Cymrodorion Anrhydeddus

Cymrodorion Anrhydeddus 2016

Amdanom Ni Cysylltu â ni
Jeff Banks sat smiling in a cap and gown

Yr Athro Amanda Chessell FREng CEng FBCS HonFIED

Prif Bensaer, IBM Software Group

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Technoleg i’r Athro Amanda Chessell (a elwir yn Mandy) i gydnabod ei chyfraniad i’r diwydiant cyfrifiadurol a thechnoleg yn y DU ac yn fyd-eang.

Bu Mandy’n gweithio gydag IBM ers 1987. Mae’n Beiriannydd Nodedig IBM, yn Brif Ddyfeisiwr ac yn aelod o Academi Technoleg IBM. Yn ei rôl bresennol fel Prif Bensaer Infosphere Solutions, mae’n dylunio patrymau integreiddio gwybodaeth cyffredin ar gyfer diwydiannau a datrysiadau gwahanol.

Yn 2001, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Medal Arian gan yr Academi Frenhinol Peirianneg, ac yn 2006, enillodd wobr Menyw Orau mewn Technoleg BlackBerry – gwobr y Sector Corfforaethol. Yn fwy diweddar, dyfarnwyd iddi gymrodoriaeth er anrhydedd gan Sefydliad y Dylunwyr Peirianneg ac fe’i henwyd yn Arloeswr y Flwyddyn gan Everywoman yn 2012.

Syr Emyr Jones Parry PhD FInstP

Llysgennad EM i’r Cenhedloedd Unedig (2003-2007); Llywydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith i Syr Emyr Jones Parry am ei gyfraniad i lywodraethu a diogelwch rhyngwladol. Mae wedi bod yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ers 2014.

Ymunodd Syr Emyr â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym 1973. Yn ystod ei yrfa yng Ngwasanaeth Diplomyddol EM a ymestynnodd dros 34 mlynedd, bu’n arbenigo mewn diplomyddiaeth amlochrog ac ym materion yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei swydd ddiplomyddol olaf, sef Llysgennad i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, lle bu’n cynrychioli’r DU yn y Cyngor Diogelwch am fwy na 4 blynedd (2003 – 2007).

Yn flaenorol yn ystod ei yrfa ddiplomyddol, bu Syr Emyr yn Llysgennad y DU i NATO, yn Gyfarwyddwr Gwleidyddol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a’r Cyfarwyddwr a oedd yn gyfrifol am bolisi’r Undeb Ewropeaidd. Cyn dechrau ar ei yrfa yn y gwasanaeth diplomyddol, bu Syr Emyr yn ffisegydd, gan ennill ei radd Baglor a Diploma Ôl-raddedig mewn Crisialeg yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, lle bu’n astudio Ffiseg Ddamcaniaethol.

Syr Eric Thomas MBBS MD FMedSci

Cyn Lywydd, Universities UK; cyn Is-Bennaeth, Prifysgol Bryste

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i Syr Eric Thomas i gydnabod ei gyfraniad i Addysg Uwch yn y DU, ac i ymchwil feddygol.

Ganed Eric yn Hartlepool ym 1953, a graddiodd mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne ym 1976. Cafodd swyddi hyfforddiant meddygon iau yn Newcastle, CaerlÅ·r a Sheffield rhwng 1976 a 1987, ac aeth ymlaen i gael ei MD (Doethur mewn Meddygaeth) ym 1987, gan gynnal ymchwil i endometriosis.

Yn ystod ei yrfa, bu Eric mewn nifer o swyddi cenedlaethol a rhanbarthol amlwg. Gwasanaethodd fel Hyrwyddwr Amrywiaeth yn y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch, bu’n aelod o Bwyllgor Iechyd Universities UK, yn Ymddiriedolwr ac yn Gadeirydd y Cyngor Hyrwyddo a Chefnogi Addysg (CASE) (Ewrop), ac mae hefyd yn Aelod o Fwrdd CASE. Cadeiriodd Dasglu’r llywodraeth ar Gynyddu Rhoi Gwirfoddol mewn Addysg Uwch, a adroddodd yn 2004, a bu’n Gadeirydd Rhwydwaith Prifysgolion y Byd.

Jeff Banks CBE FCSD

Dylunydd ffasiwn o fri

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Jeff Banks i gydnabod ei gyfraniad i’r diwydiant ffasiwn a sector manwerthu’r DU a ledled y byd.

Daw Jeff o Lyn Ebwy’n enedigol, a bu’n un o gyd-grewyr a chyflwynwyr rhaglen The Clothes Show ar y BBC rhwng 1986 a 2000. Ar ôl sefydlu ei fusnes ei hun pan oedd yn 13 oed, sylweddolodd fod ganddo frwdfrydedd dros ddylunio ar ôl astudio tecstilau yn yr ysgol.

Yn ddiweddarach, agorodd fwtîc ffasiwn yn Llundain o’r enw Clobber, cyn lansio ei label ffasiwn ei hun ym 1969 a chyd-lansio cadwyn ddillad Warehouse ar ddiwedd y 1970au.

Dyfarnwyd CBE i Jeff yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2009 am ei wasanaethau i ffasiwn a’i waith elusennol.

Yr Athro John Andrews CBE FLSW

Dirprwy Ganghellor, Prifysgol De Cymru

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith i’r Athro John Andrews gan y Brifysgol i gydnabod ei gyfraniad i’r Brifysgol a’i sefydliadau blaenorol.

Ac yntau’n Athro yn y Gyfraith, bu John yn Bennaeth adran y Gyfraith ac yn Is-Bennaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth, a hefyd yn Brif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru a  Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Yn ogystal, mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sef academi ysgolheigaidd hollgynhwysol genedlaethol gyntaf y wlad, a’r unig gymdeithas o’r fath.

Yr Athro Jonathan Crego BSc (Anrh) PhD MBE

Cyfarwyddwr The Hydra Foundation 

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i’r Athro Jonathan Crego i gydnabod ei gyfraniad i dechnegau ymchwilio a ddefnyddir gan asiantaethau plismona a chudd-wybodaeth ledled y byd.

Dyluniodd system Hydra, sef efelychydd hyfforddiant ymdrochi a ddefnyddir gan yr heddlu, y gwasanaeth tân a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â rheoli digwyddiadau. Mae’r system yn galluogi defnyddwyr i weithio drwy senarios dysgu sy’n canolbwyntio ar sgiliau penderfynu.

Mae Jonathan wedi cyflawni dros 350 o ddigwyddiadau ôl-drafod gydag ymarferwyr arbenigol mewn meysydd megis trychinebau catastroffig, cam-drin plant ac ymchwilio i lofruddiaethau. Dyfarnwyd MBE iddo yn 2009 am ei wasanaethau i blismona.

Lynne Evans

Cyfarwyddwr, RCT People First

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Lynne Evans i gydnabod ei chyfraniad i hyrwyddo hawliau a chyfleoedd pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a ledled De Cymru.

Daw’n enedigol o Borth yn y Rhondda, a dechreuodd Lynne wirfoddoli â People First fel oedolyn ifanc, a helpodd i sefydlu cangen Rhondda Cynon Taf fel ffordd o estyn allan at ragor o bobl ag anableddau dysgu yn yr ardal leol.

Mae wedi gweithio’n agos â Phrifysgol De Cymru fel un o sylfaenwyr y Pwyllgor Cynghori ar Addysgu ac Ymchwil, gan gyfrannu at brosiectau ymchwil a mentora myfyrwyr nyrsio yn ystod eu lleoliadau gwaith.

Mae’n parhau i gynorthwyo’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg i hyrwyddo pwysigrwydd gwrando ar bobl ag anableddau dysgu.

Osian Roberts

Cyfarwyddwr Technegol, Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Osian Roberts i gydnabod ei gyfraniad i bêl-droed yng Nghymru ac i addysg hyfforddwyr pêl-droed yng Nghymru a ledled y byd.

Daw Osian o Ynys Môn yn enedigol, a derbyniodd ysgoloriaeth i astudio a hyfforddi ym Mhrifysgol Furman yn Unol Daleithiau America. Chwaraeodd yng Nghynghrair Pêl-droed Proffesiynol America gyda’r New Mexico Chiles cyn symud yn ôl i Gymru a dod yn Swyddog Datblygu Pêl-droed yn Ynys Môn ym 1991.

Bu’n hyfforddi tîm pêl-droed Porthmadog cyn cychwyn yn ei swydd fel cyfarwyddwr technegol tîm cenedlaethol Cymru. Yn ogystal, mae wedi hyfforddi tîm dan 16 oed Cymru, tîm dan 18 oed Cymru a thîm B Cymru, a hefyd bu’n helpu i hyfforddi tîm dan 17 oed y menywod.

Yn 2015, dyrchafwyd Osian yn rheolwr cynorthwyol tîm cenedlaethol Cymru.

Rhodri Talfan Davies

Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales 

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i Rhodri Talfan Davies i gydnabod ei gyfraniad i ddiwydiant darlledu Cymru.

Ganed y cyn newyddiadurwr print yng Nghaerdydd a dechreuodd ei yrfa fel is-olygydd y Western Mail, cyn ymuno â’r BBC fel hyfforddai newyddion ym 1993.

Ym 1999, fe’i penodwyd yn Bennaeth Rhaglenni Rhanbarthol a Lleol gyda BBC West ym Mryste, gyda chyfrifoldeb dros wasanaethau teledu, gwasanaethau ar-lein a radio lleol y BBC ledled y rhanbarth.

Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr BBC Cymru Wales yn 2011.