Ffioedd a Chyllid

Cyllid Myfyrwyr Ôl-raddedig

Fel myfyriwr 'cartref', gallwch fel arfer wneud cais am arian i gyfrannu tuag at eich ffioedd dysgu a'ch costau byw. Rhaid i chi fod yn ddinesydd y DU - neu fod heb unrhyw gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y DU, a’ch bod wedi bod yn preswylio'n gyfreithlon yn y DU a'r Ynysoedd am 3 blynedd cyn dechrau'r cwrs.

Ffioedd a Chyllid
Two students studying in the Treforest library.

Mewn rhai achosion, efallai y gallwch wneud cais am gyllid os ydych wedi setlo (ac weithiau wedi setlo ymlaen llaw) o dan gynllun setliad yr UE.

Mae statws arall a fyddai hefyd yn eich gwneud yn gymwys i gael cyllid, er enghraifft os ydych yn weithiwr mudol o'r AEE neu'r Swistir, yn blentyn i Weithiwr Twrcaidd, wedi cael 'Calais Absenoldeb' ac ati. Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler wefan eich darparwr cyllid.

CYLLID MYFYRWYR AR GYFER CYRSIAU MEISTR

Gallwch wneud cais am fenthyciadau fel cyfraniad tuag at eich cwrs a chostau byw os ydych yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2026/27.
  • Ar gyfer myfyrwyr newydd sy’n dechrau eu cwrs yn 2026/27, mae hyd at £19,635 (ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf preswylio).
  • Heb brawf modd (ddim yn dibynnu ar incwm eich teulu)
  • Mae cyrsiau a addysgir a chyrsiau meistr ymchwil yn gymwys, gan gynnwys cyrsiau MA, MSc, LLM, MRes, MA drwy Ymchwil, ac MSc drwy Ymchwil.
  • Ar gael ar gyfer rhaglenni meistr llawn amser, rhan-amser a dysgu o bell.
  • Mae'n rhaid i chi fod yn astudio 180 credyd llawn y cwrs meistr a rhaid i chi beidio â bod yn 'ychwanegol' na defnyddio unrhyw ddysgu blaenorol achrededig neu debyg tuag at y cymhwyster i fod yn gymwys am gyllid.

I fod yn gymwys i gael cyllid drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, gall cyrsiau rhan-amser bara dwy, tair, neu bedair blynedd. Gall cwrs llawn amser bara blwyddyn neu ddwy.


Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, a bydd eich prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.

Gwneir taliadau mewn tri rhandaliad o 33%, 33% a 34% ar gyfer pob blwyddyn academaidd.

Byddwch yn ymwybodol na fydd eich ffioedd yn cael eu talu'n uniongyrchol i'r Brifysgol, bydd angen i chi wneud trefniadau ar wahân i dalu'ch ffioedd eich hun.

Os dymunwch dalu gan ddefnyddio'ch cyllid myfyriwr, gallwch drefnu taliadau yn unol â'r dyddiadau y byddwch yn derbyn eich cyllid myfyriwr drwy gysylltu â'r adran refeniw ar ôl i chi gofrestru ar y cwrs.

Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwysedd llawn a manylion am sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gallwch wneud cais am fenthyciad fel cyfraniad tuag at eich cwrs a chostau byw os ydych yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2026/27.
  • Ar gyfer myfyrwyr newydd sy’n dechrau eu cwrs yn 2026/27, mae hyd at £13,206 ar gael i fyfyrwyr sy’n hanu o Loegr (ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf preswylio).
  • Ar gael i fyfyrwyr o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
  • Heb brawf modd (ddim yn dibynnu ar incwm eich teulu)
  • Mae cyrsiau a addysgir a chyrsiau meistr ymchwil yn gymwys, gan gynnwys cyrsiau MA, MSc, LLM, MRes, MA drwy Ymchwil, ac MSc drwy Ymchwil.
  • Ar gael ar gyfer rhaglenni Meistr llawn amser, rhan-amser a dysgu o bell.
  • Mae'n rhaid i chi fod yn astudio 180 credyd llawn y cwrs meistr a rhaid i chi beidio â bod yn 'ychwanegol' na defnyddio unrhyw ddysgu blaenorol achrededig neu debyg tuag at y cymhwyster i fod yn gymwys am gyllid.
  • I fod yn gymwys ar gyfer cyllid drwy Student Finance England, rhaid i gyrsiau rhan-amser fod naill ai’n rhan-amser, yn para 2 i 4 blynedd academaidd a dim mwy na dwywaith hyd y cwrs amser llawn cyfatebol neu’n rhan-amser am hyd at 3 blynedd. , lle nad oes cwrs amser llawn cyfatebol yn bodoli.

Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, a bydd eich prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.

Gwneir taliadau mewn tri rhandaliad o 33%, 33% a 34% ar gyfer pob blwyddyn academaidd.

Byddwch yn ymwybodol na fydd eich ffioedd yn cael eu talu'n uniongyrchol i'r Brifysgol, bydd angen i chi wneud trefniadau ar wahân i dalu'ch ffioedd eich hun.

Os dymunwch dalu gan ddefnyddio'ch cyllid myfyriwr, gallwch drefnu taliadau yn unol â'r dyddiadau y byddwch yn derbyn eich cyllid myfyriwr drwy gysylltu â'r adran refeniw ar ôl i chi gofrestru ar y cwrs.

*Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwyster llawn a manylion am sut i wneud cais ar wefan Student Finance England.

2026-2027

Benthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig

Mae'r cyllid sydd ar gael yn fenthyciad i'ch helpu i dalu'r cyfan neu rai o'ch ffioedd dysgu hyd at uchafswm o £7,000 ar gyfer cyrsiau amser llawn. Os byddwch yn dewis cymryd benthyciad i dalu’r cyfan neu rai o’r ffioedd, byddwch yn gwneud hynny ar yr un telerau â benthyciad myfyriwr at gostau byw.

Os byddwch yn tynnu'n ôl o'ch cwrs, efallai na fyddwch yn gymwys i gael benthyciad i helpu gyda chost eich ffioedd. Fodd bynnag, efallai y bydd eich prifysgol yn dal i godi ffioedd arnoch am yr amser yr ydych wedi bod ar y cwrs.

Benthyciad Costau Byw Ôl-raddedig

Gall myfyrwyr ôl-raddedig amser llawn cymwys wneud cais i ni am fenthyciad costau byw hyd at £6,900. I fod yn gymwys ar gyfer y benthyciad costau byw, yn ogystal â bodloni ein hamodau cymhwyster, rhaid i chi:

bod o dan 61 ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs (fel arfer 1 Awst). Os byddwch yn newid cwrs ac yn 60 oed neu drosodd ar ddyddiad perthnasol eich ail gwrs, ni fydd gennych hawl i fenthyciad myfyriwr ar gyfer eich ail gwrs.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban.

2025-2026

Os ydych ar fin dechrau ar dystysgrif ôl-raddedig, diploma ôl-raddedig, Meistr a addysgir neu Radd Meistr ymchwil, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig o hyd at £6,500 ar gyfer y cwrs, i helpu gyda chost ffioedd eich cwrs.

Ni all y Benthyciad Ffioedd Dysgu Ôl-raddedig fod yn fwy na’r ffi wirioneddol a godir gan y brifysgol neu’r coleg, nid yw’n seiliedig ar incwm y cartref, a rhaid i chi ei ad-dalu. Fe'i telir yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg.

Defnyddiwch wefan Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon i gael diweddariadau pellach, gan gynnwys sut i wneud cais.

Bydd cyllid Meistr Ôl-raddedig ar gael os nad oes gennych eisoes radd Meistr neu gymhwyster uwch arall a enillwyd naill ai yn y DU neu dramor. Os oes gennych gymhwyster lefel is ac eisiau ‘ychwanegu’ at radd Meistr, ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid Meistr ôl-raddedig, gan mai dim ond cyllid ôl-raddedig y gallwch ei gael ar gyfer cwrs Meistr ôl-raddedig llawn. Ni fyddwch yn gallu cael Cyllid Meistr Ôl-raddedig os ydych wedi derbyn Benthyciad Ôl-raddedig o'r blaen, oni bai eich bod wedi gadael eich cwrs oherwydd rhesymau personol cymhellol, megis:
  • salwch
  • profedigaeth
  • neu reswm personol difrifol arall.

Cyrsiau Doethurol

Gallwch wneud cais am fenthyciad i helpu gyda ffioedd eich cwrs a chostau byw tra byddwch yn astudio os ydych yn dechrau cwrs doethuriaeth (PhD) amser llawn neu ran-amser. Byddwch yn cael y taliad cyntaf ar ôl i chi ddechrau eich cwrs, a bydd eich prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.

  • Hyd at £31,122 ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Loegr sy’n dechrau ar eu cwrs yn 2026/27.
  • Hyd at £29,705 ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n dechrau ar eu cwrs yn 2026/27.
  • Ar gael i fyfyrwyr o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf
  • Heb brawf modd (ddim yn ddibynnol ar incwm y teulu)
  • Rhaid iddo fod yn gwrs doethuriaeth llawn, annibynnol (nid ychwanegiad) a phara rhwng 3 ac 8 mlynedd e.e. PhD/DPhil, EdD, EngD
  • Gall fod yn seiliedig ar ymchwil neu wedi'i addysgu, neu gyfuniad o'r ddau
  • Gallwch wneud cais am fenthyciad os yw eich rhaglen ddoethuriaeth yn cynnwys meistr integredig (hyd yn oed os oes gennych radd meistr eisoes)
  • Ni fyddwch yn gallu cael benthyciad doethurol os byddwch yn derbyn / yn derbyn cyllid arall ar gyfer y cwrs e.e. Cyllid y Cyngor Ymchwil, Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol, Bwrsariaeth GIG, cyllid cynllun KEES 2 ac ati.

Gwneir taliadau mewn tri rhandaliad o 33%, 33% a 34% ar gyfer pob blwyddyn academaidd.

Ad-Daliadau

Mae manylion ynghylch sut y bydd angen i chi ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr ôl-raddedig, gan gynnwys sut y bydd hyn yn gweithio os oes gennych hefyd fenthyciad myfyriwr israddedig yn barod, ar wefan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.