Wnaiff Dydd Sant Ffolant ddim trwsio'ch perthynas - ond gallai theori ymlyniad ei hesbonio

14 Chwefror, 2026

Delwedd o ddwy law sy'n perthyn i ddau berson gwahanol. Mae darn coch o linyn wedi'i glymu wrth un bys ar bob llaw, sy'n cysylltu'r ddwy.

Dr Martin Graff, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg, yn ysgrifennu ar gyfer The Conversation ar Ddydd Sant Ffolant.

Wrth i Ddydd Sant Ffolant agosáu, mae pob bwrdd wedi’i archebu yn y bwytai a chyplau’n cyfnewid cardiau, blodau ac anrhegion sydd wedi'u dewis yn ofalus. I rai, mae'n ddiwrnod o agosatrwydd a chysylltiad. I eraill, gall ddod â gorbryder, siom neu bellter emosiynol.

Gall y gwahanol ymatebion hyn deimlo'n bersonol iawn. Ond o ran seicoleg, gallen nhw adlewyrchu rhywbeth llawer dyfnach – sut y dysgon ni i gysylltu â phobl eraill yn ystod plentyndod.

Mae theori ymlyniad yn ffordd bwerus o ddeall pam mae perthnasoedd rhamantus yn datblygu fel maen nhw, a pham y gall partneriaid weithiau deimlo'n emosiynol anghyfartal. Wedi'i datblygu dros ddegawdau o ymchwil, mae'n awgrymu bod ein profiadau cynharaf o ofal yn siapio pa mor ddiogel, cysylltiedig neu fregus rydyn ni'n teimlo mewn cariad fel oedolion.

Cynigiwyd theori ymlyniad yn gyntaf gan y seiciatrydd o Brydain, John Bowlby, a ddadleuodd fod pobl wedi'u weirio’n fiolegol i ffurfio cysylltiadau emosiynol agos â'u gofalwyr. Mae'r ymlyniadau cynnar hyn yn helpu babanod i deimlo'n ddiogel ac yn dysgu iddyn nhw beth i'w ddisgwyl o berthnasoedd.

Yn ddiweddarach, ehangodd y seicolegydd datblygiadol o Ganada, Mary Ainsworth, y gwaith hwn trwy astudiaethau yn arsylwi sut roedd babanod yn ymateb i wahanu ac aduno. Canfu fod plant yn datblygu gwahanol batrymau ymlyniad yn dibynnu ar ba mor gyson mae eu gofalwyr yn bodloni eu hanghenion emosiynol.

Yn syml, mae theori ymlyniad yn awgrymu bod perthnasoedd cynnar yn creu "templedi" mewnol ar gyfer cysylltiad. Mae'r rhain yn dylanwadu ar b’un ai a ydyn ni’n ystyried eraill yn ddibynadwy, sut rydyn ni'n ymdopi â straen emosiynol, a pha mor gyfforddus ydyn ni'n teimlo ag agosatrwydd. Mae'r rhain yn batrymau sy'n aml yn parhau i mewn i oedolaeth.

Mathau o ymlyniad

Mae ’na bedair arddull ymlyniad, sy'n bodoli ar sbectrwm yn hytrach nag fel categorïau sefydlog.

Mae pobl ag arddull ymlyniad diogel yn tueddu i deimlo'n gyfforddus ag agosatrwydd ac annibyniaeth. Maen nhw fel arfer yn ymddiried yn eu partneriaid, yn cyfathrebu'n agored ac yn gallu dibynnu ar eraill heb ofni colli eu hunain.

Mae'r rhai sydd ag ymlyniad gorbryderus yn aml yn dyheu am agosatrwydd ond yn poeni am gael eu gadael. Efallai y byddan nhw’n ceisio sicrwydd, yn gorfeddwl rhyngweithiadau, neu wedi’u meddiannu gan argaeledd eu partner.

Mae pobl ag ymlyniad osgoi yn rhoi gwerth uchel ar hunan-ddibyniaeth a gallan nhw deimlo'n anghyfforddus gyda dibyniaeth emosiynol. Gallant gael trafferth gydag agosatrwydd a thynnu'n ôl pan fydd perthnasoedd yn dwysáu.

Mae ’na grŵp llai sy’n dangos ymlyniad anhrefnus. Mae hyn wedi'i nodweddu gan ddymuniadau sy’n gwrthdaro o ran agosatrwydd a phellter, yn aml yn gysylltiedig â phrofiadau cynnar o ansefydlogrwydd.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn ffitio'n daclus i mewn i un categori.

Sut mae ymlyniad yn dod i’r amlwg mewn perthnasoedd fel oedolion

Mae ymchwil yn awgrymu bod yr arddulliau ymlyniad hyn yn parhau i siapio sut rydyn ni’n ymwneud â phartneriaid rhamantus. Mae pobl ag ymlyniad diogel yn fwy tebygol o ddisgrifio eu perthnasoedd fel rhai o ymddiriedaeth, cefnogaeth a boddhad emosiynol.

Mewn cyferbyniad, mae ymlyniad gorbryderus yn gysylltiedig ag ofnau o gael eu gwrthod a sensitifrwydd emosiynol uwch, tra bod ymlyniad osgoi yn gysylltiedig ag anghysur ag agosatrwydd ac anhawster yn dibynnu ar eraill. Mae rhai pobl yn symud rhwng yr ymatebion hyn, gan brofi perthnasoedd fel pethau cysurlon a phoenus.

Mae'r patrymau hyn yn helpu i esbonio deinameg gyfarwydd, fel pam mae un partner eisiau datrys gwrthdaro ar unwaith tra bod angen lle ar y llall, a pham mae rhai pobl yn syrthio mewn cariad yn gyflym tra bod eraill yn cael trafferth ymrwymo. Mae llawer o hyn yn digwydd yn anymwybodol, wedi'i yrru gan ddisgwyliadau a ffurfiwyd ymhell cyn oedolaeth.

Mae'r cwestiwn ynghylch a all arddulliau ymlyniad newid dros amser yn un anodd. Efallai na fyddan nhw’n cael eu gosod am oes. Ond gallen nhw hefyd gael eu pennu’n fwy gan dueddiadau cymdeithasol yr oes, yn hytrach na newidiadau gwirioneddol mewn ymlyniad.

Fodd bynnag, ceisiodd astudiaeth o 2019 ymchwilio i b’un ai a yw arddull ymlyniad yn newid ar draws cyfnod oes. Canfu, er bod arddull ymlyniad yn gyffredinol gyson, y gall hefyd gael ei heffeithio gan ein perthnasoedd a'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu ar wahanol gyfnodau o'n bywydau.

Felly, mae ymlyniadau gorbryderus ac osgoi yn tueddu i fod yn uwch yn y glasoed ac mewn oedolion ifanc, gan leihau i mewn i ganol oed a henaint, ar adeg pan rydyn ni o bosibl yn fwy hyderus y bydd ein perthnasoedd yn para. Canfu'r ymchwilwyr hefyd, ar draws cyfnod oes, fod perthnasoedd agos yn tueddu i gyfateb i sgoriau isel mewn ymlyniadau osgoi a gorbryderus.

Mae Dydd Sant Ffolant wedi'i gynllunio i bwysleisio rhamant. Ond faint o hyn sy'n cael ei bennu gan arddull ymlyniad?  Mae un astudiaeth wedi dangos bod y rhai sy’n dangos llai o ymddygiadau osgoi yn tueddu i adrodd boddhad uwch yn eu perthynas ar Ddydd Sant Ffolant, tra gall teimladau o agosatrwydd a dibyniaeth gryfhau perthnasoedd yn ystod adegau fel hyn.

I bobl sydd â thueddiadau gorbryderus neu osgoi, fodd bynnag, gall y diwrnod dynnu sylw at anghysondebau emosiynol. Er enghraifft, mae un partner yn ceisio sicrwydd, tra bod y llall yn cael ei lethu gan ddisgwyliadau.

Er bod ymlyniadau gorbryderus ac osgoi yn gysylltiedig â boddhad is mewn perthynas, dydyn nhw ddim yn ddedfrydau oes. Mae arddulliau ymlyniad yn cael eu dysgu, sy'n golygu y gellir eu hail-siapio hefyd. Mae deall ymlyniad yn helpu i fframio'r eiliadau hyn nid fel methiannau personol, ond fel adlewyrchiadau o batrymau emosiynol dyfnach a luniwyd gan fagwraeth a phrofiad.

Ar Ddydd Sant Ffolant eleni, ochr yn ochr â chardiau a siocledi, mae ’na anrheg arall sy'n werth ei hystyried – chwilfrydedd am sut y gwnaethoch chi ddysgu i garu. Gall cydnabod eich patrymau ymlyniad eich hun, a rhai eich partner, gynnig tosturi, eglurder a llwybr tuag at berthnasoedd mwy diogel.

 

Mae'r erthygl hon wedi’i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Barn yr awdur(on) yw’r hyn a fynegir yn erthyglau The Conversation ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.