Beti George
Darlledwr Radio a Theledu yng Nghymru
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Beti George i gydnabod ei chyfraniad i ddarlledu yng Nghymru.
Addysgwyd Beti yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl dechrau ei gyrfa yn dysgu mewn ysgolion gramadeg i ferched a bechgyn, symudodd i Abertawe a gweithiodd i’r BBC fel gohebydd ar gyfer rhaglen Good Morning. Yn ogystal â chyflwyno newyddion ar S4C gyda Gwyn Llewelyn, cyflwynodd Beti gyfres o raglenni cerddorol.
Bob James OBE
Prif Swyddog Gweithredol AerFin
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Bob James i gydnabod ei gyfraniad i’r diwydiant peirianneg hedfan yn y DU.
Bu Bob yn astudio Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ym 1984 yn Loughborough, ac yn ystod ei yrfa mewn peirianneg awyrennau, bu’n gweithio gyda Rolls-Royce PLC, British Airways a General Electric. Mae’n weithiwr proffesiynol uchel ei barch yn ei faes, ac wedi traddodi cyflwyniadau mewn llawer o gynadleddau’r diwydiant, ac ymgymryd â gweithgarwch tyst arbenigol, ac roedd yn un o gyd-sylfaenwyr TES Aviation, sef cwmni rheoli a phrydlesu peiriannau a werthodd i DVB Bank SE ym mis Gorffennaf 2007.
Yn ddweddarach, aeth Mr James ymlaen i sefydlu Aerfin Limited ym mis Medi 2010, gan ddilyn ei frwdfrydedd yn y busnes hedfan trwy arweinyddiaeth entrepreneuraidd i ddarparu gwasanaethau ôl-farchnad ar gyfer awyrennau masnachol.
Gareth Davies
Cadeirydd, Undeb Rygbi Cymru
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Gareth Davies i gydnabod ei gyfraniad i rygbi yng Nghymru ac ym Mhrydain.
Ymunodd Gareth â Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yn 2014 ac fe’i hetholwyd yn Gadeirydd yn yr un flwyddyn.
Mae’n aelod o Gyngor Rygbi’r Byd a’i Bwyllgor Gweithredol, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr Rugby World Cup Limited, Six Nations Rugby Limited a British Lions Designated Activity Company ac mae’n aelod o fwrdd EPCR.
Mae’n gyn-faswr rhyngwladol a theithiodd gyda’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig ym 1980, enillodd 21 cap dros ei wlad a bu’n gapten ar Gymru ar bum achlysu.
Guto Harri
Awdur a darlledwr
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Guto Harri i gydnabod ei gyfraniad i ddarlledu a gwleidyddiaeth.
Yn enedigol o Gaerdydd, bu Guto’n astudio Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn dilyn cwrs ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu. Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr gyda’r South Wales Argus, cyn symud i radio Cymraeg, radio cenedlaethol a theledu. Daeth yn brif ohebydd gwleidyddol y BBC yn 2002, ac wedyn yn ohebydd busnes Gogledd America hyd nes 2007. Yn 2008, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ar gyfer gweinyddiaeth Boris Johnson fel Maer Llundain.
Ymunodd Guto â News International yn 2012 fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus ac, yn 2015, daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfathrebu Allanol gyda Liberty Global, sy’n eiddo i Virgin Media.
Jayne Nicholls a Jonathan Ridd
Sylfaenwyr, Sefydliad Paul Ridd
Dyfarnwyd Cymrodoriaethau er Anrhydedd y Brifysgol i Jayne Nicholls a Jonathan Ridd i gydnabod eu gwaith yn helpu pobl ag anableddau dysgu.
Yn dilyn marwolaeth eu brawd Paul, a oedd ag anabledd dysgu difrifol, mae Jonathan a Jayne wedi helpu i weithredu argymhellion a fydd yn gwella safon gofal i oedolion mewn sefyllfa debyg.
Ar ôl marwolaeth Paul ym mis Ionawr 2004, cyhoeddwyd adroddiad yr Ombwdsmon, a dynnodd sylw at fethiannau o fewn y bwrdd iechyd. Er mwyn creu rhywbeth cadarnhaol er cof am Paul, bu Jonathan a Jayne yn flaenllaw yn y gwaith o oruchwylio gweithrediad argymhellion yr Ombwdsmon.
Jonathan Ford
Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Jonathan Ford i gydnabod ei gyfraniad i ddatblygiad pêl-droed yng Nghymru.
Fe’i penodwyd i rôl Prif Swyddog Gweithredol yn 2009, ac mae wedi cael clod eang am godi proffil Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chynyddu trosiant.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Cymru wedi llwyfannu ei chystadleuaeth UEFA gyntaf gyda thwrnamaint Menywod dan 19 oed Ewrop yn 2013 cyn cynnal y Super Cup mawreddog yn 2014.
Yn ystod haf 2017, Caerdydd fu’r lleoliad ar gyfer Rowndiau Terfynol Cynghrair y Pencampwyr ar gyfer menywod a dynion.