Penodiadau newydd i Swyddi Athrawon ac Athrawon Cysylltiol
2 Hydref, 2020
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-newport-sunset-10886.jpg)
Mae’n bleser cyhoeddi pedwar penodiad newydd i swyddi Athrawon Cysylltiol ac Athrawon.
Dywedodd Dr Louise Bright, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes: “Mae dod yn Athro Cysylltiol ac Athro yn gamp aruthrol ac yn dangos ymdrech sylweddol a pharhaus sy'n bodloni’r safonau gofynnol yn nhyb adolygwyr arbenigol annibynnol. Mae'n bleser mawr darllen y ceisiadau sy’n dod i law’r Pwyllgor i’w hadolygu – mae amrywiaeth y gwaith a’r effaith y mae’r unigolion hyn yn ei chael yn PDC a’r tu allan i’r brifysgol yn drawiadol. Llongyfarchiadau i bob un o’n Hathrawon Cysylltiol a’n Hathrawon newydd.”
Emily Underwood-Lee, Athro Cysylltiol mewn Astudiaethau Perfformio
Mae Emily yn gymrawd ymchwil yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar straeon personol anghyfarwydd pobl y gallai eu lleisiau fod wedi’u gwthio i’r cyrion, ac ar y gwahaniaethau y gall clywed y straeon hyn eu gwneud mewn polisi, ymarfer a bywyd bob dydd i’r storïwr a’r gwrandäwr ill dau.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn straeon am rywedd, iechyd/salwch a threftadaeth. Mae ei phrosiect presennol, Perfformio Mamol, sydd wedi’i ariannu gan y Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn ystyried sut mae perfformiad mamol yn ein helpu i ddeall y cyflwr o fod yn fam. Mae Emily wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil sydd wedi’u hariannu, gan gynnwys Deugain Llais, Deugain Mlynedd, a enillodd wobrau, mewn cydweithrediad â Chymorth i Fenywod Cymru; Adrodd Straeon er Iechyd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; a Kicking Up Our Heels gydag Ysbyty Great Ormond Street.
Carmel Conn, Athro Cysylltiol Addysgeg Gynhwysol
Mae Carmel yn uwch ddarlithydd ac yn arweinydd y Radd Meistr mewn AAA/ADY (Awtistiaeth). Dechreuodd ei gyrfa addysgu drwy weithio gyda phobl ifanc sydd ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol, ac aeth yn ei blaen i weithio gyda phlant sydd ag anawsterau iaith ac anawsterau dysgu penodol. Am nifer o flynyddoedd bu’n gweithio fel Cydlynydd AAA mewn ysgol ddwyieithog i bobl fyddar yng nghanol Llundain, gan addysgu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys arferion mewn addysg gynhwysol mewn perthynas â phlant anabl, gan ganolbwyntio’n benodol ar awtistiaeth a’r ffyrdd y mae plant a phobl ifanc awtistig yn ymwneud â dysgu. Mae ganddi brofiad helaeth o wneud gwaith ymchwil mewn ysgolion gan gynnwys sut mae anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Gallwch ddarllen mwy am ei gwaith ar wefan ymchwil yr Uned Datblygiadau mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol.
Stuart Todd, Athro Ymchwil Anabledd Deallusol
Am y rhan fwyaf o’i fywyd academaidd, mae’r Athro Todd wedi bod yn ymwneud ag ymchwil gyda phobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd a’u gofalwyr, ond mae hefyd wedi edrych ar safbwyntiau teuluoedd/gofalwyr wrth roi gofal gydol oes i rywun. Mae ei waith diweddaraf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng marwolaeth, marw ac anableddau deallusol. Yn ogystal â’i waith ymchwil, mae’n cyfrannu at addysgu a goruchwylio addysg nyrsys ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Gallwch ddarllen proffil o’r Athro Stuart Todd fan hyn a gweld ei waith diweddaraf ar wefan ymchwil yr Uned Datblygiadau mewn Anableddau Deallusol a Datblygiadol.
Gareth White, Athro Rheoli Gweithrediadau
Mae’r Athro White yn arbenigo mewn rheoli gweithrediadau a’r cymdeithasau y mae sefydliadau’n gweithredu ynddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth a systemau cymdeithasol ac amgylcheddol; yr offer a’r technegau a ddefnyddir i fapio ac i ddadansoddi cadwyni cyflenwi mewnol ac allanol; a rôl ac effaith technolegau gwybodaeth ar sefydliadau. Mae ei waith wedi’i wreiddio yn heriau’r byd go iawn sy’n wynebu sefydliadau modern, a’r rheini wedi’u canfod drwy ei rwydwaith o gysylltiadau masnachol a diwydiannol. Mae’r cyfan yn bosibl drwy ei brofiad sylweddol mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Mae’r Athro White yn Beiriannydd Corfforedig ac yn aelod o fwrdd golygyddol Strategic Change: briefings in entrepreneurial finance. Mae ei waith ymchwil diweddaraf yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â chymhwyso systemau Deallusrwydd Artiffisial, cadwyni atal a seiberddiogelwch.