Llwyddiant i PDC yng Ngwobrau HEIST 2025

11 Gorffennaf, 2025

Grŵp o chwech o bobl mewn dillad ffurfiol yn gwenu ar lwyfan mewn seremoni wobrwyo. Mae dwy fenyw yn y canol yn dal tystysgrif a thlws pinc siâp y llythyren H. Y tu ôl iddynt mae logo mawr wedi’i oleuo gyda ‘H’ wen drwchus ar gefndir pinc a phorffor.

Llongyfarchiadau i’n hadran Myfyrwyr y Dyfodol sydd wedi ennill y wobr am y Defnydd Gorau o Fideo yng Ngwobrau Heist 2025.

Roedd y gwobrau, a gynhaliwyd ddydd Iau’r 10fed o Orffennaf yn Leeds, yn dathlu rhagoriaeth ac arloesedd mewn marchnata addysg, gan amlygu’r gorau oll yn y sector.

Enillodd y tîm wobr yn y categori Defnydd Gorau o Fideo ar gyfer eu fideo ymgyrch ‘Get in on the action’. Dangosodd y fideo gryfderau PDC mewn dysgu trochol, ymarferol, sy’n canolbwyntio ar yrfa, a bu’n llwyddiannus wrth ennyn diddordeb myfyrwyr 17-18 oed, gan wireddu cynnig ‘dysgu wrth wneud’ PDC a gynyddodd ymholiadau, ac yn bwysicach fyth, ceisiadau.

Ymhlith y gwobrau eraill y cyrhaeddodd y Brifysgol y rhestr fer ar eu cyfer mae dau enwebiad yn y categori Menter Ehangu Cyfranogiad Orau am eu prosiect Aspire2HE a Diwrnod Blasu o'r Safle Trosedd i'r Llys.

Dywedodd Sera Evans, Cyfarwyddwr Cyswllt Recriwtio a Derbyniadau Myfyrwyr y DU: "Mae ennill a bod ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn yn dyst i arloesedd, ymroddiad ac angerdd parhaus ein tîm Myfyrwyr y Dyfodol.

“Rhaid i ni weithio’n galed i sefyll allan mewn marchnad hynod gystadleuol ymhlith ein cynulleidfa darged a’u dylanwadwyr, a dim ond gyda dycnwch, dyfalbarhad a thrwy ymdrechu’n barhaus am wreiddioldeb y daw hyn. Rwy’n falch o waith y timau ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’u hymdrechion.”

Gallwch wylio’r fideo llwyddiannus isod.

Two students in red uniforms collaborating on an aeroplane, focused on their tasks with tools in hand.