PGDip

Meddygaeth Acíwt

Mae'r Diploma ar-lein mewn Meddygaeth Acíwt yn rhoi cyfle i chi helpu i lunio dyfodol yr arbenigedd amlddisgyblaethol hwn sy'n esblygu'n gyflym.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Mawrth

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Diploma MSc, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth systematig o ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, a ddarperir gan brotocol, sy'n hanfodol wrth optimeiddio gofal acíwt.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae hwn yn gwrs damcaniaethol sy'n anelu at ategu addysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol, yn hytrach na chwrs ymarferol mewn meddygaeth acíwt.

Mewn partneriaeth â

Learna | Diploma MSc

Trosolwg o'r Modiwl

Argyfyngau Anadlol a Chardiofasgwlaidd
Nod y modiwl hwn yw defnyddio dealltwriaeth, methodolegau a dulliau perthnasol i fynd i'r afael ag achosion cymhleth, gan gymhwyso gofal seiliedig ar ganllawiau a thystiolaeth wrth reoli cleifion sy'n ddifrifol wael sydd â chyflyrau cardio-anadlol.

Argyfyngau Diabetes ac Endocrin
Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu i reoli achosion cymhleth sydd ag amrywiaeth o gyflyrau diabetig ac endocrin acíwt, gan gymhwyso gofal seiliedig ar ganllawiau a thystiolaeth wrth reoli cleifion sy'n ddifrifol wael.

Argyfyngau Gastroenterolegol
Nod y modiwl hwn yw ail-lunio a defnyddio dealltwriaeth, methodolegau a dulliau perthnasol i asesu a rheoli achosion cymhleth, gan gymhwyso gofal seiliedig ar ganllawiau a thystiolaeth wrth reoli cleifion sy'n ddifrifol wael sydd â chyflyrau gastroberfeddol.

Cyflyrau Acíwt gyda Haint a Sepsis
Nod y modiwl hwn yw cymhwyso gofal seiliedig ar ganllawiau a thystiolaeth wrth reoli cleifion sy'n ddifrifol wael, gan hwyluso'r gwerthusiad beirniadol o'r gweithredoedd, y dulliau a'r canlyniadau a ddefnyddir i reoli heintiau acíwt.

Anhwylderau Niwrolegol Acíwt a Strôc
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o asesu a rheoli anhwylderau niwrolegol acíwt a strôc, gan gymhwyso gofal seiliedig ar ganllawiau a thystiolaeth wrth reoli anhwylderau niwrolegol acíwt a strôc.

Argyfyngau Arennol, Metabolaidd a Gwenwynegol Acíwt
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o asesu a rheoli anhwylderau acíwt yr arennau, metabolaidd a gwenwynegol a chymhwyso gofal seiliedig ar ganllawiau a thystiolaeth.

Mewn partneriaeth â

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

 

Gofynion ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Er y byddwch chi'n dysgu ar-lein, byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill. Bydd eich dysgu o bell hunangyfeiriedig yn cael ei arwain gan drafodaeth wedi'i llywio gan y tiwtor yn seiliedig ar senarios achos sy'n gyfoethog yn glinigol.

Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.

Mae'r cwrs meddygaeth acíwt yn rhoi asesu wrth wraidd dysgu drwy ddefnyddio senarios clinigol i hwyluso datrys problemau, dadansoddi beirniadol a gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r senarios yn canolbwyntio ar ddysgu ac asesu, gan ymgorffori asesu yn y broses ddysgu.

Staff addysgu

Dr Anil Kumar Pura Narayanaswamy, cyfarwyddwr cwrs a chyfarwyddwr clinigol meddygaeth acíwt yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac arweinydd sepsis ar gyfer meddygaeth acíwt.

Mae Dr Narayanaswamy yn oruchwyliwr addysgol achrededig ar gyfer hyfforddeion ôl-raddedig gan gynnwys cwrs hyfforddi CMT sydd wedi'i raddio yn y 5 uchaf yn arolwg GMC yn y Brifysgol ac mae'n rheoli addysgu PACES mewnol ar gyfer hyfforddeion CMT.