Lansio canllaw ac ymchwil newydd i ehangu mynediad at gerddoriaeth i ddysgwyr awtistig
7 Gorffennaf, 2026
Mae Live Music Now a Phrifysgol De Cymru (PDC) wedi cyhoeddi canllaw am ddim i gefnogi ymarferwyr cerddoriaeth, addysgwyr a staff ysgolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc awtistig mewn Canolfannau Adnoddau Awtistiaeth (ARBs) – dosbarthiadau pwrpasol mewn ysgolion prif ffrwd.
Mae'r canllaw yn benllanw pedair blynedd o waith gan Live Music Now, gyda'r flwyddyn olaf hon o ymchwil gweithredu cyfranogol ffurfiol mewn cydweithrediad â PDC ac wedi'i ariannu gan Hwb AHRC ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd ag Ymchwil Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Southampton. Mae'n dwyn ynghyd dystiolaeth o adolygiad o ymchwil bresennol, arolwg cenedlaethol o dros 100 o leoliadau ARB ym mhob un o'r pedair gwlad yn y DU, cydweithrediad â cherddorion awtistig a rhanddeiliaid proffesiynol, a phrosiectau cerddorion preswyl yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Mae nifer yr ARBs mewn ysgolion prif ffrwd wedi tyfu'n gyflym ledled y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae ymchwil yn dangos bod cerddoriaeth yn meithrin hyder a lles a gall fod yn offeryn ar gyfer cyfathrebu a hefyd ffordd o ddatblygu sgiliau cyfathrebu i bobl ifanc awtistig. Ond canfu ymchwil gynnar y prosiect fod darpariaeth cerddoriaeth mewn llawer o leoliadau yn gyfyngedig - a bod gan y mwyafrif o blant ychydig neu ddim cyswllt â'u gwasanaeth cerddoriaeth leol neu hwb.
Dywedodd Karen Irwin, Cyfarwyddwr Strategol Cerddoriaeth mewn Addysg yn Live Music Now: "Mae gan gerddoriaeth botensial wirioneddol i gefnogi cyfathrebu, lles a dysgu i bobl ifanc Awtistig – ond mae gormod o blant mewn ARBs yn colli allan. Mae'r canllaw hwn yn rhoi fframwaith ymarferol, wedi’i seilio ar dystiolaeth a gwerthoedd i ymarferwyr newid hynny, beth bynnag fo'u cefndir cerddorol neu’u gyllideb."
Dywedodd Dr Beth Pickard, Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Cerddoriaeth yn PDC ac arweinydd academaidd y prosiect: "Canfu ein hadolygiad absenoldeb trawiadol o ymchwil yn y DU ar gerddoriaeth mewn ARBs. Mae'r prosiect hwn wedi ceisio mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw – ac i ganolbwyntio ar leisiau pobl Awtistig drwy'r amser. Mae'r canllaw yn adlewyrchu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu gan gerddorion awtistig, gan blant a phobl ifanc, gan staff sy'n gweithio yn y lleoliadau hyn bob dydd."
Mae'r canllaw yn gefnogol i niwroamrywiaeth, wedi'i seilio ar y model cymdeithasol o anabledd, ac yn hyrwyddo dealltwriaeth o awtistiaeth sy'n seiliedig ar gryfderau. Mae wedi'i gynllunio i fod yn addasadwy i ystod eang o leoliadau, cyllidebau a lefelau arbenigedd cerddorol. Fe'i datblygwyd mewn cydweithrediad â'r cerddor awtistig a'r therapydd cerddoriaeth Alex Lupo, Arweinydd Creadigol a Hyfforddwr yn Live Music Now, a arweiniodd y prosiectau cerddor preswyl, a grŵp llywio o gerddorion awtistig â phrofiad byw amrywiol.
Dywedodd Alex Lupo: "Mae'r canllaw hwn wedi'i adeiladu o gwmpas yr hyn y mae pobl ifanc awtistig yn ei ddweud wrthym trwy eu hymgysylltiad â cherddoriaeth – beth maent yn ei weld yn ystyrlon, beth sy'n eu helpu i deimlo'n ddiogel, a beth sy'n agor pethau lan iddynt."
Mae'r canllaw ar gael am ddim o wefan Live Music Now, ar dudalen Autism Resource Bases ochr yn ochr â ffilm sy'n dogfennu'r prosiect, a briffiau polisi a ddatblygwyd gyda chymdeithion polisi ym Mhrifysgol Southampton.