Diwrnod Derbyn Awtistiaeth | Sophie yn helpu oedolion ag awtistiaeth i greu cysylltiadau creadigol
2 Ebrill, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/03-march/Sophie-Chen-cropped.png)
Gall mynegiant creadigol gael effaith ddofn ar bobl ag awtistiaeth, drwy eu helpu i ddatblygu annibyniaeth, rhoi hwb i’w hyder, a chreu ymdeimlad o ryddid. I fyfyrwraig ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), Sophie Chen, roedd arwain sesiynau creadigol i oedolion ag awtistiaeth yn y Ganolfan Bywyd Awtistiaeth yn Nhonypandy yn brofiad trawsnewidiol, nid yn unig i'r cyfranogwyr ond iddi hithau hefyd.
Roedd Sophie, myfyrwraig BA (Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn ei blwyddyn olaf, yn brawychu’n wreiddiol at y syniad o fynd ar leoliad, oherwydd ei bod yn dioddef o orbryder.
"Ro’n i'n nerfus iawn ar y dechrau oherwydd doeddwn i ddim wedi gweithio gydag oedolion ag awtistiaeth o'r blaen," esboniodd Sophie.
"Rwy'n naturiol yn berson tawel, felly roedd cyfathrebu â grŵp swnllyd yn her fawr. Ond roedd y staff yn gefnogol iawn, ac wrth i amser fynd heibio, ro’n i'n fwy cyfforddus."
Yn ystod y lleoliad, creodd Sophie sesiynau celf â’r nod o helpu cyfranogwyr i ddatblygu annibyniaeth ac i’w mynegi eu hunain yn greadigol. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys paentio a gwneud cardiau, gyda phrosiectau ar themâu ar gyfer digwyddiadau fel Diwrnod y Cofio a Phlant mewn Angen. Roedd un sesiwn arbennig o lwyddiannus wedi’i seilio ar ailgylchu deunyddiau i greu pabïau, oedd yn hygyrch ac yn hwyl i’r cyfranogwyr.
"Ro’n i eisiau i'r sesiynau rymuso'r cyfranogwyr a rhoi'r hyder iddyn nhw wneud dewisiadau o ran yr hyn ro’n nhw am ei greu," dywedodd Sophie.
"Eu helpu nhw i deimlo'n rhydd ac yn annibynnol wrth greu oedd y bwriad.
"Roedd rhai cyfranogwyr yn gweld gweadau neu ddeunyddiau penodol yn anodd delio â nhw, felly roedd yn rhaid i fi addasu'r gweithgareddau i wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n gyfforddus," esboniodd.
Gystal oedd y derbyniad a gafodd y sesiynau fel i’r Ganolfan Bywyd Awtistiaeth gynnig cyfle i Sophie barhau i'w cynnal yn y dyfodol. "Dywedon nhw fod y sesiynau yn cyd-fynd ag anghenion y cyfranogwyr, ac roedd yn wych clywed hynny," meddai.
Mae profiad Sophie ar leoliad yn gyflawniad personol sylweddol iddi ar ôl goresgyn heriau iechyd yn gynharach yn ei gradd. Ar ôl cael diagnosis o Lupus, roedd gan Sophie anawsterau symudedd yn ystod ei dwy flynedd gyntaf yn y brifysgol ac yn ddiweddarach cafodd lawdriniaeth nad oedd yn gysylltiedig â'i Lupus. Er gwaethaf y rhwystrau hyn, roedd hi'n benderfynol o’i gwthio ei hun yn ei blwyddyn olaf.
"Ar ôl y cyfan rydw i wedi bod drwyddo, mae'r lleoliad hwn wir wedi fy helpu i gamu allan o fy mywyd cyfarwydd, cyffyrddus, a thyfu mewn hyder," meddai Sophie. "Mae wedi gwneud i fi sylweddoli y gallai gweithio gydag oedolion ag awtistiaeth fod yn rhywbeth yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol, a meithrin annibyniaeth a lles o fewn y gymuned awtistig."
Dywedodd Dr Dan Bowers, y Pennaeth Pwnc: "Yn PDC, mae ymgysylltu, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd popeth a wnawn.
"Llongyfarchiadau i Sophie am gamu allan o'i pharth cysur, a diolch yn fawr i’r Ganolfan Bywyd Awtistiaeth am groesawu ein myfyrwyr i weithio gyda nhw."