Alan Davies
Cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau TG ym Mhrifysgol De Cymru
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Alan Davies i gydnabod ei gyfraniad i’r Brifysgol yn ystod ei yrfa hir ym maes TG.
Ac yntau’n fyfyriwr graddedig o Goleg Polytechnig Morgannwg gynt, dechreuodd weithio i’r Brifysgol ym 1980 fel Rhaglennydd Dadansoddol, ac ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl 36 mlynedd, gan orffen ei yrfa fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau TG.
Aled Siôn Davies MBE
Medalydd aur Paralympaidd
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Aled Siôn Davies MBE i gydnabod ei gyfraniad i athletau ym Mhrydain.
Ganed Aled ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1991 gydag anabledd cyfunol Talipese a Hemi- hemilia, sy’n achosi defnydd cyfyngedig iawn yn ei goes dde. Yn 2005, gwahoddwyd Aled i Gaerdydd gan Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru i roi cynnig ar athletau gyda grŵp o baralympiaid elît.
Aeth ymlaen i ennill medal aur a medal efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, a medal aur yng ngemau Rio yn 2016. Gosododd record y byd newydd o 17.52m i ennill medal aur ar gyfer taflu maen F42 ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Llundain yn 2017. Ar ôl ennill medal aur eisoes ar gyfer y ddisgen F42, dyma’r trydydd tro’n olynol iddo ennill buddugoliaeth yn y ddwy gamp yn y gystadleuaeth.
Amy Wadge
Canwr ac ysgrifennwr caneuon
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth y Brifysgol i Amy Wadge am ei chyfraniad i gerddoriaeth, yn enwedig ysgrifennu caneuon.
Daw Amy, sydd wedi ennill gwobrau am ei chaneuon, o Fryste’n wreiddiol, a symudodd i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl i astudio Actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ar ôl tair blynedd yng Nghaerdydd, roedd wedi cwympo mewn cariad â De Cymru a phenderfynodd aros yno. Er ei bod wedi gweithio gydag artistiaid ledled y byd, mae’n ysgrifennu ac yn recordio’r mwyafrif o’i cherddoriaeth yn ei stiwdio yn ei chartref ym Mhontypridd.
Enillodd Amy Wobr Grammy yn 2016 am Gân y Flwyddyn, ar ôl cyd-ysgrifennu Thinking Out Loud, gydag Ed Sheeran.
Iolo Williams
Cadwraethwr a chyflwynydd teledu
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Iolo Williams am ei gyfraniad i fywyd gwyllt ym Mhrydain ac i wasanaethau darlledu yng Nghymru a’r DU.
Daw Iolo o Ganolbarth Cymru’n wreiddiol, a graddiodd mewn Ecoleg yng Ngholeg Polytechnig Gogledd Ddwyrain Llundain bron i 35 mlynedd yn ôl. Ar ôl graddio, bu’n gweithio gyda’r RSPB am 15 mlynedd fel Swyddog Rhywogaethau yng Nghymru, gan weithio gyda rhai o adar bridio prinnaf y wlad.
Daeth y cyflwynydd teledu, sy’n fwyaf adnabyddus fel aelod poblogaidd o dimau Springwatch a Winterwatch, i sylw’r BBC, a’i dilynodd yn ei rôl â’r RSPB ar gyfer rhaglenni Visions of Snowdonia a Birdman. Gadawodd Iolo’r Gymdeithas ar ddiwedd y 1990au i weithio’n amser llawn yn y cyfryngau, ac mae ei raglenni, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn canolbwyntio ar fywyd gwyllt Cymru a’r byd. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar fywyd gwyllt Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd at nifer o gylchgronau gan gynnwys BBC Wildlife.
John Selway
Peintiwr portreadau (1938-2017)
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llên i’r diweddar John Selway am ei gyfraniad i gelf, yn enwedig paentio a gwneud printiau.
Roedd John yn gyfoeswr i David Hockney a Peter Blake yn y Coleg Celf Brenhinol yn y 1960au, a bu’n uwch ddarlithydd yn Ysgol Gelf Casnewydd am nifer o flynyddoedd.
Arweiniodd ei gelf, a oedd yn cynnwys cerflunio ac engrafu yn ogystal â gwneud printiau a phaentio, at gydweithrediadau â nifer o awduron. Ymhlith ei bynciau oedd yr Holocost ac Ewrop ar ôl y rhyfel, ac roedd hefyd wedi’i swyno gan ei wlad enedigol, Cymru, ac ysgrifau Dylan Thomas.
Cofrestrodd John mewn ysgol y celfyddydau yng Nghasnewydd pan oedd yn 15 oed, a pharhaodd i astudio wrth wneud ei Wasanaeth Cenedlaethol, cyn ennill lle yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Bu’n dysgu yng Nghasnewydd am dros 25 mlynedd cyn ymddeol ym 1991.
La-Chun Lindsay
Rheolwr Gyfarwyddwr, GE Aviation Wales
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i La-Chun Lindsay i gydnabod ei chyfraniad i’r diwydiant peirianneg hedfan.
Ac yntau’n wreiddiol o Dde Carolina, graddiodd La-Chun ym 1995 mewn Peirianneg Cerameg ac ymunodd â GE Quartz ym 1997, cyn symud i Gymru yn 2015.
Cyn dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2015, bu’n arwain yr adran cydosod, profi ac ailwampio yn safle GE Aviation yn Lynn yn yr Unol Daleithiau.
Mae La-Chun yn gefnogwr ac yn eiriolwr gweithredol ar ran y gymuned LHDT yng Nghymru, ac yn ddiweddar, fe’i gosodwyd yn y 4ydd safle yn ‘Rhestr Binc 2016: Y 40 o bobl LGBT fwyaf dylanwadol yng Nghymru ‘ gan WalesOnline.
Nigel Owens MBE
Dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Nigel Owens i gydnabod ei gyfraniad i chwaraeon a’i waith elusennol.
Ac yntau’n hanu o Fynyddcerrig, Sir Gaerfyrddin, penodwyd Nigel Owens yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2005 a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd yn 2007. Ef hefyd yw’r dyfarnwr â’r nifer fwyaf o gapiau mewn cystadlaethau yn Ewrop.
Yn fuan ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd 2007, enwyd Owens yn ‘Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn’ yn seremoni wobrwyo’r mudiad hawliau hoyw Stonewall yn Llundain.
Yn 2015, fe’i penodwyd yn ddyfarnwr ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Rygbi’r Byd rhwng Seland Newydd ac Awstralia yn Twickenham.
Phil Davies
Prif Hyfforddwr tîm rygbi cenedlaethol Namibia
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Phil Davies i gydnabod ei gyfraniad i chwaraeon a hyfforddiant rygbi.
Mae Phil wedi chwarae a hyfforddi rygbi mewn dros 20 o wledydd yn ystod ei yrfa. Caiff ei gydnabod fel un o chwaraewyr rygbi mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth yng Nghymru, ac mae’n fwyaf adnabyddus fel un o flaenwyr rygbi’r undeb yng Nghymru sydd wedi’i ennill y nifer fwyaf o gapiau. Bu’n gapten ar Gymru hefyd, gan ennill 46 o gapiau. Chwaraeodd dros 350 o gemau i Lanelli a bu’n gapten ar y tîm hwnnw am gyfnod o chwe blynedd.
Yn 2015, fe’i penodwyd yn brif hyfforddwr Undeb Rygbi Namibia, ac o dan ei arweinyddiaeth, bu’r tîm yn cystadlu yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015 yn Lloegr. Yn ddiweddar, arweiniodd ymgyrch gymhwyso lwyddiannus ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan.
Mae Phil wedi bod yn rhedeg ei fusnes ei hun, Phil Davies | Sport | Media | Leadership, ers 2015, sef cwmni ymgynghori chwaraeon sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’r busnes yn arbenigo ym meysydd hyfforddiant arweinyddiaeth a thimau perfformiad uchel.
Dr Rhobert Lewis
Cyn Ddeon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymru
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Dr Rhobert Lewis i gydnabod ei gyfraniad i’r Brifysgol yn ystod ei yrfa a fu’n ymestyn dros 26 mlynedd.
Astudiodd gemeg diwydiannol fel myfyriwr israddedig, ac mae ganddo PhD mewn Cemeg Ffisegol. Mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Cemeg.
Chwaraeodd Dr Lewis ran flaenllaw yn nhwf cyrsiau seiliedig ar wyddoniaeth – gan gynnwys Gwyddoniaeth Fforensig, Gwyddor Chwaraeon, Gwyddorau’r Heddlu a Cheiropracteg – sydd wedi bod ymhlith y rhaglenni mwyaf llwyddiannus a gyflwynwyd erioed yn y Brifysgol.
Ymddeolodd yn 2016 ar ôl 26 mlynedd yn PDC.
Steven Moffat OBE
Cyn Gynhyrchydd Gweithredol cyfres Doctor Who a chyd-grëwr cyfres Sherlock y BBC
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llên i Steven Moffat am ei gyfraniad i deledu, yn enwedig sgriptio.
Yn 2016, cyhoeddodd y sgriptiwr Doctor Who, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac a ddaw’n wreiddiol o Paisley yn yr Alban, mai cyfres 10 fyddai ei gyfres olaf, ar ôl chwe thymor fel cynhyrchydd gweithredol.
Roedd ei gyfraniad i gyfres gyntaf adfywiad Doctor Who yn nodedig am gyflwyno cymeriad Capten Jack Harkness, a chwaraewyd gan John Barrowman, a fyddai’n mynd ymlaen i arwain yng nghyfres ddeilliedig Torchwood.
Yn ogystal, mae Steven yn gyd-grëwr y gyfres boblogaidd Sherlock, a gafodd lwyddiant ysgubol ar ei darllediad yn 2010, ac a aeth ymlaen i ennill gwobr arbennig BAFTA yn 2012.
Cafodd OBE yn 2015 am ei wasanaethau i deledu.
Tim Rhys-Evans MBE
Arweinydd a sylfaenydd Only Men Aloud
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth i Tim Rhys-Evans gan y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth gorawl a’i waith elusennol.
Daw’n wreiddiol o Dredegar Newydd, a chychwynnodd Tim ei yrfa fel canwr opera a hyfforddwr lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cyn ffurfio côr meibion Only Men Aloud yn 2000. Aeth y grŵp ymlaen i ennill sioe boblogaidd Last Choir Standing y BBC yn 2008.
Aeth ymlaen i sefydlu Only Boys Aloud yn 2010 gydag aelodau eraill y côr, gan annog bechgyn rhwng 13 oed a 19 oed i ehangu eu gorwelion, gwella eu hunanhyder a chadw allan o drafferthion.
Dyfarnwyd MBE i Tim yn 2013, i gydnabod ei gyfraniad i’r diwydiant cerddoriaeth ac i wasanaethau elusennol.
Yr Athro Emerita y Fonesig Teresa Rees FAcSS, FLSW
Athro Gwyddorau Cymdeithasol
Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i’r Fonesig Teresa Rees i gydnabod ei chyfraniad i ymchwil ym maes cydraddoldeb rhywedd a gwyddorau cymdeithasol.
Yn 2003, fe’i gwnaed yn Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith ar gyfle cyfartal ac addysg uwch, a daeth yn Fonesig Gomander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2015 am ei gwasanaethau i wyddorau cymdeithasol. Bu Teresa, neu Terry fel y’i gelwir yn gyffredin, yn astudio Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerwysg, gan raddio ym 1970. Yn dilyn hynny, astudiodd ar gyfer doethuriaeth mewn cymdeithaseg ym Mhrifysgol Cymru. Bu mewn swydd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd (1974-93), a bu’n Ddarllenydd ac wedyn yn Athro ym Mhrifysgol Bryste (1993-2000), cyn dychwelyd i Gaerdydd yn 2000.
Caiff Teresa Rees ei chydnabod yn eang fel un o wyddonwyr cymdeithasol mwyaf blaenllaw’r DU, gydag enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil arloesol ym maes anghydraddoldebau rhywedd mewn addysg, hyfforddiant, polisïau’r farchnad lafur ac mewn polisi gwyddoniaeth. Ym mhob un o’r meysydd hyn, mae wedi gwneud cyfraniadau hanfodol i bolisi ar sail tystiolaeth yn yr Undeb Ewropeaidd, y DU ac yng Nghymru.