Cyfleoedd encilio yn gwella hyder myfyrwyr ac yn lleihau gorbryder wrth weithio ar draethodau hir
21 Ionawr, 2026
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol De Cymru (PDC) yn dangos gwerth mynd ar encil ysgrifennu i fyfyrwyr israddedig sy’n gweithio ar draethodau hir.
Mae seicolegwyr wedi canfod bod mynd ar encil o’r fath yn gwella hyder myfyrwyr yn sylweddol, yn lleihau gorbryder ac yn meithrin ymdeimlad cryfach o gymuned.
Dros ddwy flynedd academaidd, gwnaeth yr ymchwil archwilio effaith encilion ysgrifennu oedd â’r nod o helpu myfyrwyr seicoleg yn ystod eu gwaith ar draethodau hir, un o elfennau mwyaf heriol eu gradd.
Trefnodd tîm seicoleg PDC ddau ddigwyddiad ysgrifennu preswyl oedd wedi’u cynllunio i roi amser a lle i fyfyrwyr blwyddyn olaf weithio ar eu traethodau hir. Roedd yr encilion yn para dau ddiwrnod gydag arhosiad dros nos. Roedden nhw’n cyfuno cyfnodau â ffocws ar ysgrifennu a seibiannau byr. Roedd myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â chyfoedion ar gam tebyg o'u gwaith ar eu traethodau hir, gan greu ymdeimlad o bwrpas ar y cyd.
Roedd darlithwyr yn bresennol i gynnig cyngor heb bwysau, ateb cwestiynau a thawelu’r meddwl pan oedd angen. Ymgynghorwyd â myfyrwyr cyn y digwyddiadau o ran pa bynciau roedden nhw am iddyn nhw gael sylw mewn dosbarthiadau meistr, gan sicrhau cymorth oedd wedi’i dargedu at eu hanghenion.
Roedd y pwyslais ar wneud cynnydd a meithrin hyder ac ymdeimlad o gymuned yn hytrach nag addysgu ffurfiol, a helpu myfyrwyr i rannu tasg fawr yn unedau llai ac ail-ymgysylltu'n gadarnhaol â'u gwaith traethawd hir.
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod myfyrwyr a gymerodd ran yn y cyfleoedd encilio wedi adrodd eu bod yn credu mwy ynddyn nhw eu hunain, bod ganddyn nhw well ffocws a llai o straen wrth weithio ar eu traethodau hir. Dywedodd cyfranogwyr hefyd eu bod yn teimlo'n llai ynysig, a’u bod wedi elwa o weithio ochr yn ochr â chyfoedion mewn amgylchedd cyffredin a chefnogol.
Dywedodd Dr Dan Bowers, Pennaeth Seicoleg: "Mae'r ymchwil hon yn herio’r rhagdybiaethau traddodiadol bod ysgrifennu traethawd hir yn broses unigol.
"Mae'r traethawd hir yn aml yn cael ei ystyried yn un o rannau mwyaf unig a phryderus astudiaethau israddedig. Mae ein canfyddiadau'n dangos y gall encilion ysgrifennu drawsnewid y profiad hwn trwy gynnig strwythur, cymuned a sicrwydd i fyfyrwyr. Pan fydd myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hyderus, maen nhw’n gallu ymgysylltu'n gynhyrchiol â'u hymchwil a'u hysgrifennu.
"Mae hyn yn adeiladu ar waith rydyn ni wedi'i wneud yn creu prosiectau traethawd hir mwy o faint ac ar ffurf grŵp lle mae myfyrwyr yn gweithio gyda phartneriaid allanol i greu effaith yn y byd go iawn."
Tynnodd myfyrwyr oedd yn rhan o'r encilion sylw at bwysigrwydd rhannu amcanion a momentwm ar y cyd, ac fe ddywedon nhw fod gweld cyfoedion wrthi’n gweithio wedi eu helpu nhw i ddal ati a gwneud cynnydd.
Mae'r ymchwilwyr yn dadlau bod mynd ar encil ysgrifennu yn cynnig dull cost isel, effaith uchel y gall prifysgolion ei ymgorffori o fewn y strwythurau cymorth presennol ar gyfer traethodau hir. Y tu hwnt i ganlyniadau academaidd, mae'n ymddangos bod mynd ar encil hefyd yn cyfrannu'n gadarnhaol at les myfyrwyr, gan gyd-fynd felly â blaenoriaethau’r sector cyfan o ran iechyd meddwl ac amgylcheddau dysgu cynhwysol.
Mae'r astudiaeth yn dod i'r casgliad bod mynd ar encil ysgrifennu ar gyfer traethodau hir yn ddull addawol o wella profiad myfyrwyr a chefnogi’r gwaith o gwblhau traethawd hir yn llwyddiannus, a allai weithio mewn ystod eang o ddisgyblaethau.