PDC yn sicrhau £232,000 o gyllid ar gyfer ymchwil tai cymdeithasol

23 Mawrth, 2026

Golygfa drôn o dai teras ym Mhrydain

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn £232,000 o gyllid i wneud gwaith ymchwil ar gyfer partneriaeth uchelgeisiol sydd â’r nod o roi cymunedau wrth wraidd trefniadau gwasanaethau lleol.

Diolch i’r cyllid, a ddyfarnwyd drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG), bydd ymchwilwyr PDC yn gweithio'n agos gyda Grŵp Codi i gyd-ddylunio ffordd  newydd o ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol.

Wedi'i ffurfio drwy uno Grŵp Pobl a Linc Cymru, Grŵp Codi yw darparwr gwasanaethau tai, gofal a chymorth mwyaf Cymru. Er gwaethaf ei faint, mae Grŵp Codi yn gwbl ymrwymedig i gynnal perthnasoedd clos. Wrth wraidd y prosiect mae ymrwymiad i wrando ar staff rheng flaen, tenantiaid a chymunedau, gan sicrhau bod unrhyw ffyrdd newydd o weithio yn cael eu llunio gan y bobl maen nhw’n effeithio fwyaf arnyn nhw.

Dywedodd Dr Dan Bowers, Pennaeth Seicoleg PDC: "Rydyn ni’n gweithio gyda Grŵp Codi i ddeall beth mae eu tenantiaid a'u staff rheng flaen eisiau ganddyn nhw, a’u helpu i ddeall pa ffurf ddylai fod ar y berthynas rhyngddyn nhw."

Mae'r cyllid yn cynnwys penodi Dr Nyle Davies fel Uwch Gynorthwyydd Ymchwil yn PDC, a fydd yn ymwreiddio ei hun ym mhob agwedd ar fyw mewn cymuned Grŵp Codi neu gael ei gyflogi gan Grŵp Codi.

Bydd yn ystyried sut gall sefydliadau mawr roi mwy o bŵer penderfynu i dimau lleol, sut mae adeiladu perthnasoedd cryfach o fewn cymunedau, a sut mae helpu staff i weithio mewn ffyrdd sy'n deall profiadau pobl yn well.

Bydd y canlyniadau'n cynnwys cynllun ar gyfer roi’r newidiadau hyn ar waith, deunyddiau hyfforddi i staff, argymhellion ar gyfer gwella polisïau, a strategaeth hirdymor i sicrhau bod y newidiadau hyn yn para.

Dywedodd Dr Davies: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod â gwyddoniaeth ymddygiadol a mewnwelediad cymunedol at ei gilydd. Trwy wrando'n astud ar staff a thenantiaid, gallwn gyd-ddylunio dulliau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n wirioneddol ymarferol i'r bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau bob dydd."

Mae'r ymchwil yn rhan naturiol o rwydwaith ymchwil Tai ac Iechyd PDC, sydd â’r nod o fynd i'r afael â'r angen am gydweithredu mwy effeithiol. Mae'n dod â phobl o bob rhan o'r sector at ei gilydd i archwilio tai ac iechyd o safbwynt seicolegol, o ran polisi, ymchwil ac ymarfer.

Mae'r bartneriaeth gydweithredol hon wedi'i chryfhau drwy raglenni a gyllidir gan MEDR, gan gynnwys y Rhaglen Partneriaeth ac Ymgysylltua gyfrannodd at ganlyniad llwyddiannus Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Cefnogir y rhaglen KTP gan Innovate UK ac Ymchwil ac Arloesi'r DU, a Llywodraeth Cymru, gan ddod â phrifysgolion a sefydliadau ynghyd i ddatrys heriau'r byd go iawn trwy gydweithio ac arbenigedd a rennir.

Dywedodd Vikki Hiscocks, Pennaeth Ymchwil, Datblygu a Pherfformiad Grŵp Codi: "Mae gennym berthynas gref eisoes â Phrifysgol De Cymru, ac mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon yn adeiladu ar y sylfaen honno. Trwy weithio hyd yn oed yn agosach gyda'n gilydd, gallwn ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth i gryfhau gwasanaethau a chreu effaith ystyrlon yn ein cymunedau.

"Mae meddwl am y gwahaniaeth y bydd y prosiect hwn yn ei wneud yn lleol ac am y mewnwelediadau y bydd yn eu cynhyrchu i'r sector ehangach wir yn ein cyffroi."