Prifysgol De Cymru yn croesawu’r Uwch Gynghrair

8 Ebrill, 2026

Myfyriwr hyfforddi pêl-droed yn gwisgo siaced chwaraeon Prifysgol De Cymru yn sefyll gyda breichiau wedi'u croesi ar gae artiffisial dan do y tu mewn i gyfleuster hyfforddi mawr.

Yn ddiweddar, fe fu Prifysgol De Cymru (PDC) yn gartref i ddigwyddiad pwysig dan ofal yr Uwch Gynghrair Pêl-droed oedd â’r nod o ddatblygu hyfforddwyr.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mharc Chwaraeon PDC, ac roedd yn rhan o Gynllun Achredu Hyfforddwyr Elît (ECAS) yr Uwch Gynghrair. Daeth â rhai o hyfforddwyr mwyaf addawol pêl-droed Lloegr at ei gilydd, rhai sy’n gweithio o fewn academïau Categori 1 y Cynllun Perfformiad Chwaraewyr Elît mewn clybiau fel Clwb Pêl-droed Lerpwl, Clwb Pêl-droed Arsenal, Clwb Pêl-droed Aston Villa, Clwb Pêl-droed  Newcastle United, a Clwb Pêl-droed Crystal Palace.

Mae'r rhaglen ddwys, o'r enw 'A Week in 48 Hours', yn ymdrochi hyfforddwyr mewn sefyllfaoedd pwysau uchel efelychiadol allai godi yn ystod eu hwythnos gyntaf yn rheoli clwb Cynghrair 2 Pêl-droed Lloegr. Ar gyfer y digwyddiad hwn, roedd y sefyllfa efelychiadol wedi’i seilio ar Glwb Pêl-droed Sir Casnewydd, ac yn herio cyfranogwyr i ymdrin â’r gofynion fyddai ar uwch arweinwyr, gan gynnwys gwneud penderfyniadau, a hybu perfformiad eu tîm, y cyfan o fewn cyfnod dwys o ddau ddiwrnod.

Mae'r digwyddiad yn ganlyniad cydweithrediad parhaus rhwng PDC ac adran Datblygu Hyfforddwyr yr Uwch Gynghrair. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r Athro Brendan Cropley o PDC wedi bod yn cynnal ymchwil i systemau datblygu hyfforddwyr o fewn academïau pêl-droed elît.

Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfleoedd i staff a myfyrwyr PDC. Cefnogodd staff chwaraeon PDC y rhai oedd yn dilyn yr hyfforddiant drwy weithio fel hyfforddwyr cynorthwyol, ac roedd myfyrwyr hyfforddiant pêl-droed yn cyfrannu fel chwaraewyr a dadansoddwyr perfformiad. Gwnaeth y cyfraniad ymarferol hwn alluogi myfyrwyr i gael blas uniongyrchol ar realiti amgylcheddau pêl-droed elît.

Dywedodd yr Athro Cropley: "Drwy groesawu ECAS yr Uwch Gynghrair, fe wnaethon ni greu 'labordy byw', oedd yn cynnig mynediad unigryw i'n myfyrwyr at arferion hyfforddi lefel elît. Rhoddodd y digwyddiad syniad i gyfranogwyr o’r pwysau sydd ynghlwm wrth reoli proffesiynol, a chyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen i arwain timau perfformiad uchel. Dangosodd hefyd sut mae’r hyfforddwyr gorau yn datblygu eu hathroniaethau, a’u rhoi ar waith.

"Mae'r digwyddiad yn enghraifft ardderchog o ymrwymiad PDC at gyfuno rhagoriaeth academaidd â phrofiad yn y byd go iawn, gan atgyfnerthu enw da’r brifysgol fel lleoliad sy’n arwain y sector addysg bêl-droed a datblygu hyfforddwyr."

Hyfforddi Pêl-droed Elitaidd: Yr Uwch Gynghrair yn PDC

USW's indoor FIFA standard 3G football pitch at the Sport Park.