Mathemateg Hanfodol ar gyfer Addysgu
Os ydych am astudio cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru, bydd angen i chi gael gradd C TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ac, ar gyfer rhaglen addysgu Cynradd, gradd C TGAU mewn Gwyddoniaeth. Mae hyn yn berthnasol i gyrsiau a astudir ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Os nad ydych chi’n bodloni’r gofynion mynediad hyn ar hyn o bryd, peidiwch â chynhyrfu – mae gennym ni’r cyrsiau i chi.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/teaching/subject-teaching-placement-libby-white-41243-900X900.jpg)
Ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch astudio modiwlau penodol i roi'r cymhwyster cyfwerth â gradd C i chi.
Trosolwg o’r Modiwl
Mae’r modiwlau hyn yn cael eu cydnabod gan ddarparwyr addysg uwch Cymru ac yn cyfateb i 20 credyd ar lefel 4 addysg uwch. Mae angen i fyfyrwyr fod yn hyderus ac yn gymwys ar y lefel hon cyn dechrau'r cwrs gan y byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a enillwyd eisoes. Bydd yr asesiad yn cynnwys 50% o aseiniad a 50% o asesiad wedi'i amseru, yn rhedeg dros 12 wythnos a bydd yn costio £300 y modiwl.
Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy mae:
- Dulliau Algebraidd
- Ystadegau
- Gofod a Siâp
- Geometreg a Siâp
Un o ragofynion pob modiwl yw bod gennych eisoes radd D (neu gyfwerth) mewn Iaith Saesneg, Mathemateg neu Wyddoniaeth, yn dibynnu ar ble mae angen y codiad.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Cyflwynir y modiwl Mathemateg Hanfodol ar-lein ar ddydd Iau (5.30yh tan 7.30yh) am 12 wythnos. Tiwtor y cwrs yw Carol Wood.
Dyddiadau Cychwyn
Mathemateg Hanfodol - Dydd Llun 23 Medi 2024
Mathemateg Hanfodol - Dydd Llun 13 Ionawr 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/teaching/subject-teaching-generic-48318.jpg)
Ffioedd a Chyllid
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.