Prifysgol De Cymru yn croesawu gwyddonwyr fforensig o India
23 Ionawr, 2026
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi croesawu dirprwyaeth o Brifysgol Gwyddorau Fforensig Genedlaethol India (NFSU) ar gyfer ymweliad wythnos o hyd â ffocws ar gryfhau cydweithredu rhyngwladol mewn gwyddoniaeth fforensig, plismona, seiberddiogelwch a gwrthderfysgaeth.
Mae'r ymweliad yn garreg filltir bwysig yn y bartneriaeth strategol sy’n datblygu rhwng PDC ac NFSU. Mae’r NFSU yn sefydliad cenedlaethol a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth India o dan y Weinyddiaeth Materion Cartref, gyda chylch gwaith sy'n cynnwys addysg uwch, hyfforddiant proffesiynol, ac ymchwil diogelwch cenedlaethol.
NFSU yw'r unig brifysgol yn y byd sy'n ymroddedig i wyddoniaeth fforensig a'i meysydd cysylltiedig yn unig. Yn syniad gan Brif Weinidog India, mae'r Brifysgol yn cynnig 75 o gyrsiau mewn addysg ymchwiliol ar 15 o gampysau. Mae'n cael ei chydnabod yn fyd-eang am ddarparu hyfforddiant arbenigol i sefydliadau gorfodi'r gyfraith a diogelwch rhyngwladol a chenedlaethol.
Dechreuodd yr ymweliad yn ffurfiol ar gampws PDC yn Nhrefforest, lle bu trafodaethau â ffocws ar alinio addysg, ymchwil a hyfforddiant proffesiynol. Aeth y cynrychiolwyr hefyd ar daith o amgylch Labordy Seiberddiogelwch PDC yng Nghasnewydd a chyfleuster efelychiadol ymdrochol Hydra ar gampws Glyn-taf, sy’n cael ei defnyddio i hyfforddi uwch arweinwyr yr heddlu a'r gwasanaeth brys mewn gwneud penderfyniadau cymhleth.
Dywedodd Dr James Gravelle, Is-Ganghellor Dros Dro PDC: "Drwy gydweithio â'r NFSU, rydyn ni’n ymestyn ein haddysgu a'n hymchwil gwych ein hunain, ac hefyd yn cyfrannu at fanteision ehangach i Gymru, y DU, a'n partneriaid rhyngwladol, drwy hyfforddiant a chyfnewid gwybodaeth."
"Roedden ni wth ein bodd yn cwrdd â'r ddirprwyaeth o NFSU. Mae'r ymweliad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y ddau sefydliad at addysg gymhwysol a chael effaith yn y byd go iawn. Mae NFSU yn dwyn y byd academaidd, gorfodi'r gyfraith, a diogelwch cenedlaethol ynghyd, mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn agos â chenhadaeth PDC, gan wneud hyn yn bartneriaeth naturiol."
Dywedodd Dr Junare, Cyfarwyddwr Campws NFSU: "Wrth i droseddu ddod yn fwy cymhleth, rhaid i wyddoniaeth fforensig hefyd ddod yn fwy soffistigedig. Yn India, mae newid yn y gyfraith wedi ei gwneud yn ofynnol i gynnwys mwy o waith fforensig mewn mwy o ymchwiliadau lleoliadau trosedd. Sefydlwyd NFSU yn 2009 gyda'r unig nod o greu arbenigwyr proffesiynol ym maes y gwyddorau fforensig i gyflawni’r gofynion hyn.
"Mae'n anrhydedd ymweld â Chymru yr wythnos hon. Mae NFSU yn sefydliad addysgol ond rydyn ni hefyd yn ymgynghori ar ymchwiliadau gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith. Wrth i ni gamu tua’r dyfodol, gallwn roi profiad ymarferol gwych i fyfyrwyr PDC, ond gallwn hefyd wella gwrthderfysgaeth a diogelwch mewnol Cymru."
Roedd datblygu rhaglenni academaidd ar y cyd yn un o’r meysydd oedd a’r ffocws pennaf yn y trafodaethau, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer gradd Meistr deuol a fyddai'n galluogi myfyrwyr i astudio yn India a'r DU, gan gyfuno arbenigedd amlwg PDC â rôl genedlaethol unigryw NFSU mewn gwyddoniaeth fforensig a diogelwch mewnol.