Prosiect ymchwil newydd â ffocws ar ffyrdd o droi gwastraff llaeth yn ddeunyddiau adeiladu cynaliadwy
6 Mai, 2026
Mae prosiect ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol De Cymru (PDC) yn archwilio sut y gellir troi gwastraff o'r diwydiant llaeth yn ddeunyddiau cynaliadwy i'w defnyddio yn y diwydiant adeiladu, gan helpu i leihau allyriadau carbon a chreu ffrydiau incwm newydd a gwerthfawr i gynhyrchwyr Cymru.
Mae WHEY2BUILD, dan arweiniad Dr Rhys Jon Jones o Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC, wedi sicrhau cyllid gan raglen SWITCH i Adeiladau Sero Net (SNZB), sy'n rhan o Gyfrif Cyflymu Effaith Seiliedig ar Le (PBIAA) yr EPSRC. Mae'r prosiect yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â First Milk, un o brif gwmnïau cydweithredol diwydiant llaeth y DU.
Bydd y prosiect yn ymchwilio i brosesau biolegol naturiol sy'n gallu troi gwastraff maidd a gynhyrchir pan fo cynnyrch llaeth yn cael eu prosesu yn ddeunyddiau addas ar gyfer y sector adeiladu. Trwy ailgyfeirio ffrydiau gwastraff i gynhyrchion gwerth uchel, nod WHEY2BUILD yw cefnogi twf bioeconomi gylchol a mynd i'r afael â’r heriau cynaliadwyedd sy'n wynebu'r diwydiannau bwyd ac adeiladu.
Yn ogystal â hyrwyddo technolegau adeiladu carbon isel, mae'r prosiect yn cynnig cyfle newydd i gynhyrchwyr llaeth Cymru greu ffrydiau incwm ychwanegol o sgil-gynhyrchion sy'n gostus i'w rheoli ar hyn o bryd. Mae'n gam ymarferol tuag at wneud gwaith adeiladu sero net yn fwy cyraeddadwy ar raddfa ranbarthol.
Mae'r dyfarniad yn garreg filltir arwyddocaol i Dr Jones, gan mai hwn yw ei grant cyntaf fel Prif Ymchwilydd ac mae’n enghraifft wych o PDC yn datblygu talentau ymchwil o’u hastudiaethau ôl-raddedig i waith yn arwain ymchwil annibynnol.
Dechreuodd Dr Jones ei daith academaidd yn PDC yn 2011, gan raddio gyda rhagoriaeth yn ei MSc mewn Ynni Adnewyddadwy a Rheoli Adnoddau. Ar ôl dychwelyd i'r Brifysgol i gwblhau ei PhD wedi cyfnod o weithio yn y diwydiant, mae wedi treulio dros ddegawd yn ymgymryd ag ymchwil yn SERC, gan arbenigo mewn bioburfeydd, rhoi gwerth i wastraff, ac adfer adnoddau yn yr economi gylchol. Mae ei waith wedi cyfrannu at raglenni mawr wedi’u hariannu gan sefydliadau blaenllaw fel EPSRC, Horizon 2020, ERDF, IDRIC, a SUPERGEN.
Ymhlith llwyddiannau mawr ei yrfa hyd yn hyn mae COACE, a dderbyniodd Wobr Lettinga bwysig, y tro cyntaf i unrhyw sefydliad yn y DU ennill drwy gydol hanes 20 mlynedd y wobr. Yn gweithio ar y cyd â Tata Steel, dangosodd COACE sut y gellir adfer cemegau gwerthfawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr diwydiannol. Mae canlyniadau'r tîm, a gyhoeddwyd yn y Journal of Environmental Chemical Engineering, yn enghraifft benigamp o’r gwaith arloesol a mawr ei effaith sy'n cael ei wneud gan SERC.
Dywedodd Dr Jaime Massanet-Nicolau, arweinydd academaidd yn SERC: "Mae Rhys wedi bod yn ganolog i lwyddiant nifer o'n prosiectau ymchwil pwysicaf yn y maes bioburo. Bydd ei arbenigedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant WHEY2BUILD a rhaglenni eraill fydd â ffocws ar dechnolegau adfer adnoddau cynaliadwy y dyfodol, fel BIO-VISTA, cymrodoriaeth ymchwil 10 mlynedd gwerth £3M yn y maes bioburo."
Dywedodd yr Athro Alan Guwy, Cyfarwyddwr SERC: "Mae'r dyfarniad hwn yn dangos cryfder y biblinell ymchwil rydyn ni wedi’i chreu yn PDC. WHEY2BUILD yn enghraifft berffaith o sut y gall ymchwil uchelgeisiol gymhwysol droi’r heriau amgylcheddol yn wir gyfleoedd i ddiwydiant ac i Gymru.
"Trwy baru arloesedd academaidd â chydweithrediad diwydiannol, mae WHEY2BUILD yn dangos sut mae ymchwil yn PDC yn helpu i yrru twf cynaliadwy, lleihau gwastraff, a chefnogi'r trawsnewidiad i Sero Net."