Gofynion Diogelwch a Chydymffurfiaeth Cyflenwyr Trydydd Parti
Er mwyn ychwanegu gwasanaeth newydd neu gyflwyno newid defnydd i wasanaeth, gofynnwch i'r cyflenwr gwblhau'r ddogfennaeth ganlynol.
Rhaid i Adran 1 o’r Holiadur Diogelwch Gwybodaeth gael ei chwblhau gan yr aelod o PDC sy’n gwneud cais am y gwasanaeth, a rhaid i’r adrannau dilynol gael eu llenwi gan werthwr y gwasanaeth. Sicrhewch fod Adran 1 wedi'i chwblhau cyn ei hanfon at y gwerthwr.
- Holiadur Diogelu Data
- Cytundeb Prosesu Data (Nid yw hyn yn ofynnol os oes cymalau prosesu data yn y contract)
Os yw'r gwerthwr yn darparu offeryn AI, rhaid cwblhau'r holiadur system AI hefyd a'i atodi i'r tocyn Gwasanaeth TG
Rhaid i'r cwestiynau sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) gael eu cwblhau gan reolwr prosiect neu berchennog gweithgaredd y Brifysgol a'u hatodi i'r tocyn Gwasanaethau TG ynghyd â'r dogfennau a restrir uchod.
Unwaith y bydd y dogfennau hyn wedi'u cwblhau gan y cyflenwr, logiwch alwad gyda'r Gwasanaethau TG am Wiriad Cydymffurfiaeth Gwasanaeth gan atodi'r dogfennau.
Bydd y dogfennau hyn wedyn yn cael eu hadolygu gan Ddiogelwch a Chydymffurfiaeth TG i sicrhau bod y diwydrwydd dyladwy priodol wedi'i gwblhau.
Ni chaiff unrhyw wasanaethau eu rhoi ar waith heb ddilyn y broses hon.