Cymrodorion Anrhydeddus

Cymrodorion Anrhydeddus 2023

Amadanom Ni Cysylltu â ni
Honorary fellow Sabrina Cohen smiles at the camera as they write in a large book on a red desk while wearing a PhD cap and gown

Betty Campbell MBE

Addysgwr arloesol, arweinydd cymunedol, ac actifyd

Mae Prifysgol De Cymru'n dyfarnu Doethuriaeth Litterarum (DLitt) ar ôl ei marw i Mrs Betty Campbell MBE. Dyma'r radd gyntaf er anrhydedd i gael ei dyfarnu ar ôl marwolaeth y derbynnydd erioed gan y Brifysgol.

Cafodd Betty Campbell ei geni a'i magu yn Butetown, Caerdydd, i deulu dosbarth gweithiol, ac roedd hi’n benderfynol o oedran cynnar o fod yn athro ysgol gynradd. Ar ôl cael ei thri phlentyn cyntaf, roedd hi'n un o'r naw menyw gyntaf i fynd i Goleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd wedi iddo godi ei waharddiad ar fenywod. Aeth Mrs Campbell yn ei blaen i ddysgu, ac yna yn y 1970au daeth yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Mount Stuart, prifathrawes ddu gyntaf Cymru.

Roedd Betty Campbell yn frwd dros ddadgoloneiddio’r cwricwlwm yng Nghymru erioed, gan dreialu rhaglenni addysgol arloesol yn yr ysgol ac mewn lleoliadau cyhoeddus eraill. O dan ei harweinyddiaeth, daeth Ysgol Gynradd Mount Stuart yn fodel ar gyfer addysg
amlddiwylliannol.

Ar ei theithiau niferus i America o'r 1970au ymlaen, daeth yn genhadaeth ganddi i adeiladu Ilyfrgell a chyfoeth o adnoddau i gefnogi ei hagwedd arloesol tuag at addysg a chwricwlwm Ysgol Gynradd Mount Stuart.


Ann Clwyd

Gwleidydd a chyn AS

Mae Ann Clwyd yn wleidydd a wasanaethodd fel AS Llafur Cymru dros Gwm Cynon o 1984 tan 2019. Hi oedd yr AS Llafur a wasanaethodd hiraf yng Nghymru erbyn iddi roi’r gorau i’r swydd, ar ôl cynrychioli ei hetholaeth am 35 mlynedd. Mae Ann yn gyn-newyddiadurwr gyda’r BBC a gwasanaethodd fel ASE cyn iddi gael ei hethol am y tro cyntaf yn isetholiad 1984. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd hawliau dynol ers tro ac wedi ymgyrchu ar faterion rhyngwladol a domestig.

Gareth Williams

Cyn Uwch Bartner, Cyfreithwyr Hugh James

Gareth Williams yw cyn Gadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr a Chadeirydd Pwyllgor Enwebiadau PDC. Mae bellach yn ymgynghorydd gyda Hugh James, y cwmni cyfreithiol mwyaf yng Nghymru, lle bu’n bartner am bron i 50 mlynedd ac yn uwch bartner am 12 mlynedd. Roedd enw da Gareth fel cyfreithiwr masnachol a chwaraeon. Ef oedd cyfreithiwr Undeb Rygbi Cymru (URC) am 25 mlynedd a'i hysgrifennydd cwmni am bron i ddegawd. Yn gyn ddirprwy farnwr, Gareth oedd y cyfreithiwr cyntaf yng Nghymru i fod yn ymarferydd ansolfedd trwyddedig. Ers ei ymddeoliad, mae wedi bod yn gadeirydd Clwb Criced Sir Forgannwg, cartref cricedwyr proffesiynol Cymru.

Huw Stephens

Darlledwr a Chyflwynydd Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau

Wedi’i eni i deulu creadigol (roedd ei dad, y diweddar Meic Stephens, yn olygydd llenyddol, yn newyddiadurwr ac yn fardd), mae Huw Stephens, sy’n enedigol o Gaerdydd, wedi bod â diddordeb mewn cerddoriaeth leol erioed, ac mae’n cydnabod hynny o gael ei eni mewn gwlad sy’n llawn cyfoeth, diwylliant a thalent.

Arweiniodd hyn ef i mewn i’r diwydiant cerddoriaeth, a bu’n DJ yn Ysbyty lleol Rookwood, Llandaf yn 15 oed. Daeth yn adnabyddus am ei glust am seiniau newydd ac yn fuan symudodd ymlaen i’r BBC, lle daeth yn gyflwynydd radio ieuengaf erioed ar Radio One yn 17 oed yn 1999.

Ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth, gan gyd-sefydlu gŵyl gerddoriaeth Sŵn a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Cyflwynodd Hanes Cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer teledu'r BBC, a Stori Celfyddyd Gymreig. Mae Huw Stephens bellach yn darlledu ar 6 Music, Radio 4, Radio Wales a Radio Cymru, ac yn cyflwyno darllediadau Glastonbury ar gyfer teledu'r BBC.

Jane Tranter

Cynhyrchydd teledu a chyd-sylfaenydd Bad Wolf

Mae Jane Tranter yn un o weithredwyr teledu mwyaf uchel ei pharch a’i bri yn y diwydiant. Yn dderbynnydd Gwobr Arbennig BAFTA am ei chyfraniad i deledu, bu Jane yn Bennaeth Ffuglen y BBC yn flaenorol ac yn Is-lywydd Gweithredol Rhaglennu a Chynhyrchu yn BBC Worldwide. Yn 2005, bu’n goruchwylio adfywiad hynod boblogaidd – ac adleoli i Gaerdydd – ar gyfer Doctor Who. Yn 2015, cyd-sefydlodd Jane y cwmni cynhyrchu Bad Wolf o Gaerdydd gyda’r cynhyrchydd teledu Cymreig Julie Gardner, ac erbyn hyn dyma’r cwmni cynhyrchu mwyaf yn y DU y tu allan i Lundain, gan gynhyrchu cyfresi fel His Dark Materials sydd wedi ennill gwobr BAFTA a’r gyfres Sky, I Hate Suzie, sydd wedi ennill clod yr adolygwyr.

Pippa Britton OBE

Paralympiad dwywaith a phencampwr y byd ddwywaith

Pippa Britton yw saethwr mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae Pippa wedi cael gyrfa sydd wedi torri record, gan gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau i’r rhai nad ydynt yn anabl fwy nag 20 o weithiau. Yn ystod ei gyrfa derbyniodd hefyd lawdriniaeth fawr ar ei hasgwrn cefn ddwywaith ac mae wedi defnyddio'r profiadau hyn fel ffordd o ysbrydoli eraill.

Ers hynny mae Pippa wedi ymddeol o gystadlu ond mae wedi defnyddio ei phrofiad fel ffordd o roi yn ôl, dod yn siaradwr ysgogol, ac is-gadeirio ar fyrddau amrywiol fel Chwaraeon Cymru, ymgyrch Gwrth Gyffuriau’r DU, a Chymdeithas Baralympaidd Prydain.

Mae Pippa hefyd yn llysgennad elusen, BRIT, sy'n darparu cymorth ar gyfer iechyd meddwl oedolion ifanc yn y DU. Trwy BRIT, mae Pippa yn cynrychioli sefydliadau addysgol Cymru, gan gynnwys Prifysgol De Cymru. Derbyniodd Pippa OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023.

Dr Sabrina Cohen-Hatton

Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex

Dr Sabrina Cohen-Hatton yw Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex ac un o’r diffoddwyr tân benywaidd uchaf yn y DU. Ar ôl gadael cartref yn ei harddegau, aeth ymlaen i ymuno â’r gwasanaeth tân yn 18 oed ochr yn ochr ag astudio gradd baglor mewn seicoleg. Yn ddiweddarach cwblhaodd Sabrina, a gafodd ei magu yng Nghasnewydd, PhD ac ers hynny mae wedi gwneud ymchwil i reoli digwyddiadau yn y gwasanaethau brys. Yn 2019, cafodd ei henwi yn un o Lunwyr y Dyfodol Marie Claire.

Sandra Spray

Cyn Cyfarwyddwr adnoddau dynol a Datblygu Sefydliadol, Canolfan Gwasanaethau Busnes GIG Cymru

Mae Sandra Spray wedi dal swyddi yn PDC yn y gorffennol, gan gynnwys fel Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr, Cadeirydd y Pwyllgor Tâl, a Chadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol. Mae Sandra wedi ymddeol fel Cyfarwyddwr AD a Datblygu Sefydliadol yng Nghanolfan Gwasanaethau Busnes GIG Cymru. Mae ei swyddi blaenorol hefyd yn cynnwys bod yn bennaeth ar y gwasanaeth AD a Datblygu Sefydliadol yn Ymddiriedolaeth Gogledd Morgannwg, Merthyr Tudful. Mae hi wedi dal swyddi Cyfarwyddwr yn ITEC Caerdydd, fel Cadeirydd anweithredol a Dirprwy, a chyn hynny mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd dros dro a Dirprwy Gadeirydd Y Coleg Merthyr Tudful.