Llunio dyfodol gofal Niwed i'r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol

10 Ionawr, 2025

Mae gwydraid o hylif coch, sy'n debyg i win, yn eistedd ar ochr chwith llwyfan cydbwyso gwyn, tra bod model o ymennydd dynol yn gorwedd ar yr ochr dde. Cefnogir y platfform yn ei ganol gan sylfaen sfferig wen, sy'n symbol o gydbwysedd neu gymhariaeth rhwng alcohol a gweithrediad yr ymennydd. Mae'r cefndir yn llwyd niwtral, gan roi naws glinigol i'r ddelwedd.

Cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) ddau ddigwyddiad gyda’r nod o fynd i’r afael â mater cynyddol Niwed i’r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol (ARBD). Wedi’u cynnal yn Ne Cymru a Gogledd Cymru, daethant â dros 60 o weithwyr proffesiynol ynghyd o sectorau amrywiol, gan gynnwys gofal iechyd, y llywodraeth, a gwasanaethau adsefydlu, i fynd i’r afael ar y cyd â bylchau mewn gofal a chreu ymagwedd unedig ar gyfer cleifion ARBD.

Wedi’u hariannu gan Gymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru, roedd y digwyddiadau’n ceisio datblygu “llwybr” cynhwysfawr ar gyfer gofal ARBD ar y cyd - taith strwythuredig o adnabod yn gynnar, diagnosis, rheoli, triniaeth, i ailintegreiddio i gymdeithas.

Meddai Dr Darren Quelch, Uwch Gymrawd Ymchwil yng Ngrŵp Ymchwil Caethiwed PDC: “Ar hyn o bryd, mae anghysondeb mewn gofal ARBD ar draws Cymru, gydag arferion yn amrywio fesul rhanbarth ac adnoddau cyfyngedig yn rhwystro cynnydd.

“Mae llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion yn parhau i fod yn anymwybodol o ARBD. Ein nod yw amlinellu arferion da, nodi bylchau, a chynnig atebion ymarferol ar gyfer gofal y gellir eu rhoi ar waith ar draws rhanbarthau amrywiol.”

Roedd y digwyddiadau consensws yn annog cydweithredu trwy drefnu cyfranogwyr yn grwpiau bach i drafod agweddau penodol ar daith claf ARBD, megis sgrinio, diagnosis a gwasanaethau cymorth. Trawsnewidiodd hyn heriau eang yn argymhellion penodol y gellir eu gweithredu, a fydd yn cael eu llunio mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru.

Ymhlith uchafbwyntiau’r digwyddiadau roedd cyflwyniadau gan ffigurau nodedig, gan gynnwys Dr Julia Lewis, Seiciatrydd Caethiwed Ymgynghorol ac Athro Gwadd PDC, a chynrychiolwyr o Dŷ Brynawel, canolfan adsefydlu sy’n arbenigo mewn ARBD. Helpodd y mewnwelediadau hyn i fframio'r trafodaethau a sicrhau bod argymhellion wedi'u gwreiddio mewn profiadau byd go iawn.

Wrth i ymwybyddiaeth o ARBD dyfu, mae’r digwyddiadau consensws hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, gwaeth beth fo’r lleoliad neu’r adnoddau sydd ar gael.

Dywedodd Tracy Griffiths, Ymgynghorydd Nyrsio Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Roedd yn fuddiol iawn i ni gwrdd â'r tîm o PDC a bod yn rhan o'u prosiect, a fydd yn ein helpu i ddod â gwasanaethau ynghyd er mwyn cydweithio'n agosach.

"Mae'r sesiwn wedi ein cefnogi a'n hannog ni, ac wedi ein helpu ni i ganolbwyntio ar faterion allweddol y mae angen i ni eu hystyried.

"Mae'r hyfforddiant ARBD a rannwyd gyda ni gan dîm y Brifysgol bellach yn cael ei drosglwyddo i fwy o staff yma yng Ngogledd Cymru, ac ers y digwyddiad rydym wedi cysylltu ag ardaloedd eraill o Gymru sydd yn yr un sefyllfa â ni, gan rannu ein cynnydd a gobeithio agor mwy o gyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd."