Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd
Gyda chefnogaeth cyflogwyr ac ymarferwyr, byddwch chi’n cwblhau dysgu ymarferol a lleoliadau ac yn ennill achrediad i’ch helpu i ddatblygu gyrfa sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Sut i wneud cais Gwneud Cais trwy UCAS Archebu Lle Ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio Gyda Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/education-ba-working-with-children-and-young-families-placeholder-0120.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
C4N7
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Y cwrs hwn yw’r unig gwrs prifysgol yng Nghymru sydd wedi’i gymeradwyo gan y Social Pedagogy Professional Association. Mae’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau y mae galw mawr amdanynt ar gyfer amrywiaeth o swyddi mewn ysgolion, ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, atal ac ymyrraeth gynnar, ac mewn elusennau.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i gwrdd â'r galw cynyddol am weithwyr proffesiynol sydd â dealltwriaeth gydgysylltiedig o'r materion cymhleth y mae plant a theuluoedd yn eu hwynebu, gan helpu pawb i ffynnu. Mae'r radd yn agor drysau i lwybrau gyrfa amrywiol sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Llwybrau Gyrfa
- Ysgolion
- Elusennau Plant
- Canolfannau Plant
- Gofal Cymdeithasol
Sgiliau a addysgir
- Gweithio'n Annibynnol
- Cydweithio
- Datrys Problemau
- Meddwl yn Feirniadol
- Creadigrwydd
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn ennill amrywiaeth eang o sgiliau, profiadau a safbwyntiau. Mae’r lleoliadau yn uchafbwynt go iawn i fyfyrwyr. Gyda’i bwyslais ar berthnasoedd, byddwch yn dysgu sut i weld y tu hwnt i ymddygiad ac amgylchiadau, gan weithio gyda phartneriaid i gynnig cymorth cyfannol a diamod sydd wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion a dewisiadau unigryw unigolion.
Blwyddyn un
Paratoi ar gyfer y Lleoliad
Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cefnogi Ymgysylltu Addysgol a Phontio
Sgiliau Cyfathrebu, Cwnsela a Therapiwtig
Diogelu
Cyflwyniad i Ddulliau Addysgeg Gymdeithasol
Blwyddyn dau
Polisi Cymdeithasol a Deall Deddfwriaeth Allweddol
Ymchwilio gyda Phlant a Phobl Ifanc
Damcaniaethau Addysgeg Gymdeithasol 1
Addysgeg Gymdeithasol ar Leoliad 1
Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar y Teulu
Cyfiawnder Ieuenctid Cadarnhaol
Antur, Chwarae, Gemau a Dysgu yn yr Awyr Agored
Blwyddyn tri
Damcaniaethau Addysgeg Gymdeithasol 2
Addysgeg Gymdeithasol ar Leoliad 2
Y Traethawd Hir
Iechyd Meddwl Plant a Theuluoedd
Byddwch yn ymgartrefu ym mywyd y brifysgol ac yn paratoi ar gyfer lleoliad. Byddwch yn dysgu sgiliau diogelu hanfodol, sgiliau cyfathrebu a sgiliau perthynas ac yn gweithio gyda phobl a allai fod yn wahanol i chi. Byddwch yn archwilio’r hyn sy'n dylanwadu ar 1,000 diwrnod cyntaf plentyn ac yn dechrau eich hyfforddiant fel Ymarferydd Addysgeg Gymdeithasol.
Paratoi ar gyfer y Lleoliad
Byddwn ni’n esbonio disgwyliadau’r cyflogwyr i chi, gan gymhwyso theori a sgiliau megis ymddygiad proffesiynol, cyfathrebu effeithiol a myfyrio ar eich profiadau yn feirniadol.
Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cewch glywed am brofiadau byw uniongyrchol – o ymfudwyr sydd wedi dod i’r DU i bobl y Little People UK yn eu cefnogi, sef elusen a sefydlwyd gan yr actor Warwick Davis i helpu pobl â chorachedd.
Cefnogi Ymgysylltu Addysgol a Phontio
Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd addysgol y mae plant yn eu hwynebu wrth ddod i oed, ffyrdd o hybu eu dysgu, a sut mae creadigrwydd yn helpu eu datblygiad.
Sgiliau Cyfathrebu, Cwnsela a Therapiwtig
Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chwnsela, dysgu dulliau therapiwtig creadigol ar gyfer eich ymarfer, a deall y prif ddamcaniaethau sydd y tu ôl i'r dulliau hyn.
Diogelu
Byddwch yn dysgu sut i sylwi ar arwyddion o niwed, cam-drin ac esgeulustod, yn datblygu dealltwriaeth o’ch cyfrifoldebau proffesiynol, ac yn cymhwyso cyfreithiau a pholisïau i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed ym maes gofal cymdeithasol.
Cyflwyniad i Ddulliau Addysgeg Gymdeithasol
Byddwch yn dysgu am ymagwedd sy’n seiliedig ar werthoedd ac sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd i gefnogi datblygiad cyfannol a llesiant unigolion, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau.
Gallwch ddewis o blith modiwlau Antur, Gemau, Chwarae a Dysgu yn yr Awyr Agored neu Gyfiawnder Ieuenctid Cadarnhaol. Byddwch yn cael gwerth 200 o oriau ymarferol ar eich lleoliad, yn cymhwyso theori yn y modiwl Pedagogeg Gymdeithasol, ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol. Byddwch yn dysgu dulliau ymchwil i baratoi eich traethawd hir.
Polisi Cymdeithasol a Deall Deddfwriaeth Allweddol
Byddwch yn dysgu sut mae asiantaethau'n diwallu anghenion unigolion o ran gofal cymdeithasol, addysg, gwaith, iechyd a llesiant. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am gyfreithiau, newid cymdeithasol, rhaniadau cymdeithasol a hawliau lles.
Ymchwilio gyda Phlant a Phobl Ifanc
Byddwch yn dysgu dulliau ymchwil amrywiol ar gyfer astudio plant a phobl ifanc, yn archwilio ystyriaethau moesegol, ac yn deall sut i gynllunio ymchwil a rhoi cynlluniau ar waith.
Damcaniaethau Addysgeg Gymdeithasol 1
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu am gysyniadau addysgeg gymdeithasol a sut y gallwch eu cymhwyso yn ystod eich lleoliad. Byddwch hefyd yn cynnal ymarfer mapio asedau i werthuso adnoddau cymunedol.
Addysgeg Gymdeithasol ar Leoliad 1
Byddwch yn cymhwyso addysgeg gymdeithasol a dysgu nad yw’n ffurfiol mewn gofal cymdeithasol. Byddwch yn datblygu eich ymarfer myfyriol, gan ganolbwyntio ar ddulliau gwrth-ormesol ac arwyddocâd diwylliannol.
Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar y Teulu
Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu dulliau asesu, modelau, a dulliau ar gyfer gweithio gyda phlant a theuluoedd. Byddwch yn dod i ddeall sut i gynnwys teuluoedd mewn gweithgareddau sy'n cefnogi gweithredu’n effeithiol.
Cyfiawnder Ieuenctid Cadarnhaol
Byddwch yn archwilio troseddu ymhlith pobl ifanc a materion cysylltiedig, megis gwaharddiadau o’r ysgol ac anghyfiawnder cymdeithasol. Cewch gipolwg ar arferion, gwasanaethau a deddfwriaeth ym maes cyfiawnder ieuenctid.
Antur, Chwarae, Gemau a Dysgu yn yr Awyr Agored
O dan gyfarwyddyd hyfforddwr Dug Caeredin, byddwch yn meithrin profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored sy'n cyfoethogi profiadau dysgu.
Byddwch yn astudio llai o fodiwlau mewn mwy o fanylder. Byddwch yn gwneud ymchwil annibynnol ar gyfer eich traethawd hir, gyda chymorth gan eich goruchwyliwr. Byddwch yn gwella’ch dealltwriaeth o lesiant ac iechyd meddwl. Byddwch yn parhau i ddysgu ar sail ymarfer gyda lleoliad newydd, gan ennill 200 awr o brofiad ychwanegol.
Damcaniaethau Addysgeg Gymdeithasol 2
Byddwch yn datblygu sgiliau myfyrio beirniadol, goruchwylio, ymarfer gwrth-ormesol a diogelu. Byddwch hefyd yn dysgu sut i hyfforddi, mentora a goruchwylio'n effeithiol yn eich ymarfer.
Addysgeg Gymdeithasol ar Leoliad 2
Byddwch yn datblygu hunaniaeth ymarferydd gref mewn addysgeg gymdeithasol, gan adlewyrchu safonau proffesiynol. Byddwch yn meithrin y sgiliau arwain a rheoli sydd eu hangen ar gyfer arfer mewn ffordd ddiogel a moesegol.
Y Traethawd Hir
Cewch gyfle i ymgolli yn y dystiolaeth ddiweddaraf yn eich maes ymchwil, datblygu gweithgareddau ymchwil perthnasol a’u gwerthuso, a chefnogi’r broses o gasglu, dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau mewn ffordd foesegol.
Iechyd Meddwl Plant a Theuluoedd
Byddwch yn archwilio’r hyn sy’n diffinio iechyd meddwl da, yn asesu risgiau a ffactorau sy’n effeithio arno, ac yn myfyrio ar bwysigrwydd ymyriadau a rhyngweithiadau. Byddwch yn codi ymwybyddiaeth ac yn darparu cymorth.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Mae’r dysgu a’r asesiadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd bywyd go iawn. Rydym yn cyfuno darlithoedd, tiwtorialau a seminarau â gweithgareddau a lleoliadau ymarferol fel bod modd ichi roi eich theori ar waith. Mae myfyrio ar brofiadau gydag eraill yn rhan o’ch twf, felly byddwch yn dysgu sut i addasu eich dull yn hyderus fel ei fod yn addas ar gyfer anghenion unigryw plant a theuluoedd. Rydyn yn cydnabod bod gan bob myfyriwr fannau cychwyn gwahanol. Dyna pam yr ydym yn teilwra ein cefnogaeth i chi, gan ddarparu’r sgaffaldiau sydd eu hangen i helpu myfyrwyr i gael profiadau sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd iddynt, a hynny mewn ffordd ddiogel. Mae asesiadau'n cynnwys trafodaethau ar astudiaethau achos, llunio adnoddau addysgol, cadw cofnodion myfyriol, adroddiadau, traethodau a chyflwyniadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/ba-early-years-education-and-practice.jpg)
Staff addysgu
Daw ein tîm o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys gweithwyr ieuenctid cymwys, arbenigwyr ar seicoleg ac ymddygiad, athrawon a hyfforddwyr gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae pob un ohonynt yn dod â'u profiadau i'r ystafell ddosbarth, gan sicrhau y bydd eich cwrs gradd yn rhoi'r sgiliau i chi sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae cysylltiadau gwerthfawr y staff â chyflogwyr yn golygu y byddwch chi’n elwa ar hyn o’r diwrnod cyntaf, a bydd hyn yn talu ar ei ganfed o ran cael y lleoliadau a’r swyddi sy’n addas i chi. Rydym yn dod i adnabod ein myfyrwyr, gan ddefnyddio'r un ymagwedd feithringar a chefnogol yr ydym yn eu defnyddio gyda'r plant a'r teuluoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn cefnogi eu datblygiad, gan adeiladu ar eu cryfderau a’u dyheadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/education-ma-sen-aln-autism-placeholder-01.jpg)
Lleoliadau
Mae lleoliadau yn cynnig profiad i chi o ystod eang o gryfderau plant a theuluoedd, yr heriau a wynebir ganddynt, a sut i'w cefnogi. Diolch i’n rhwydweithiau cyflogwyr cryf, byddwch yn treulio o leiaf 400 awr mewn lleoliadau amrywiol; o weithio mewn carchardai gyda theuluoedd, plant mewn gofal neu sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, a hosbisau, i brosiectau digartrefedd, chwarae, addysgol a chamddefnyddio sylweddau. Cewch eich cefnogi drwy gydol y cwrs, gan ddechrau gyda’r gwaith o baratoi ar gyfer y lleoliad yn eich blwyddyn gyntaf. Bydd ein cydlynydd lleoliadau yn eich paru'n ofalus â swydd sy'n adlewyrchu eich cryfderau a'ch diddordebau ac yn dewis y mentor cywir i gefnogi'ch anghenion.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/ba-education.jpg)
Cyfleusterau
Un o fanteision ein campws yng Nghasnewydd yw ei leoliad, sy’n golygu ei bod yn rhwydd i fyfyrwyr gerdded i sefydliadau partner amrywiol ar gyfer eu lleoliadau. Rydym yng nghanol Casnewydd, yn edrych dros afon Wysg, ac mae popeth y bydd ei angen arnoch chi ar y campws – llyfrgell, undeb myfyrwyr, digon o leoedd i astudio ac mae llety i fyfyrwyr ychydig o funudau i ffwrdd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da i'r campws ac mae’n agos i siopau, bwytai ac atyniadau diwylliannol, sy'n golygu y gallwch fwynhau bywyd fel myfyriwr a dod o hyd i gyfleoedd ar gyfer gwaith rhan-amser. Yn ogystal â hyn, mae Caerdydd dim ond 20 munud i ffwrdd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/ma-education-innovation-in-learning-and-teaching.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 88 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCD i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C/D yn y Dystysgrif Her
- Sgiliau a CD - CC Safon Uwch i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- BTEC: Teilyngdod Teilyngdod
- Mynediad i AU: Llwyddo yn y Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 88 pwynt tariff UCAS|
- Lefel T: P (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.
Cost: £16
Mae ystod o lyfrau ar gael yn llyfrgell y brifysgol, ond mae myfyrwyr yn aml yn prynu testunau allweddol.
Cost: £100
Blynyddoedd 1, 2 a 3 - Mae'r gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad.
Cost: I fyny at £300
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.