Mwy o lwyddiant i PDC yn Gwobrau Fintech Cymru
12 Medi, 2025
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto yng Ngwobrau Fintech Cymru.
Enillodd y rhaglen MSc Gwyddor Data y wobr am y Rhaglen Academaidd Orau'r Flwyddyn yn Cefnogi Fintech / Cwmnïau FS yn y gwobrau, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Enillodd y rhaglen yr un anrhydedd hefyd yng Ngwobrau Fintech Cymru 2023.
Mae'r Gwobrau wedi'u cynllunio i gydnabod, denu a buddsoddi yn y Cwmnïau Fintech talentog a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru. Maent yn tynnu sylw at gyflawniadau'r sector Fintech ffyniannus ledled y wlad, gan ddod ag arloeswyr ac arbenigwyr digidol blaenllaw Cymru at ei gilydd.
Dywedodd Arweinydd y Cwrs, Ieuan Griffiths: "Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint o ennill y wobr hon.
"Rydym yn ymfalchïo mewn darparu cwricwlwm cyfredol a heriol sy'n darparu ar gyfer anghenion busnes, yn yr hyn sy'n ddiwydiant cyflym.
"Mae ennill y wobr hon yn rhoi'r hyder a'r dilysiad i ni y mae'r MSc mewn Gwyddor Data yn cyflawni ar y genhadaeth hon, ac rwy'n falch o'r tîm a'r sefydliad am ein galluogi i gyrraedd ein nod."