Logisteg Ryngwladol a Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Gyda phwyslais cryf ar gynaliadwyedd a rheoli risg, bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer yr heriau byd-eang sy'n wynebu busnes modern.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/business-and-management/msc-international-logistics-and-supply-chain-management.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Nod y radd meistr aml-achrededig hon mewn Logisteg Ryngwladol a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yw rhoi'r sgiliau arbenigol i chi reoli ac addasu cadwyni cyflenwi yn hyderus, gan eich galluogi i ddod yn arloeswr strategaeth logisteg.
Trosolwg o'r Modiwl
Cewch eich annog i ddatblygu dull blaengar o ddatblygu strategaethau, gan greu strategaethau gwydn a hyblyg a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi fynd ati i gyflawni rolau uwch reolwyr neu rolau gweithredol.
Globaleiddio Logisteg a'r Gadwyn Gyflenwi
Nodi'r ysgogiadau a’r tueddiadau allweddol sy'n cynyddu globaleiddio diwydiannau a marchnadoedd.
Rheoli Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy
Rhoi darlun integreiddiol o’r ddynameg gymhleth sy'n cyfrannu at lwyddiant sefydliadol parhaus yng nghyd-destun pwysau cynyddol i amddiffyn buddiannau cymdeithasol-ecolegol byd-eang.
Strategaeth Fyd-eang a Marchnadoedd Datblygol
Ymchwilio a dadansoddi prosesau strategol cwmnïau byd-eang a rhyngwladol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Cysylltiadau Masnachol
Mae'n rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o gyd-destun damcaniaethol dulliau masnachol a dulliau rheoli contractau sy'n ymwneud â pharatoi a gweithredu perthynas cwsmer/cyflenwr.
Gweithrediadau a Rheoli Prosiectau
Meithrin gwerthfawrogiad o brosesau gweithredol ac archwilio gwaith rheoli prosiectau mewn cyd-destun busnes a chadwyn gyflenwi.
Rheoli Gweithrediadau Logisteg
Mae'n galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a deall materion sy'n ymwneud â chludiant nwyddau, gweithrediadau warysau a dylunio warysau yng nghyd-destun strategol y gadwyn gyflenwi ehangach.
Dulliau Ymchwil
Mae'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer yr agweddau ymarferol ar gynllunio, cyflawni a chynhyrchu gwaith lefel meistr.
Traethawd Hir
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth (busnes neu faes arall) neu mewn amgylchiadau eithriadol, tair blynedd neu fwy o brofiad rheoli arwyddocaol mewn maes cysylltiedig.
Gofynion Ychwanegol:
- Os oes gennych gymhwyster CIPS eisoes, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael eithriadau o'r cwrs.
- Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddod am gyfweliad.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae gan y Brifysgol gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr, byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.
Cost: I fyny at £250
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Bydd pob myfyriwr yn cael ei addysgu gan dîm o arbenigwyr adnabyddus, sy'n dod â'r datblygiadau a'r ymchwil diweddaraf yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth. Bydd yr ymchwil ddiweddaraf a wnaed gan grŵp ymchwil y Gadwyn Gyflenwi, Rhagoriaeth Gweithrediadau a Chaffael (SCOPE) y Brifysgol yn sail i’ch astudiaethau. Mae llawer o'n staff addysgu yn cymryd rhan weithredol yn ein canolfannau masnachol ac ymchwil ac yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant yn gwneud gwaith ymchwil ac ymgynghori. I chi, mae hyn yn golygu y cewch eich addysgu gan academyddion sydd ar y blaen yn eu maes arbenigol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Asesu
Asesir pob modiwl trwy aseiniadau ac mae'n seiliedig yn llwyr ar waith cwrs, sy'n golygu nad oes rhaid i chi boeni am adolygu ar gyfer arholiadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Achredu
Mae'r MSc Logisteg Ryngwladol a Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi wedi'i achredu gan chorff proffesiynol blaenllaw, gan gynnwys y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth, a'r y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi. Mae cynnwys y cwrs yn cael ei adolygu gan banel o gynghorwyr y diwydiant hefyd, felly gallwch fod yn sicr bod eich astudiaethau’n berthnasol i'r gweithle a bod eich arbenigedd newydd yn eich galluogi i ddod yn ased gwerthfawr i gyflogwyr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Astudiaeth llwybr carlam
Os oes gennych gymhwyster proffesiynol perthnasol a thair i bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer eithriadau i gyflymu'ch astudiaethau. Sylwch nad yw'r llwybr carlam yn denu cyllid myfyrwyr y llywodraeth gan fod angen i chi fod yn astudio'r cwrs cyfan, nid nifer llai o gredydau oherwydd astudiaethau/profiad blaenorol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Llawn Amser
- Chwefror 2026 Llawn Amser
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2025 Rhan-amser
- Medi 2026 Rhan-amser
- Medi 2026 Rhan-amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.