Adroddiad disglair ar ragoriaeth mewn addysg chwaraeon
23 Mehefin, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/06-june/Sport-Park-barn-_-strength-and-conditioning_30412-1.jpg)
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn adroddiad disglair gan CIMSPA (Y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol), yn dilyn Archwiliad Sicrhau Ansawdd trylwyr.
Derbyniodd PDC y sgôr uchaf posib, sy'n golygu bod PDC wedi dilyn arfer gorau yn y rhan fwyaf o'u gweithrediadau, prosesau a gweithdrefnau. Barnwyd bod y Brifysgol yn cynnig darpariaeth o'r ansawdd uchaf i'w dysgwyr CIMSPA.
Mae cymwysterau a gydnabyddir gan CIMSPA wedi eu hymwreiddio’n uniongyrchol yn y cwricwlwm yn PDC. Yn rhan o'u graddau mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Chryfder a Chyflyru, mae'n ofynnol i fyfyrwyr fodloni safonau CIMSPA i ennill cymwysterau Hyfforddwr Campfa Lefel 2 a Hyfforddwr Personol Lefel 3.
Cafwyd canmoliaeth gan CIMSPA i gwricwlwm, addysgu a systemau cymorth rhagorol PDC sy'n sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n academaidd ac hefyd yn barod i'r diwydiant ar ôl graddio. Tynnodd yr adroddiad archwilio sylw at allu PDC i integreiddio cymwysterau proffesiynol o fewn rhaglenni gradd, gan helpu myfyrwyr i sicrhau ardystiadau gwerthfawr yn ystod eu cyfnod yn astudio.
Disgrifiodd Jayden Wells ei flwyddyn gyntaf yn astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff fel un "wych." Ar ôl symud o'i hen ysgol lle roedd wedi astudio ers Blwyddyn 7, fe synnodd mor gyflym y gwnaeth e ymgartrefu yn PDC.
"O fewn y mis cyntaf, ro’n i'n gwybod bod yr un math o deimlad yma ag oedd yn fy ysgol. Roedd yn teimlo fel cartref," dywedodd Jayden.
Mae'r cymwysterau CIMSPA eisoes wedi agor drysau i Jayden. Yn ddiweddar, cafodd swydd fel Hyfforddwr Ffitrwydd yn PureGym newydd sbon Aberdâr.
Mae rôl Jayden yn cynnwys darparu sesiynau sefydlu ffitrwydd, dosbarthiadau ymarfer corff mewn grwpiau, a sesiynau hyfforddi personol. Yn ddiweddar, cwblhaodd hyfforddiant cymorth cyntaf, ardystiad ymarfer corff mewn grwpiau, a gweithdai gwerthiannau a gweithrediadau.
Er ei fod yn dal yn ei flwyddyn gyntaf, mae Jayden eisoes yn adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa yn y diwydiant ffitrwydd yn y dyfodol. Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd yn cynnal dosbarthiadau a chreu rhaglenni ffitrwydd a maeth pwrpasol ar gyfer cleientiaid."
Mae’r ffaith bod PDC wedi cyrraedd safon Cyfoethogi CIMSPA yn dangos sut mae ei rhaglenni chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr fel Jayden ar gyfer llwyddiant yn y byd go iawn o'u diwrnod cyntaf un yn y Brifysgol.
"Rydym yn hynod falch o'r gydnabyddiaeth gan CIMSPA," dywedodd Dr Tom Owens, Darlithydd mewn Gwyddor Biofeddygol. "Mae ein myfyrwyr yn derbyn addysg ragorol ac yn cyrraedd y diwydiant fel gweithwyr proffesiynol cymwys, hyderus."