Rhoi alcohol ar bresgripsiwn i leddfu symptomau diddyfnu dwys - beth mae’r ymchwil yn ei ddangos?

6 Ionawr, 2025

Cysyniad alcoholiaeth. Cartŵn o fenyw yn eistedd y tu mewn i botel ac yn cofleidio ei gliniau.

Yn ysgrifennu ar gyfer The Conversation, trafoda Dr Darren Quelch, Uwch Gymrawd Ymchwil, ymchwil Grŵp Dibyniaeth Prifysgol De Cymru ar roi alcohol ar bresgripsiwn i drin symptomau diddyfnu dwys.

Mewn achosion prin a difrifol o symptomau diddyfnu alcohol, mae un ymddiriedolaeth y GIG yn rhoi alcohol ar bresgripsiwn i drin cleifion. Mae tîm arbenigol yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Sandwell a Gorllewin Birmingham yn rhoi dognau alcohol, sydd wedi’u rheoli’n ofalus, mewn lleoliad meddygol i grwpiau penodol o gleifion. Beth yw’r nod? Osgoi cymhlethdodau all beryglu bywyd.  

Mae’r dull anghonfensiynol hwn wedi bod yn bwnc llosg o ran ei ddiogelwch a’i effeithiolrwydd. Ond wrth adolygu, daeth fy nghydweithwyr a minnau i’r casgliad bod rhoi alcohol ar bresgripsiwn mor effeithiol â thriniaeth safonol yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae diddyfnu alcohol yn digwydd pan mae rhywun sydd â dibyniaeth dwys at alcohol yn stop yfed. Os nad yw’r unigolyn yn derbyn triniaeth addas, gall arwain at drawiadau, achosion difrifol o ddeliriwm (sydd yn aml yn cael eu galw yn “tremens deliriwm” neu “DT”) a marwolaeth.

Rhoddir benzodiazepinau fel meddyginiaeth i drin symptomau diddyfnu o’r fath. Ond dydyn nhw’m yn effeithiol i bob claf, ac mae hyn yn peri risg o gymhlethdodau diddyfnu difrifol.

Mae’n bosibl y bydd rhoi alcohol ar bresgripsiwn yn effeithiol ymysg cleifion sydd mewn perygl o ddatblygu symptomau diddyfnu dwys oherwydd eu hanes sylweddol o yfed alcohol, neu ddiffyg ymateb i benzodiazepinau. Gall dosau bach sydd wedi’u rheoli helpu i sefydlogi symptomau diddyfnu.

Wedi dweud hynny, mae defnyddio alcohol yn y cyd-destun hwn yn peri risg. Gall rhoi alcohol, hyd yn oed dan oruchwyliaeth feddygol, arwain at gymhlethdodau os oes gan yr unigolyn gyflyrau meddygol. Mae hefyd rhai pryderon moesegol ynghylch rhoi alcohol i bobl sy’n ceisio stopio yfed. I rai, gallai hyn greu dryswch o ran eu triniaeth a’u gwellhad.

Mae llawer o gleifion gyda dibyniaeth sylweddol ar alcohol yn stopio yfed oherwydd yr effeithiau pleserus a boddhaus. Maen nhw’n yfed oherwydd tueddiadau greddfol, ymatebion wedi’u cyflyru i sbardunau ac i osgoi’r symptomau negyddol ynghlwm wrth beidio ag yfed.

Hanes

Mae alcohol wedi cael ei ddefnyddio mewn triniaeth feddygol ers degawdau. Yn hanesyddol, roedd alcohol yn cael ei ddefnyddio i reoli DTau. Mae llenyddiaeth feddygol o ddechrau’r 20fed ganrif yn nodi’r achosion lle rhoddwyd alcohol ar bresgripsiwn mewn ysbytai i leddfu symptomau mewn cleifion oedd yn ddibynnol ar alcohol. Er enghraifft, roedd rhai doctoriaid yn argymell dosau bach o alcohol i reoli neu atal y rhithweledigaethau a’r trawiadau ynghlwm wrth DTau.

Yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Sandwell a Gorllewin Birmingham, ymdrinnir ag alcohol fel cyffur rheoledig. Mae protocolau llym ar waith i wneud yn siŵr bod cleifion yn ddiogel. Dim ond meddygon ymgynghorol ag arbenigedd mewn rheoli alcohol sydd ag awdurdodiad i’r roi ar bresgripsiwn, ac mae pob achos yn cael ei fonitro’n agos gan y tîm gofal alcohol.

Prin iawn yw’r ymchwil ar roi alcohol ar bresgripsiwn. Er hyn, mae rhai astudiaethau achos ac archwiliadau ar raddfa fach sy’n rhoi mewnwelediad i’w fuddion posibl. Daeth ein hadolygiad o’r astudiaethau cyfyngedig sydd ar gael i’r casgliad bod rhoi alcohol ar bresgripsiwn o leiaf yr un mor effeithiol â thriniaeth safonol yn 70% o achosion, heb unrhyw ddeilliannau negyddol sylweddol. Ond mae’r dystiolaeth ymhell o fod yn gynhwysfawr. Mae angen ymchwil mwy trylwyr i bennu canllawiau clir.

Mae ein hymchwil hefyd wedi cynnwys adolygu deilliannau cleifion yn dilyn derbyn alcohol ar bresgripsiwn gan y tîm gofal alcohol yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Sandwell a Gorllewin Birmingham.

Gwnaethom gymharu deilliannau cleifion a dderbyniodd alcohol gyda’r rhai a dderbyniodd benzodiazepinau. Rhoddwyd alcohol ar bresgripsiwn i bobl oedd yn arddangos symptomau diddyfnu difrifol, rhai oedd â risg uchel o ddatblygu DTau, neu gleifion gyda hanes o ddefnydd sylweddol niweidiol o alcohol (fel arfer 30 neu fwy o unedau bob dydd). Rydym hefyd wedi cynnwys cleifion oedd y tim gofal cleifion yn gwybod amdanynt gan eu bod eisoes wedi profi symptomau diddyfnu alcohol difrifol, trawiadau oherwydd alcohol neu DTau.

Ar gyfartaledd, deuthum i’r casgliad bod cleifion yn derbyn cyfanswm o 16 uned o alcohol yn ystod y driniaeth. Roedd hyn yn sylweddol is na’r swm y bydden nhw’n ei yfed fel arfer y tu allan i’r ysbyty. Roedd ein hymchwil yn datgelu bod cleifion a gafodd alcohol ar bresgripsiwn yn llai tebygol o fod angen cael eu derbyn i’r ysbyty i drin symptomau diddyfnu alcohol. Ac ro’n nhw’n cael llai o drawiadau ar ôl dechrau therapi o gymharu â rhai oedd wedi cael eu trin gyda benzodiazepinau.  

Rydym hefyd wedi archwilio sut gall rhoi alcohol ar bresgripsiwn ategu gofal sylfaenol i gleifion sy’n dangos symptomau diddyfnu alcohol. Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno achos lle roedd alcohol yn cael ei yfed drwy’r geg ac yn cael ei roi mewn gwythïen i reoli sefyllfa heriol iawn.  

Roedd y claf dan sylw’n dangos symptomau diddyfnu alcohol difrifol a thoriad yn y ffêr fyddai angen llawdriniaeth. Cawsant eu trin gydag alcohol mewnwythiennol yn yr ysbyty. Bu i’r dull hwn lwyddo i reoli ei symptomau a chaniatáu i’r llawdriniaeth ddigwydd. Gwnaeth hyn hefyd osgoi’r angen i gael ei dderbyn mewn uned gofal ddwys.

Mae ein canfyddiadau yn dangos bod defnyddio alcohol ar bresgripsiwn fel ffordd o reoli diddyfnu yn ymarfer a bod modd ei gyflawni. Mae gan y dull hwn y potensial i wella’r ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu tra’n lleihau’r baich ar ein gwasanaethau ysbyty.

Mae ein hymchwil hefyd yn amlygu’r angen am waith pellach i ddeall yn well effeithiol rhoi alcohol ar bresgripsiwn ar gleifion, ac archwilio sut gellid rhoi’r dull arloesol hwn ar waith yn rhywle arall. Yn seiliedig ar ein canfyddiadau, mae rhai arbenigwyr wedi argymell y gall fod yn briodol ail-werthuso defnydd ehangach alcohol er mwyn rheoli symptomau diddyfnu alcohol ymysg rhai cleifion.  

Rydyn ni bellach yn casglu adborth gan gleifion wnaeth dderbyn alcohol yn rhan o’u triniaeth ar gyfer diddyfnu alcohol. Mae’r adborth hwn yn ein helpu i ddeall effaith alcohol ar eu symptomau a sut cafodd yr ymyrraeth ei rheoli a’u trafod gyda nhw yn ystod eu gofal.

Rydym hefyd yn dadansoddi data o arolwg ac yn cynnal cyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. Nod y gwaith hwn yw archwilio profiadau a safbwyntiau staff o ran rhoi alcohol ar bresgripsiwn. Drwy fynd i’r afael â’r heriau ac adeiladu ar dystiolaeth newydd, ein nod yw mireinio’r dull hwn a’i ddefnyddio gyda rhagor o gleifion er eu budd nhw.

 

 

Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. Y farn a fynegir yn erthyglau The Conversation yw barn yr awdur(on) ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.