PDC yn llofnodi cytundeb gyda’r cwmni sbin-allan Llusern Scientific

25 Mehefin, 2025

Tiwbiau prawf

Mae cwmni a sefydlwyd i drawsnewid maes diagnosteg feddygol wedi llofnodi cytundeb i gryfhau’r cysylltiadau gyda Phrifysgol De Cymru (PDC).

Sefydlwyd Llusern Scientific, cwmni sin-allan o PDC, yn 2020 gyda’r weledigaeth o chwyldroi maes diagnosteg.

Roedd ei sylfaenwyr yn cydnabod yr angen brys am atebion profi cyflym, cywir a hygyrch i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol o wrthwynebiad i wrthfiotigau, ac i wella canlyniadau cleifion.

Datblygodd tîm o arbenigwyr y cwmni ym meysydd microbioleg, geneteg a pheirianneg drydanol blatfform diagnosteg foleciwlaidd flaengar sy’n helpu gweithwyr gofal iechyd i wneud penderfyniadau gwybodus wrth bwynt gofal. Mae hyn wedi darparu ffordd fwy effeithlon o gychwyn triniaeth dargeded ar gyfer Heintiau’r Trac Wrin (UTIs) ac wedi lleihau’r defnydd dianghenraid o wrthfiotigau.

Mae Llusern hefyd wedi ennill ardystiad ISO 13485 yn ddiweddar ar gyfer ei system brofi, sy’n dangos ei bod wedi sefydlu cyfleuster gweithgynhyrchu sy’n bodloni safonau o’r radd flaenaf yn fyd-eang.

Wedi sawl blwyddyn lwyddiannus o fusnes, mae Llusern a Phrifysgol De Cymru wedi cytuno i drafod cydweithredu pellach, ac wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) i gefnogi’r trafodaethau hyn, sydd mewn grym o fis Awst ymlaen. Y nod yw i’r trafodaethau hyn arwain at gytundeb cyfreithiol rhwymol.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau posibl, gan gynnwys datblygiad a hyfforddiant staff, lleoliadau i fyfyrwyr, cydweithio ym maes addysgu, dysgu, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth, defnyddio cyfleusterau, ymchwil ar y cyd, a marchnata a hyrwyddo.

Datblygwyd Llusern gan academyddion ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae rhai ohonynt bellach yn gweithio’n llawn amser gyda’r busnes, tra bod eraill yn rhannu eu hamser rhwng y Brifysgol a Llusern.

Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi) ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae meithrin cysylltiadau agosach â Llusern o fudd mawr i’r Brifysgol a’r cwmni fel ei gilydd.

“Gan ein bod wedi gweithio’n agos gyda Llusern ers ei sefydlu, ac â’i dîm arweinyddiaeth arloesol pan oedd llawer ohonynt yn gweithio yn PDC, mae gennym bartneriaeth gadarn eisoes.

“Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn nid yn unig yn adeiladu ar y berthynas honno, ond hefyd yn caniatáu i’r ddwy ochr barhau i rannu’r stori lwyddiannus, cefnogi myfyrwyr a chydweithwyr, datblygu strategaethau ymchwil, ac ehangu datblygiad technolegau arloesol ymhellach.”