Cadarnhau Dyfarniad / Presenoldeb ar gyfer Llysgenadaethau, y Swyddfa Gartref, a Sefydliadau Addysg Uwch
Mae ein gwasanaeth Cadarnhau Dyfarniad ar gael i Lysgenadaethau, y Swyddfa Gartref a Sefydliadau Addysg Uwch ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Morgannwg yn unig; llythyr yw hwn a ddarperir ar bapur pennawd, a gaiff ei anfon yn electronig fel arfer.
Mae'r llythyr yn cadarnhau'r canlynol:
- Y cwrs a astudiwyd
- Dyddiadau mynychu
- Y dyfarniad a gafwyd (os yw'n berthnasol)
- Iaith astudio
Ffurflen Gydsynio
Yn anffodus, dim ond ceisiadau sydd â ffurflen gydsynio Prifysgol De Cymru wedi'i llenwi a'i hatodi y gallwn ni eu derbyn. Lawrlwythwch y ffurflen gydsynio a'i hatodi wrth gwblhau'r cais ar-lein. Ni ddylech atodi unrhyw ffurflen gydsynio arall, gan na fyddan nhw'n cael eu derbyn.
Bydd yr holl fanylion personol a ddarperir yn cael eu cadw a'u prosesu gan y Brifysgol yn unol â'r ddeddf diogelu data. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn defnyddio eich data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd.
Ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Casnewydd a Choleg Polytechnig Cymru, gweler isod:
Prifysgol Cymru, Casnewydd - Cysylltwch â Phrifysgol Cymru'n uniongyrchol i gael llythyr Cadarnhau Dyfarniad
Coleg Polytechnig Cymru - Cysylltwch â'r Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol yn uniongyrchol er mwyn cael llythyr Cadarnhau Dyfarniad