Cymrodorion Anrhydeddus

DYFARNIADAU ER ANRHYDEDD 2015

Amdanom Ni Cysylltu â ni
Raj Aggarwal smiling at the camera while wearing a doctorate's gown and cap and writing in a book on a red desk in front of a blue backdrop


Adrian Button

Cyn Is-Lywydd, GE Oil & Gas, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Adrian Button i gydnabod ei gyfraniad i ddiwydiannau technoleg byd-eang.

Graddiodd Adrian o’r Brifysgol ym 1995 gyda gradd BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Fecanyddol. Dechreuodd ei yrfa gyda GE yng Nghanolfan Hedfan British Airways yng Nghymru, lle bu’n gweithio fel Peiriannydd Ansawdd ar yr injan GE 90 a ddefnyddiwyd ar awyrennau Boeing 777. Ar ôl cael chwe blynedd arall o brofiad, symudodd i 6 Sigma ac wedyn i ochr Weithrediadau a Deunyddiau busnes GE.

Aeth ei yrfa ag ef a’i deulu ledled y byd, gan symud i Jacksonville, Fflorida, ac wedi hynny i Bencadlys GE yn Cincinnati i reoli systemau tanio. Ar ôl pum mlynedd lwyddiannus yn yr Unol Daleithiau, dychwelodd Adrian gartref i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru cyntaf y cyfleuster GE yng Nghymru.

Clare Hudson

Cyn Bennaeth Cynyrchiadau BBC Cymru Wales

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Claire Hudson i gydnabod ei chyfraniad i ddarlledu a newyddiaduraeth yng Nghymru.

Yn ystod ei rôl fel Pennaeth rhaglenni Saesneg gyda BBC Cymru Wales, roedd Clare yn gyfrifol am strategaeth olygyddol ar gyfer darlledu cynnwys Saesneg yng Nghymru, yn ogystal â goruchwylio darpariaeth cynnyrch ar gyfer y rhwydwaith.

Yn ei gyrfa ddarlledu, mae wedi’i phenodi i uwch swyddi gydag ITV Cymru Wales, Channel 4 a Channel 5. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel cynhyrchydd gweithredol ar ei liwt ei hun.

David Stevens CBE

Prif Swyddog Gweithredol, Admiral Group

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i David Stevens i gydnabod ei gyfraniad i economi Cymru.

Ganed David ym 1962, ac ef yw Cyfarwyddwr sefydlu Admiral, a chafodd ei recriwtio ym 1991 i sefydlu busnes Admiral.

Cyn iddo ymuno ag Admiral, bu David yn gweithio gyda McKinsey & Company, yn y Grŵp Buddsoddiadau, a gyda Cadbury Schweppes yn y DU ac UDA.

Graddiodd David o Brifysgol Rhydychen, ac mae ganddo radd MBA o’r Institut Européen d’Administration des Affaires (INSEAD).

Dyfarnwyd CBE iddo yn 2010 am wasanaethau i fusnes a’r gymuned yng Nghymru.

Dr Eurfyl ap Gwilym BSc PhD AKC

Arbenigwr ar Economeg, Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Dr ap Gwilym i gydnabod ei gyfraniad i economeg, ac i fywyd dinesig Cymru.

Ganed Eurfyl yng Ngheredigion ym 1944, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn ac yng Ngholeg y Brenin Llundain.

Ar ôl bod yn aelod o Blaid Cymru ers 1963, mae Eurfyl yn gynghorydd economaidd hirsefydlog i’r blaid ac roedd yn un o ddarpar ymgeiswyr cyntaf y blaid ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi.

Am nifer o flynyddoedd, mae wedi cefnogi adolygu fformiwla Barnett, sy’n penderfynu faint o arian y mae Cymru’n ei dderbyn gan y Trysorlys. Mae’n dadlau pe bai fformiwla newydd yn seiliedig ar angen yn cael ei chyflwyno, byddai gan Gymru hawl i gannoedd o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol bob blwyddyn.

Gerald Holtham FLSW BA (Oxon) MPhil (Oxon)

Partner Rheoli, Cadwyn Capital LLP

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Gerald Holtham i gydnabod ei gyfraniad i bolisi cyhoeddus a chymdeithas ddinesig yng Nghymru.

Yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phartner gyda Cadwyn Capital LLP, mae Gerald yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau gyda’r cwmni, ac mae hefyd yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau gyda PCE Investors Limited.

Rhwng 2000 a 2004, roedd yn Brif Swyddog Buddsoddiadau gyda Morley Fund Management ac roedd yn Strategydd Byd-eang gyda Norwich Union Investment Management ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr gyda Lehman Brothers, Europe. Rhwng 1976 a 1985, bu Gerald yn gweithio gyda Lehman Brothers ym maes Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd) ym Mharis, gan arwain yr Is-adran Economeg Gyffredinol rhwng 1982 a 1985.

Helen Molyneux LLB

Prif Weithredwr, NewLaw Solicitors

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith i Helen Molyneux i gydnabod ei chyfraniad i’r gyfraith ac i’r economi yng Nghymru.

Ganed Helen yng Nghaerffili ym 1965, ac astudiodd y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd a chymhwysodd fel cyfreithiwr ym 1991. Hi yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol y cwmni cyfreithiol NewLaw Solicitors, sy’n arbenigo mewn anafiadau personol. Ym mis Ebrill 2012, dyma’r practis cyntaf yng Nghymru a’r pedwerydd practis yn gyffredinol i gael ei drwyddedu ar gyfer marchnata ar sail cyfrifon (ABM) gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Daeth y syniad i fodolaeth ar ôl i Helen gwrdd â dyn ar drên o Lundain a oedd yn berchen ar gwmni broceru yswiriant. Lluniwyd y syniad ganddynt o greu cwmni cyfreithiol i reoli hawliadau am anafiadau personol gan gwmnïau a broceriaid yswiriant. Yn 2013, enwyd Helen yn Fenyw Busnes y Flwyddyn gan Gymdeithas y Gyfraith am gyflogi dros 470 o bobl yn y DU, gyda throsiant o dros £35m y flwyddyn am waith gyda brandiau defnyddwyr blaenllaw.

Yr Athro y Fonesig Julia Slingo DBE FRS

Prif Wyddonydd a Chyfarwyddwr Gwyddoniaeth yn y Swyddfa Dywydd

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i’r Fonesig Julia Slingo i gydnabod ei chyfraniad i waith ymchwil ar y newid yn yr hinsawdd a gwyddoniaeth feteorolegol.

Ganed y Fonesig Julia ym 1950, ac mae’n feteorolegydd ac yn wyddonydd hinsawdd ym Mhrydain. Bu’n Brif Wyddonydd yn y Swyddfa Dywydd ers 2009. Mae hefyd yn Athro Gwadd yn yr Adran Feteoroleg ym Mhrifysgol Reading, ac yno, cyn ei phenodi i’r Swyddfa Dywydd, bu’n Gyfarwyddwr Ymchwil Hinsawdd yng Nghanolfan Genedlaethol Gwyddoniaeth Atmosfferig y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Cenedlaethol (NERC), ac yn Gyfarwyddwr sefydlu Sefydliad Walker ar gyfer Ymchwil Systemau Hinsawdd.

Yr Athro Julie Williams CBE

Cyn Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i’r Athro Williams i gydnabod ei chyfraniad i wyddoniaeth ac addysg yng Nghymru.

Ganed Julie ym Merthyr Tudful ym 1957, ac astudiodd Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n Athro Geneteg Niwroseicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd, a bu’n Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru rhwng mis Medi 2013 a mis Medi 2017 – yr ail berson i ddal y swydd.

Yn 2012, derbyniodd Julie CBE am ei chyfraniad i ymchwil i glefyd Alzheimer. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Keith Towler

Comisiynydd Plant Cymru 2008-2015

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Keith Towler i gydnabod ei gyfraniad i ddiogelu hawliau plant yng Nghymru.

Yn enedigol o Lundain, cafodd Keith ei addysg yn Ysgol Uwchradd Llanedern ac yna astudiodd ar gyfer gradd yn y Celfyddydau Cain yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerwysg. Wedyn, ymunodd ag adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir De Morgannwg, a hyfforddodd fel cynorthwyydd gwaith cymdeithasol, gan weithio ym maes cyfiawnder ieuenctid.

Daeth Keith yn bennaeth NACRO Cymru ym 1998, ac yn 2001, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Gostwng Troseddu NACRO. Yn 2006, daeth yn gyfarwyddwr rhaglenni gydag Achub y Plant Cymru, ac yn gadeirydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ar gyfer Cymru.

Fe’i penodwyd yn Gomisiynydd Plant Cymru ym mis Mawrth 2008, yn dilyn marwolaeth Peter Clarke. Olynwyd ef gan Dr Sally Holland yn 2015.

Kingsley Ward

Sylfaenydd Stiwdios Rockfield

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Kingsley Ward i gydnabod ei gyfraniad i’r diwydiant cerddoriaeth.

Sefydlwyd Stiwdios Rockfield gan Kingsley a’i frawd Charles, ychydig y tu allan i bentref Rockfield, Mynwy, ym 1963, trwy addasu hen ffermdy. Mae RecordProduction.com wedi galw’r stiwdios yn un o’r pum stiwdio recordio orau yn y byd. Ym 1965, daeth yn stiwdio breswyl gyntaf y byd, wedi’i threfnu fel y gallai bandiau ddod i aros a recordio yn yr amgylchedd gwledig digynnwrf.

Y llwyddiant mawr cyntaf a recordiwyd yn y stiwdios oedd I Hear You Knocking gan Dave Edmunds ym 1970. Gweithiodd Queen am fis ar ddatblygiad gwreiddiol y record hir A Night at the Opera a’r gân Bohemian Rhapsody yn Ridge Farm Studio yn ystod haf 1975, cyn symud i Rockfield ym mis Awst 1975 i ddechrau recordio’r albwm, a ddaeth yn albwm platinwm cyntaf y band yn yr Unol Daleithiau.

Yr Athro Marcus du Sautoy OBE

Athro Simonyi ar gyfer Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth, ac Athro Mathemateg, Prifysgol Rhydychen

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i’r Athro du Sautoy i gydnabod ei gyfraniad i wella dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth.

Fe’i ganed ym 1965, ac mae Marcus yn fathemategydd, yn awdur, ac yn poblogeiddio gwyddoniaeth a mathemateg. Ym 1996, dyfarnwyd iddo Deitl Anrhydeddus Athro Mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn 2008, fe’i penodwyd yn Athro Simonyi ar gyfer Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth, ac fe’i gwnaed yn gymrawd y Coleg Newydd.

Mae’n gyn-gymrawd Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, a Choleg Wadham, Rhydychen, a hefyd mae Marcus yn gyn-lywydd y Gymdeithas Fathemategol ac yn Gymrawd Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol.

Yr Athro Syr Martin Evans FRS

Cyn Ganghellor, Prifysgol Caerdydd, ac Enillydd Gwobr Nobel am Feddygaeth yn 2007

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i’r Athro Syr Martin Evans i gydnabod ei gyfraniad i wyddoniaeth feddygol ac addysg.

Ganed Martin ym 1941, ac mae’n fiolegydd a oedd, â Matthew Kaufman, y cyntaf i feithrin bôn-gelloedd embryonig llygod a’u tyfu mewn labordy ym 1981. Mae hefyd yn adnabyddus, ynghyd â Mario Capecchi ac Oliver Smithies, am ei waith yn datblygu’r llygoden ‘knockout’ a’r dechnoleg gysylltiedig o dargedu genynnau, sef dull o ddefnyddio bôn-gelloedd embryonig i greu addasiadau penodol i enynnau mewn llygod.

Yn 2007, rhannodd y tri’r Wobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth mewn cydnabyddiaeth o’u darganfyddiad a’u cyfraniad i’r ymdrechion i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer afiechydon mewn pobl.

Yr Arglwydd Michael Williams o BFaglan BSc MSc SOAS PhD

Diplomydd a Seneddwr (1949 – 2017)

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i’r diweddar Arglwydd Williams i gydnabod ei gyfraniad i ddiplomyddiaeth a hawliau dynol ledled y byd.

Ganed yr Arglwydd Williams ym 1949, ac aeth i Ysgol Gyfun Sandfields ym Maglan ger Port Talbot. Derbyniodd radd baglor gan Goleg Prifysgol Llundain ym 1971 a gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth Datblygu Astudiaethau gan yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS) ym 1973.

Bu’r Arglwydd Williams yn Gydgysylltydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Libanus. Cyn hynny, bu’n gwasanaethu fel Cydgysylltydd Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Proses Heddwch y Dwyrain Canol ac yn Gynghorydd Arbennig yr Ysgrifennydd Cyffredinol, cyn cael ei benodi’n Gynrychiolydd Arbennig y DU ar gyfer y Dwyrain Canol a Phrosiectau Arbennig.

Gwnaed Williams yn arglwydd am oes yn rhestr Anrhydeddau Diddymu 2010. Fe’i crëwyd yn Farwn Williams o Faglan yn 2010, ac ar ôl cael ei gyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi, cymerodd ei sedd ar y meinciau Llafur.

Peter Vaughan OStJ QPM DL BSc (Hons) DipAppCrim

Cyn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Peter Vaughan i gydnabod ei gyfraniad i blismona a chymdeithas ddinesig yng Nghymru.

Fe’i ganed yn Aberfan ym 1962, a gwasanaethodd Peter fel Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru rhwng 2010 a 2017. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Rheoli ac Ymchwil Gweithrediadau ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Ymuno â Heddlu De Cymru ar ôl graddio, ac aeth ymlaen i fod yn Uwch-arolygydd yn arwain yr Adran Diogelwch Cymunedol. Ar ôl cyfnod gyda’r brif swyddfa, daeth yn bennaeth yr uned gorchymyn sylfaenol ym Merthyr Tudful, ac yna’n Gomander Rhanbarthol yn Rhondda Cynon Taf.

Symudodd i rôl y Dirprwy Brif Gwnstabl ym mis Ebrill 2007. Fe’i penodwyd yn Brif Gwnstabl o fis Ionawr 2010, gan gymryd yr awenau oddi wrth Barbara Wilding a oedd yn ymddeol. Ymddeolodd Peter Vaughan fel Prif Gwnstabl a gadawodd Heddlu De Cymru yn 2017, a chafodd ei olynu gan Matt Jukes.

Raj Aggarwal OBE DL BPharm FRPharmS

Llywydd y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru, Conswl Anrhydeddus India yng Nghymru

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Brifysgol i Raj Aggarwal i gydnabod ei gyfraniad i fywyd dinesig yng Nghymru, ac i’w broffesiwn.

Fe’i ganed ym 1949, ac mae Raj yn fferyllydd, yn arbenigwr ar iechyd y cyhoedd, yn ddyn busnes ac yn Gonswl Anrhydeddus cyntaf erioed India ag awdurdodaeth yng Nghymru. Yn y rôl hon, mae’n gyfrifol am helpu i wella cysylltiadau rhwng busnesau yng Nghymru ac yn India, a sefydliadau addysgol a diwylliannol, yn ogystal â gofalu am anghenion dinasyddion Indiaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2015, fe’i penodwyd yn llywydd y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2007, cafodd Raj OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei gyfraniad i’r diwydiant fferyllol ac i fywyd y gymuned Asiaidd yng Nghymru. Ym mis Hydref 2011, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Raglaw De Morgannwg. Yn ogystal â Saesneg, mae’n siarad Swahili, Hindi, Pwnjabi, Gwjarati ac Wrdw.

Yr Athro Richard Parry-Jones CBE FREng FMIMechE FRSS

Cyn Is-Lywydd Grŵp, Ford Motor Company

Dyfarnwyd Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth i’r Athro Parry-Jones i gydnabod ei gyfraniad i beirianneg.

Ymunodd Richard â Ford ym 1969 fel hyfforddai ac enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Salford, cyn treulio bron i 40 mlynedd gyda’r gwneuthurwr ceir, mewn amrywiaeth o uwch swyddi ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu. Rhwng 1994 a 1998, bu’n is-lywydd grŵp datblygu cynnyrch Ceir Bach yn Ewrop, gan arwain datblygiad modelau gan gynnwys y Focus, y Ka, y Fiesta a’r Puma.

O 1998, bu Richard yn goruchwylio gweithgareddau datblygu cynnyrch ar gyfer holl gerbydau Ford ledled y byd, yn ogystal â swyddogaethau Dylunio, Ymchwil a Thechnoleg Cerbydau. Ac yntau’n Brif Swyddog Technegol, roedd yn bennaeth ar staff technegol a oedd yn cynnwys 30,000 o beirianwyr, gwyddonwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol busnes. Yn gynnar yn 2005, dyfarnwyd CBE iddo am wasanaethau i’r diwydiant moduron.