"Mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn rhan fawr o daith ein teulu ni"

26 Ionawr, 2026

Dyn yn gwenu yn gwisgo het raddio a gamis academaidd llwyd ac yn dal blodau.

Bydd seremonïau graddio Prifysgol De Cymru (PDC) yr wythnos hon yn foment arbennig o falch i Ali Mirzo, sydd wedi cwblhau ei radd Meistr mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg), gan ymuno â phedwar o'i blant sydd hefyd wedi graddio o PDC.

Yn wreiddiol o Syria a bellach yn ddinesydd y DU sy'n byw yng Nghaerdydd, taith academaidd Ali yw'r bennod ddiweddaraf mewn stori deuluol sy'n rhychwantu sawl gyrfa, pob un wedi'i gwreiddio yn PDC. Er bod Ali yn graddio yr wythnos hon, mae ei bedwar o blant - sy'n oedolion erbyn hyn - wedi cwblhau graddau yn PDC dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, gan adeiladu'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel profiad cyffredin a hynod ystyrlon.

Mae Ali yn dod â degawdau o brofiad addysgu rhyngwladol i'w astudiaethau. Ar ôl gadael Syria ym 1990, treuliodd 24 mlynedd yn Abu Dhabi yn gweithio fel athro Arabeg ar gyfer siaradwyr anfrodorol, gan gynnwys rolau mewn ysgolion rhyngwladol Prydeinig ac Americanaidd. Ar ôl symud i'r DU bron i ddeng mlynedd yn ôl, ailhyfforddodd yn ddiweddar fel hyfforddwr gyrru, rôl y mae wedi'i chydbwyso ochr yn ochr â’i astudiaethau ôl-raddedig llawn-amser.

"Bu’n flwyddyn heriol iawn i mi," meddai Ali. "Rwy'n gweithio'n llawn-amser fel hyfforddwr gyrru, ac roedd astudio ar yr un pryd yn anodd, ond fe ddes i drwyddi. Mae graddio’n teimlo fel diwedd taith lwyddiannus."

Dewisodd Ali y cwrs MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) i wella ei wybodaeth broffesiynol a pharatoi at ddychwelyd o bosibl i addysgu yn y Dwyrain Canol.

Mae cyflawniadau ei blant yn PDC yr un mor drawiadol. Graddiodd ei ddau fab mewn peirianneg awyrennau ac maen nhw bellach yn gweithio i British Airways ym Maes Awyr Caerdydd. Cwblhaodd ei ferch hynaf radd mewn dylunio mewnol, tra bod ei ferch arall hefyd yn graddio'r wythnos hon fel Nyrs Plant gymwysedig. Mae hi'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae gan Ali ferch naw oed hefyd.

Wrth feddwl am resymau’r teulu dros ddewis PDC, mae Ali’n talu teyrnged i amgylchedd cefnogol y Brifysgol. "Dechreuodd fy meibion yma yn gyntaf, a mawr oedd eu clod i’r Brifysgol," meddai. "Pan ymunais i fy hun, sylwais fod y profiad yn ardderchog - darlithwyr da iawn, system gref, ac mae popeth wedi'i drefnu'n dda."

Canmolodd Ali hefyd y gefnogaeth academaidd a gafodd yn ystod ei astudiaethau, yn enwedig gan ei oruchwyliwr traethawd hir, Dr Emily John. "Roedd hi'n barod iawn ei chymwynas, ac fe wnaeth hi waith gwych yn fy nghefnogi drwyddi draw," meddai.

"Mae'n fy ngwneud i'n falch iawn i ddilyn fy mhlant i’r llwyfan yr wythnos hon. Mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn rhan fawr o daith ein teulu ni."