Pobl ifanc eisiau mwy o addysg ynghylch stelcio wedi i ymchwil ddatgelu camddealltwriaeth eang
2 Gorffennaf, 2026
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn galw am fwy o addysg ynghylch stelcio ar ôl i ymchwil newydd ddatgelu camddealltwriaeth eang o ran beth yw ystyr stelcio, pwy sy'n ei gyflawni, a phryd i geisio help.
Ymgysylltodd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru (PDC), ar y cyd â’u partneriaid yn Calan DVS a Heddlu De Cymru, ag 84 o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn cyfres o weithdai i archwilio graddau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o stelcio.
Canfu'r astudiaeth, oedd wedi ei hariannu gan Gronfa Prosiectau Bach VISION, fod cyfranogwyr yn aml yn dychmygu stelcwyr fel dynion hŷn, pobl ddieithr, neu unigolion "rhyfedd" oedd yn llechu yn y mannau tywyll. Roedd llai o lawer o bobl yn debygol o ddeall bod stelcio yn aml yn cael ei wneud gan rywun mae’r dioddefwr yn ei adnabod a’i fod yn gallu cynnwys ymddygiad nad yw’n ymddangos yn anarferol i ddechrau, ond sy’n gwaethygu dros amser.
Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi eu rhyddhau ar adeg pan fo’r ystadegau swyddogol yn dangos bod tuag un o bob saith person 16 oed a hŷn yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef stelcio o leiaf unwaith, gyda'r cyfraddau uchaf ymhlith grwpiau iau, yn enwedig ymhlith menywod ifanc.
Dywedodd Dr Sarah Wallace, Athro Cysylltiol a Phrif Ymchwilydd y prosiect: "Mae pobl ifanc yn deall yn glir bod stelcio yn ddifrifol ac yn gallu arwain at ganlyniadau dinistriol. Beth mae’r prosiect hwn wedi’i gadarnhau yw bod stereoteipiau yn aml yn dylanwadu ar y ffordd maen nhw’n meddwl am stelcio. Roedd llawer yn llai ymwybodol y gall stelcio gynnwys cyd-ddisgybl, cydnabod, cyn-bartner, neu ffrind.
"Mae'r camsyniadau hyn yn bwysig oherwydd maen nhw’n gallu rhwystro pobl ifanc rhag adnabod stelcio yn eu bywydau eu hunain neu ym mywydau’r pobl o'u cwmpas."
Datgelodd y gweithdai ddarlun cymysg o ran hyder a dealltwriaeth. Er bod llawer o gyfranogwyr yn credu eu bod yn gwybod beth oedd stelcio, datgelodd trafodaethau bod ansicrwydd ynghylch sut mae stelcio yn wahanol i aflonyddu, pryd mae ymddygiad yn troi’n drosedd, ac o ble gall dioddefwyr gael cymorth.
Canfu’r ymchwilwyr hefyd fod diffyg hyder o ran adrodd am stelcio. Roedd mwy na thraean o'r cyfranogwyr yn ansicr a fydden nhw’n gofyn am help pe bae rhywun neu rywrai yn eu stelcio, ac fe dywedodd rhai eu bod yn poeni na fyddai adroddiadau'n cael eu cymryd o ddifri.
Fel yr esboniodd un cyfranogwr:
"Gan amlaf, rydych chi'n cael eich galw'n ddramatig a bydd pobl yn aml yn haeddu nad ydych chi wir wedi dioddef. Dyw stelcio byth yn cael ei gymryd ddigon o ddifri’ tan i rywun farw."
Thema oedd yn amlwg iawn drwy’r ymchwil drwyddi draw oedd y galw am well addysg. Roedd pobl ifanc yn gyson yn ystyried mai addysg ynghylch stelcio oedd eu prif flaenoriaeth ac roedden nhw’n galw am ddysgu mwy rhyngweithiol, clywed mwy o straeon goroeswyr, cael enghreifftiau realistig, a thrafodaethau'n adlewyrchu realiti bywyd modern, gan gynnwys monitro’r cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau ar-lein.
Dywedodd Dr Wallace: "Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymyrraeth gynnar a chodi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc, yn enwedig o ystyried y cyfraddau uchel o stelcio a seiberstelcio sy’n digwydd ymhlith grwpiau oedran iau. Roedd cyfranogwyr yn glir eu bod eisiau gwell gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau, mwy o drafod, a rhagor o gyfleoedd i ddeall stelcio cyn iddo effeithio arnyn nhw neu rywun maen nhw'n ei adnabod."
Yn sgil y prosiect, gweithiodd yr ymchwilwyr gyda myfyrwyr y cyfryngau ac arbenigwyr stelcio i ddatblygu adnoddau addysgol newydd gyda'r nod o wella ymwybyddiaeth o stelcio a helpu pobl ifanc i adnabod arwyddion o berygl a chael mynediad at gymorth.
Cynhaliodd tîm y prosiect ddigwyddiad ar-lein yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Stelcio ym mis Ebrill y daeth bron i 100 o gyfranogwyr ynghyd ar ei gyfer. Eu nod yw sicrhau bod y drafodaeth yn parhau o ran y risgiau mae pobl ifanc yn eu hwynebu a'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Mae Dr Sophia Kier-Byfield, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil a Chyd-ymchwilydd y prosiect, yn cynnal digwyddiad ar 14 Gorffennaf yng Nghaerdydd ac ar-lein: Stelcio a Phobl Ifanc Tickets, Tuesday, July 14 • 10 AM - 4:30 PM GMT+1 | Eventbrite