Astudiaeth newydd yn datgelu strategaethau ar gyfer triniaeth ddiogel i ddadwenwyno alcohol
10 Medi, 2025
Mae astudiaeth dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn taflu goleuni ar yr arferion gorau y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu defnyddio i baratoi unigolion risg uchel sy'n dewis triniaeth dadwenwyno alcohol.
Mae triniaeth ddewisol ar gyfer dadwenwyno alcohol yn cyfeirio at broses wedi'i chynllunio, dan oruchwyliaeth feddygol, lle mae rhywun sy'n dibynnu ar alcohol yn rhoi'r gorau i yfed alcohol mewn modd rheoledig a diogel.
Mae dibyniaeth ar alcohol yn peri risgiau sylweddol i iechyd. Yn nodweddiadol, ystyrir bod unigolion sydd mewn perygl o ddatblygu symptomau diddyfnu (withdrawal) difrifol yn ystod triniaeth ddadwenwyno, fel trawiadau neu rithwelediadau, yn cael eu hystyried yn ormod o risg ar gyfer gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewnol yn y gymuned, yn y cartref neu rai y tu allan i'r ysbyty. Felly, mae dadwenwyno diogel ac effeithiol yn hollbwysig. Mae defnydd cronig o alcohol yn gysylltiedig ag amrywiaeth o gymhlethdodau meddygol difrifol, gan gynnwys clefyd yr afu, problemau cardiofasgwlaidd, niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, a risg uwch o rai mathau o ganser. Mae dibyniaeth hefyd yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl, fel iselder a phryder, ac yn cyfrannu at niwed cymdeithasol, gan gynnwys perthynas yn chwalu, colli swydd a digartrefedd.
Gall diddyfnu alcohol yn sydyn, yn enwedig mewn unigolion risg uchel, achosi cymhlethdodau peryglus, fel trawiadau, deliriwm tremens, a hyd yn oed marwolaeth os na chaiff ei reoli'n iawn. Mae triniaeth ddadwenwyno wedi'i strwythuro'n ofalus, gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol hyfforddedig, yn hanfodol i sicrhau diogelwch ac adferiad hirdymor. Mae'r astudiaeth hon yn adrodd ar ganlyniadau sydd nid yn unig yn cefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau i unigolion risg uchel, ond maent hefyd yn berthnasol i leoliadau dadwenwyno safonol eraill.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Sandwell a Gorllewin Birmingham (SWB) yn darparu model enghreifftiol o ofal arbenigol i unigolion risg uchel sy'n cael trafferth gyda dibyniaeth ar alcohol drwy ei Thîm Gofal Alcohol (ACT). Bu ymchwilwyr yn cwrdd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o wasanaeth dadwenwyno dewisol yr Ymddiriedolaeth, gan gasglu dros 50 mlynedd o arbenigedd mewn rheoli achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Canfyddiadau Allweddol:
- Meithrin cymhelliant i newid: Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn pwysleisio y dylid sefydlu ymrwymiad personol clir ar y dechrau i wella parodrwydd ar gyfer dadwenwyno.
- Asesiad trylwyr o hanes alcohol: Mae dealltwriaeth fanwl o ddefnydd alcohol pob claf yn allweddol wrth ddylunio triniaeth dadwenwyno ddiogel sy'n sensitif i gyd-destun.
- Gofal unigol, wedi'i deilwra: Mae cydnabod anghenion ac amgylchiadau unigryw pob claf yn cefnogi cynllunio triniaeth ddadwenwyno fwy effeithiol ac empathig.
- Pwysleisio parodrwydd i newid: Mae meithrin parodrwydd meddwl ac emosiynol yn gwneud i'r cleifion fod yn berchen ar eu taith adfer eu hunain.
- Technegau ymarferol i leihau niwed: Mae strategaethau fel cyfuno diodydd i leihau pa mor aml y bydd yn yfed, defnyddio'r dull 'mesur a chael gwared', gadael bwlch hirach rhwng diodydd bob dydd, a gwanhau diodydd, i gyd yn ddulliau ymarferol i’w dilyn cyn triniaeth dadwenwyno.
Dywedodd Dr Darren Quelch, Uwch Gymrawd Ymchwil: Mae llawer o wasanaethau’n cael trafferth cwrdd ag anghenion pobl sy'n wynebu risg uchel o ddatblygu symptomau diddyfnu alcohol difrifol yn ystod triniaeth ddadwenwyno. Mae hyn yn gadael y grŵp mwyaf agored i niwed yn wynebu'r rhwystr mwyaf o ran cael gafael ar wasanaethau triniaeth. Mae gwasanaeth dewisol SWB yn cynnig ateb posibl i'r broblem hon. Rydym wedi dangos wrth baratoi’n gywir, bod modd cefnogi'r rhai sy'n wynebu’r risg mwyaf yn ddiogel ac yn effeithiol.
“Drwy fanteisio ar arbenigedd ymarferol gweithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen, rydyn ni'n helpu i gau'r bwlch rhwng polisïau a gweithredu, sicrhau bod triniaethau effeithiol ar gael i'r gymuned ehangach, ac yn y pen draw gwneud gwasanaethau dadwenwyno alcohol yn fwy hygyrch, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn fwy diogel i bawb.”