PDC yn ennill achrediad uchaf Food Made Good

25 Ionawr, 2026

Cwsmeriaid yn derbyn bwyd yng nghaffi Stilts ar gampws Trefforest, gyda gwahanol brydau poeth yn cael eu harddangos ar gownter gweini o dan orchudd gwydr.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn ei hachrediad Food Made Good cyntaf, gan gyflawni'r sgôr uchaf o dair seren i gydnabod rhagoriaeth mewn gwasanaeth bwyd cynaliadwy.

Wedi'i ddatblygu gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy, Food Made Good yw ardystiad cynaliadwyedd mwyaf blaenllaw y diwydiant gwasanaethau bwyd yn fyd-eang, ac mae’n  asesu sefydliadau o ran cyrchu bwyd, a’u heffaith gymdeithas ac amgylcheddol. 

Yn ei hymgais cyntaf erioed, cyflawnodd PDC sgôr o 72%, gydag 82% yng nghategori’r  amgylchedd. Mae gan lai na 30 o brifysgolion yr achrediad hwn ar hyn o bryd, a dim ond un brifysgol arall yng Nghymru sydd wedi ennill tair seren llawn. 

Dywedodd Jason Edwards, Pennaeth y Gwasanaethau Lletygarwch: "Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Gwasanaethau Arlwyo PDC wedi gwneud cynaliadwyedd yn flaenoriaeth graidd, o annog dewisiadau ffordd o fyw iachach i sicrhau effaith gadarnhaol go iawn ar yr amgylchedd.  

"Roedd mentrau fel ein cynllun economi gylchol, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru,  ymhlith y cyntaf o'u bath mewn addysg uwch yn y DU ac maen nhw’n dangos ein hymrwymiad hirdymor at wasanaethau bwyd cyfrifol. Rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â'n tîm Cynaliadwyedd ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y cynnydd hwn dros y flwyddyn nesaf." 

Mae'r achrediad Food Made Good yn ddilys am ddwy flynedd ac mae'n darparu fframwaith clir ar gyfer gwelliant parhaus wrth i PDC gryfhau ei effaith amgylcheddol a chymdeithasol.