychwanega Dr Bright.

"Mae menywod yn cael eu tangynrychioli mewn meysydd twf uchel ac yn cael eu gorgynrychioli mewn rolau sydd mewn perygl o gael eu digideiddio a’u hawtomeiddio, gyda disgwyliadau cymdeithasol a stereoteipiau o ran rhywedd mewn addysg yn cyfrannu at yr anghyfartaledd hwn.

"Mae mynd i'r afael â stereoteipio o ran rhywedd, darparu mynediad at fodelau rôl benywaidd, ac annog ymgysylltu â thechnoleg o oedran cynnar yn hanfodol, ac mae goresgyn stereoteipiau rhywedd a rhagfarn anymwybodol yn hanfodol, fel y mae dylanwad cyfoedion wrth gadw merched mewn pynciau STEM."

Ychwanegodd Mrs Tamplin: "Mae hyrwyddo prentisiaethau, interniaethau, a llwybrau gwahanol, ochr yn ochr â llwybrau prifysgol, a mynd i'r afael â rhagfarn rhywedd a darparu mynediad cyfartal i addysg a hyfforddiant, yn gamau angenrheidiol. Mae dirfawr angen goresgyn stereoteipiau rhywedd hefyd, a'r 'nenfwd gwydr', er mwyn cynyddu faint o fenywod sydd mewn rolau arwain, a darparu mentora a pholisïau gweithio hyblyg.  

"Mae cefnogi entrepreneuriaid benywaidd yn y sector technoleg ddigidol trwy gefnogi datblygiadau busnes mewn ffordd sydd wedi’i theilwra, sicrhau mynediad at gyllid, a mynd i'r afael â normau diwylliannol a chymdeithasol sy'n rhwystro dyheadau entrepreneuraidd menywod, oll yn hanfodol.

"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn adeiladu economi ddigidol nad yw'n gadael neb ar ôl. Gadewch i ni ddatgloi potensial menywod a merched yng Nghymru a chreu sector technoleg ddigidol cryfach, tecach a mwy arloesol i bawb."

Mae manylion Ailraglennu Map Trywydd y Dyfodol i'w gweld yn Ailraglennu'r Dyfodol - Prifysgol De Cymru.

Mae'r fenter yn gobeithio datblygu mapiau trywydd ychwanegol ar gyfer sectorau eraill ym maes STEM, fel peirianneg, biofeddygaeth a gweithgynhyrchu, gan gyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.