Ysgol Busnes De Cymru

Mae Ysgol Busnes De Cymru yn arwain y ffordd gyda'i haddysg busnes, cyfrifeg a chyfreithiol a arweinir gan ymarfer.

A view of the front of the Business School building at Treforest.

Gyda chefnogaeth gwaith arloesol a chydweithredol y Clinig Busnes a Chlinig y Gyfraith, rydym yn defnyddio ymgysylltu â diwydiant a chwricwlwm sy'n seiliedig ar her i helpu myfyrwyr i fod yn barod i weithredu'n syth yn eu gyrfaoedd.



Ysgol Busnes De Cymru

Cyrsiau Achrededig Proffesiynol

Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu'n broffesiynol gan gyrff proffesiynol annibynnol neu'n cynnig eithriadau gwerthfawr oddi wrthynt. Bydd Ysgol Busnes De Cymru yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen ar gyflogwyr y dyfodol ac sy'n cael eu gwerthfawrogi.

Interniaethau a Lleoliadau Gwaith

Mae lleoliadau diwydiant ac interniaethau yn rhan annatod o’n cyrsiau. Mae'r cyfleoedd hyn yn darparu porth i'ch cyflogaeth yn y dyfodol tra'n helpu i adeiladu eich hyder a'ch paratoi ar gyfer y dyfodol trwy brofiadau byd go iawn.

Ymgynghoriaeth a Chysylltiadau Diwydiant

Mae gennym fwy na 100 o bartneriaethau gyda chwmnïau amrywiol i ddarparu'r cysylltiadau gorau i'n myfyrwyr. Mae ein darlithwyr a'n staff wedi gweithio ac yn parhau i weithio o fewn eu diwydiannau. Mae gennym hefyd glinigau ar y campws i ddarparu cyfleoedd ymgynghori rhagorol i fyfyrwyr.

UN O’R PETHAU RWY’N EI WERTHFAWROGI FWYAF AM ASTUDIO BUSNES YW CYMHWYSO’R CYSYNIADAU RYDYN NI’N EU DYSGU YN Y BYD GO IAWN

Sumaya Khan

BA (Anrh) Busnes a Rheoli

a member of the faculty of business and creative industries team sitting in a red chair smiling
Two individuals conversing at the USW exchange reception.
three students have taken seats in the moot court stand, they are listening to a statement being presented.