Mae’r MA Hanes drwy Ymchwil yn gyfle i gynnal ymchwil fanwl ar eich maes dewisedig sy’n berthnasol i faes arbenigol aelod o staff, a chynhyrchu traethawd hir 40,000 o eiriau. Bydd yr ymchwil hanesyddol gwreiddiol hwn yn seiliedig ar ffynonellau cynradd.

Cyflwyno cais yn uniongyrchol Cyflwyno cais drwy UCAS Mynychu Diwrnod Agored Cysylltwch â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

Gall ddilyn gradd Meistr drwy Ymchwil fod yn ddewis deniadol i'r sawl sy'n dod at derfyn eu hastudiaethau israddedig. Os ydych wedi mwynhau’r broses ymchwil wrth gwblhau eich traethawd hir, mae’n bosib yr hoffech ymhelaethu ar yr ymchwil hyn neu gymryd blwyddyn i ddatblygu sgiliau ychwanegol cyn dechrau gyrfa.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Llwybrau Gyrfa

  • Diwydiant y celfyddydau
  • Diwydiant y cyfryngau
  • Gweinyddiaeth yn y sector preifat
  • Gweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus
  • Addysg bellach

N/A

N/A

Trosolwg o’r Modiwlau

Bydd eich pwnc ymchwil yn cael ei benderfynu drwy ymgynghori ag aelod o’r tîm Hanes. Ar ôl i chi ddod o hyd i aelod addas o'r tîm Hanes ac ymgynghori â hwy, bydd gofyn i chi ysgrifennu cynnig ymchwil a fydd yn ffurfio’ch cais ar gyfer y cwrs.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Dulliau Dysgu

Mae Gradd Meistr drwy Ymchwil yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol dan oruchwyliaeth ar bwnc o'ch dewis. Ar ddiwedd eich astudiaethau, byddwch yn cyflwyno traethawd ymchwil o hyd at 40,000 o eiriau. Byddwch yn cael ei arholi ar sail eich traethawd ymchwil ac arholiad viva voce (llafar). 

Os yw natur yr ymchwil yn caniatáu, gallwch gwblhau eich gradd Meistr drwy Ymchwil yn llawn amser (dros gyfnod o flwyddyn) neu'n rhan-amser (dros gyfnod o ddwy flynedd), ar y campws neu o bell. 

Nid oes unrhyw ddosbarthiadau i'w mynychu gan fod y Radd Meistr drwy Ymchwil yn seiliedig ar ymchwil. Disgwylir i fyfyrwyr amser llawn dreulio tua 35 awr yr wythnos yn astudio a disgwylir i fyfyrwyr rhan-amser dreulio 12 awr.

Bydd tîm arbenigol yn goruchwylio pob myfyriwr ymchwil ac yn eu cefnogi gyda’u hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil, rhoi adborth ar waith sydd ar y gweill ac yn eich arwain at gwblhau’r traethawd.

Unwaith y bydd maes ymchwil wedi'i bennu a bod rhaglen ymchwil wedi'i chytuno, gallwch ddechrau ar y gwaith ymchwil ac ysgrifennu eich traethawd hir. Byddwch yn penderfynu ar ei gynnwys, ei ddatblygiad a'i strwythur gyda chymorth rheolaidd eich goruchwyliwr traethawd hir. Byddwch yn cynhyrchu traethawd hir 40,000 o eiriau.

Mae'r MA Hanes trwy Ymchwil yn cael ei asesu ar ffurf traethawd hir a viva voce (arholiad llafar). Dylai'r traethawd hir fod hyd at 40,000 o eiriau.

Nid oes unrhyw ddosbarthiadau i'w mynychu gan fod y radd Meistr trwy Ymchwil yn seiliedig ar ymchwil. Disgwylir i fyfyrwyr amser llawn dreulio tua 35 awr yr wythnos yn astudio a disgwylir i fyfyrwyr rhan-amser dreulio 12 awr.

Staff addysgu

  • Mae Dr Ruth Atherton yn hanesydd cymdeithasol, crefyddol a diwylliannol sy’n arbenigo ar Ewrop yn yr oes fodern gynnar. 
  • Mae Dr Andy Croll yn ymchwilio i hanes twristiaeth (yn enwedig twristiaeth arfordirol) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hefyd ganddo ddiddordeb mewn hanes tlodi a lles yn oes Cyfraith y Tlodion Newydd.
  • Mae Dr Jonathan Durrant yn hanesydd sy’n arbenigo mewn rhywedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg. Ei ddiddordebau pennaf yw dewiniaeth a rhywedd yn yr Almaen, a gwrywdod a rhyfela yn oes y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. 
  • Arbenigedd Yr Athro Chris Evans yw hanes diwydiannol o’r ail ganrif ar bymtheg i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanes caethwasiaeth trawsiwerydd yn oes y diddymiad. 
  • Mae Dr Jane Finucane yn arbenigwraig ar yr Almaen yn oes y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain.
  • Mae gan Dr Christopher Hill ddiddordeb mewn ymchwilio i hanes modern Prydain a byd-eang, gan ganolbwyntio ar hanesion y cyfryngau, imperialaeth niwclear a newidiadau cymdeithasol.
  • Mae gan Dr Rachel Lock-Lewis ddiddordeb mewn hanes ffeministiaeth a newid cymdeithasol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, yn enwedig materion ynghylch rhywioldeb, priodas, mamolaeth, bod yn rhiant a phlentyndod, a pherthnasau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i Raddedigion

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r Radd Meistr mewn Hanes drwy Ymchwil yn sylfaen ardderchog ar gyfer ymchwil bellach mewn hanes ar  lefelau MPhil a PhD. Os nad ydych am fynd ar drywydd ymchwil pellach, byddwch wedi ennill y sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y celfyddydau, diwydiant, y cyfryngau, gweinyddu yn y sectorau preifat a chyhoeddus, neu addysg bellach.

Cymorth Gyrfaoedd

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. 

Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un wrth un gyda Chynghorwyr Gyrfa o’r gyfadran, a hynny dros y ffon, yn bersonol neu dros Skype a thrwy e-bost trwy'r gwasanaeth "Gofyn Cwestiwn". Hefyd, mae gennym adnoddau ar-lein helaeth i’ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa ac i gyflwyno'ch hun yn dda i gyflogwyr. Mae'r adnoddau'n cynnwys profion seicometreg, asesiadau gyrfa, creu CV, efelychydd cyfweliad a chymorth wrth gyflwyno ceisiadau. Mae gan ein cronfa ddata cyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr PDC. Gallwch dderbyn hysbysiadau am swyddi dros e-bost yn wythnosol.

Mae gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd dimau pwrpasol: Tîm profiad gwaith i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter yn canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth.