Clinig Busnes Ysgol Fusnes De Cymru
Mae Clinig Busnes Ysgol Fusnes De Cymru yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio i 'gwmni ymgynghori' sy'n rhoi cyngor i gleientiaid go iawn. Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei oruchwylio gan aelodau staff profiadol, ar gael i bob math o gwmnïau o BBaCh i gwmnïau rhyngwladol a sefydliadau nid-er-elw.
Graddau Busnes Ysgol Busnes De Cymru
Mae ein myfyrwyr yn mynd at wraidd problemau cleientiaid cyn darparu adroddiad manwl a chyflwyniad o'u hargymhellion. Mae'r Clinig Busnes yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau personol, ymwybyddiaeth, a disgyblaeth sy'n hanfodol yn y gweithle.
-
Mae ein myfyrwyr yn dod yn ddadansoddwyr dan hyfforddiant fel rhan o'n Clinig Busnes sy'n cynnig profiad ymgynghori llawn. Mae myfyrwyr fel arfer yn ffurfio timau o fewn y cwmni cyn gweithio gyda chleientiaid go iawn i nodi eu problemau. Mae myfyrwyr yn ymweld â sefydliadau cleientiaid ac maent yn cynnal ymchwil cynradd ac eilaidd ar eu rhan. Yna maent yn gwneud argymhellion i gleientiaid ar ffurf adroddiad a/neu gyflwyniad. Mae ein myfyrwyr hefyd yn cyfathrebu â chleientiaid am eu cynnydd trwy gydol y broses.
-
Mae ein Clinig Busnes yn asesu pob cleient fesul achos. Gall y cwmni ymgynghori dan arweiniad myfyrwyr helpu o bosibl mewn meysydd amrywiol gan gynnwys, archwiliad ac argymhellion cyfrifeg, marchnata digidol ac archwiliadau cyfryngau cymdeithasol, astudiaethau dichonoldeb ar benderfyniadau strategol neu ehangu a mwy.
-
Mae myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau tra'n helpu cleientiaid go iawn o dan oruchwyliaeth ein staff profiadol sydd hefyd yn darparu arweiniad, adborth, a gweithdai. Nod y Clinig Busnes yw i fyfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymgynghorol a chyflwyniadau i gleientiaid i safonau diwydiant.
Nod pob prosiect yw i'n myfyrwyr wneud ymchwil am eich sefydliad cyn gwneud argymhellion er budd eich busnes. Bydd disgwyl i chi weithio gyda PDC a’n myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol:
- Cyswllt â’r Brifysgol – bydd hyn yn cynnwys cyfarfod cyntaf gyda thiwtoriaid i ddrafftio briff cychwynnol a chyfarfod cyntaf gyda myfyrwyr ar y campws neu drwy gynadledda fideo, a chyfathrebu â myfyrwyr dros y ffôn a thrwy e-bost yn ystod y prosiect. Bydd angen i chi hefyd fynychu PDC i gyflwyno'r adroddiad ymgynghori.
- Cytuno ar friff ymgynghorol gyda'n Clinig Busnes.
- Penderfynu ar lefel cyfrinachedd a sensitifrwydd masnachol a sefydlir a'r mesurau priodol a roddir yn eu lle i sicrhau hyn.
- Penderfynu a yw'r prosiect yn fwy priodol ar gyfer myfyrwyr israddedig neu radd meistr, yn dibynnu ar ei faint, ei gymhlethdod a'i amserlen.
- Darparu'r gefnogaeth a'r wybodaeth angenrheidiol i alluogi ein myfyrwyr i gwblhau'r prosiect. Os yw'n bosibl, bydd ein myfyrwyr yn ymweld â safle eich sefydliad.
- Bydd pob busnes yn cael ei gyfweld a'i adolygu fesul achos i weld a yw'r prosiect a'r sefydliad yn briodol i PDC a'i myfyrwyr weithio gyda nhw.
Cysylltwch â Chlinig Busnes PDC
P'un a ydych am nodi problem benodol, bwlch gwybodaeth, neu feysydd i'w datblygu o fewn eich busnes, neu os ydych am gael adolygiad annibynnol o'ch sefydliad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
E-bostiwch Martyn Rowling, Cyfarwyddwr Clinig Busnes De Cymru