Penodi Dr James Gravelle yn Ddirprwy Is-Ganghellor newydd
28 Ionawr, 2025
Mae Dr James Gravelle wedi’i benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor newydd Prifysgol De Cymru (PDC).
Ar hyn o bryd mae James yn Ddirprwy Is-Ganghellor Trawsnewid Academaidd ym Mhrifysgol De Cymru ac mae wedi bod yn helpu i arwain y gwaith i wella ein darpariaeth academaidd a systemau i gefnogi dyfodol cynaliadwy.
Ymunodd James â Phrifysgol Morgannwg (PDC bellach) yn 2008 fel Cynorthwyydd Ymchwil, cyn dal nifer o rolau yn yr hen Ganolfan Gwyddorau’r Heddlu tra hefyd yn cwblhau ei PhD.
Yn fwy diweddar bu’n Bennaeth yr Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol, cyn dod yn Ddirprwy Ddeon, ac yna’n Ddeon, y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg. Bydd James yn dechrau yn ei swydd fel Dirprwy Is-Ganghellor o ddydd Llun 3 Chwefror 2025. Dywedodd yr Is-ganghellor, Dr Ben Calvert: “Rwyf wrth fy modd y bydd James yn cymryd rôl Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru. Mae James wedi dal llawer o rolau arwain ym Mhrifysgol De Cymru, gan helpu yn fwyaf diweddar i arwain y gwaith parhaus i drawsnewid ein darpariaeth academaidd a’n portffolio, gan roi myfyrwyr wrth galon y gwaith cyflawni. Cyn hyn arweiniodd James y mwyaf o’n cyfadrannau, gydag ymrwymiad i ddatblygu partneriaethau allanol a chyflwyno ein cyrsiau’n broffesiynol.
“Mae ganddo ymrwymiad personol gwych i Brifysgol De Cymru a’n myfyrwyr, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag ef wrth i ni roi ein Strategaeth PDC 2030 ar waith.”
Meddai James: “Mae’n anrhydedd mawr cael fy mhenodi’n Ddirprwy Is-ganghellor y Brifysgol a pharhau â’n gwaith i drawsnewid ein darpariaeth academaidd, gan gynnal y safonau uchaf ar gyfer ein myfyrwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid. Rwy’n edmygu PDC yn fawr am ei dynamigrwydd a’i huchelgais, sydd ar flaen y gad yn ein hymagwedd wrth i ni barhau i weithio tuag at nodau Strategaeth PDC 2030. Mae’n gyfnod heriol i’r sector AU ar hyn o bryd, ond rydym yn rhoi cynlluniau ar waith a fydd yn angori ein cynaliadwyedd, yn parhau i feithrin partneriaethau, ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein rhanbarth a thu hwnt.”