Effaith fyd-eang y nordbord ar gampau niferus
Yn Trawsnewid Atal Anafiadau i Linyn y gar.
Ymchwil Canlyniadau'r Fframwaith yn 2021Anafiadau straen i linyn y gar (HSI) sy'n gyfrifol am tua 16% o’r holl anafiadau ymhlith athletwyr a dyma'r rheswm mwyaf cyffredin dros golli cystadlaethau.
Yn ogystal â’r problemau corfforol cysylltiedig, mae anafiadau straen i linyn y gar yn cael
effaith seicolegol sylweddol ar athletwyr sy’n cael eu gorfodi i golli rhywfaint, ac o bosibl y cyfan, o’u tymhorau cystadlu.
Ochr yn ochr â'r problemau perfformio cysylltiedig, gall y canlyniadau ariannol fod yn
sylweddol. Fodd bynnag, mae dealltwriaeth anghyflawn o anafiadau straen a risg o ail-anafuwedi arwain at ddiagnosis gwael, ac at gamau ataliol a rhaglenni adsefydlu cyfyngedig.
Er mwyn mynd i'r afael â’r angen hwn, sefydlwyd prosiect cydweithio rhyngwladol gan Dr Anthony Shield, Prifysgol Technoleg Queensland, a Dr David Opar, Prifysgol Gatholig Awstralia, Melbourne.
Mae ymchwil gan y grŵp wedi cael ei ddefnyddio i greu fframwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio’r gwaith o roi diagnosis, atal a thrin HSI (yn ogystal ag anafiadau cyffredin eraill mewn chwaraeon i gyhyrau rhannau isaf y corff). Mae hefyd wedi trawsnewid y gwaith o atal HSI ac adsefydlu ar ôl HSI mewn campau niferus yn fyd-eang.
Canfu’r ymchwil fod angen system i brofi am anafiadau i linyn y gar ar y maes chwarae, ac arweiniodd hynny at ddatblygu dyfais prototeip newydd ar gyfer cyflyru, monitro a sgrinio athletwyr am risg anafiadau straen. Cafodd y dechnoleg arloesol hon ei phatentu a'i masnacheiddio gan Vald Performance o dan yr enw NordBord yn 2016.
Ers masnacheiddio’r system, mae’r NordBord wedi dod yn safon aur ar gyfer profion llinyn y gar ar y maes chwarae. Mae corff sylfaenol y grŵp o ymchwil empirig yn greiddiol i Iwyddiant masnachol y ddyfais, ac i’r gwaith o’i hintegreiddio yn rhan o ymarfer athletaidd, clinigol, personol a chymhwysol. Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn gymorth i ddefnyddio’r ddyfais yn ymarferol.
Mae’r NordBord bellach yn cael ei ddefnyddio gan gannoedd o gleientiaid ledled y byd i
leihau nifer yr achosion o anafiadau straen a gwella perfformiad athletwyr, gan gynnwys
timau chwaraeon proffesiynol o Uwch Gynghrair Pêl-droed Lloegr; Rygbi’r Undeb; Pêl-fas Americanaidd; Pêl-droed Americanaidd; Pêl-fasged Americanaidd; Hoci Americanaidd; Rygbi’r Gynghrair yn Awstralia; Pêl-droed Rheolau Awstralia; cyrff llywodraethu cenedlaethol ar draws amrywiaeth eang o gampau a gwledydd; yn ogystal â phrifysgolion, clinigau a chanolfannau ymchwil meddygol.
Mae Vald Performance wedi ehangu’n gyflym i fod yn gwmni rhyngwladol sy’n arbenigo mewn datblygu technoleg gradd labordy i gefnogi lles a pherfformiad athletwyr, gyda swyddfeydd yn Awstralia, UDA a’r Deyrnas Unedig.