Cymrodorion Anrhydeddus

Dyfarniadau Er Anrhydedd 2022

Amdanom Ni Cysyllty â ni
Keshav Singhal looks at the camera ands signs a book on a red desk while wearing a doctorate's cap and gown in front of a blue backdrop

Andrew White

Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Andrew yw Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Ymunodd yn 2020 ar ôl degawd fel Cyfarwyddwr Stonewall Cymru a chyn hynny fel Pennaeth Iechyd a Sector Gwirfoddol Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, End Youth Homelessness Cymru, a grŵp llywio Adolygiad Cyfnodol y Cenhedloedd Unedig Sefydliad Hawliau Dynol Prydain. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg ac yn Olygydd Cymunedol yng nghylchgrawn LGBTQymru. Yn ystod y pandemig dysgodd Andrew sut i wnïo ac mae bellach yn berchen ar ormod o grysau.

Yr Athro Keshav Singhal MBE

Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae'r Athro Keshav Singhal yn Uwch Ymgynghorydd Orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy'n arbenigo mewn llawdriniaethau i osod clun a phen-glin newydd.

Ef yw Cadeirydd y grŵp Asesu Risg COVID-19, a arweiniodd at ddatblygu offeryn Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y GIG a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Yn 2020, cafodd ei ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n eistedd ar Bwyllgor Ymgynghorol De Cymru yr Arglwydd Ganghellor, ac yn 2021 fe’i gwnaed yn Gonswl Mygedol cyntaf Gweriniaeth Gwlad Pwyl gydag awdurdodaeth i Gymru.

Mae ar fwrdd llywio cynllun gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru gan
gyfrannu at Strategaeth Cydraddoldeb y Llywodraeth. Mae'n Gadeirydd Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd (BAPIO) yng Nghymru ac mae hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol BAPIO.

Yr Athro Patricia Wiltshire

Ecolegydd, Botanegydd A Pheillegydd

Mae’r Athro Patricia Wiltshire yn ecolegydd fforensig sydd ag arbenigedd arbennig mewn ecoleg, botaneg a gwyddor pridd. Mae Patricia wedi cael gyrfa ymchwil a dysgu 40 mlynedd yng Ngholeg y Brenin a Choleg Prifysgol Llundain. Mae hi hefyd wedi bod yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberdeen, ac yn Gydymaith Ymchwil yn y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew.

Mae hi wedi ymroi i ddatblygu a sefydlu disgyblaethau ecoleg fforensig, botaneg a pheilleg; ac, yn fwy diweddar, mycoleg fforensig. Mae Patricia wedi gweithio ar fwy na 300 o achosion troseddol, gan wneud gwaith ymchwilio fforensig ar gyfer pob heddlu yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Seland Newydd a’r Iseldiroedd, ac mae’n dyst arbenigol profiadol.