PGDip

Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch

Yn y farchnad hon sy'n dod i'r amlwg, mae hysbysebion swyddi cyfredol yn gofyn am feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd â hyfforddiant, profiad ac arbenigedd mewn meddygaeth alldaith a diffeithwch.

Gwneud cais yn uniongyrchol

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

Ffioedd

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cael ei gynnal gyd'r Diploma MSc partner cydweithredol. Ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch chi'n dod yn arweinydd ym maes Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch a gallwch fynd ymlaen i astudio'r MSc mewn Meddygaeth Alldaith a Diffeithwch.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Meddyg
  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Trosolwg o'r Modiwl

Mae'r cwrs ar-lein yn para un flwyddyn galendr ac mae'n gwrs dysgu o bell rhan-amser, gyda chwe modiwl y flwyddyn, pob un yn para chwe wythnos.

Paratoi ar gyfer Alldeithiau

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r dull trefnus i weithwyr gofal iechyd proffesiynol baratoi a chynllunio alldaith lwyddiannus a diogel mewn amrywiaeth o leoliadau.

Ystyriaethau Gofal Iechyd Pegynol a Mynydd 

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gynllunio a gweithredu alldaith lwyddiannus a diogel mewn amgylchedd pegynol a/neu fynyddig.

Cymhwyso Gofal Iechyd mewn Lleoliadau Cefnfor, Afon a Dŵr 

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gynllunio a gweithredu alldaith lwyddiannus a diogel mewn amgylchedd dyfrol.

Gofal Iechyd mewn Amgylcheddau Anialwch a Throfannol 

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gynllunio a gweithredu alldaith lwyddiannus a diogel mewn amgylchedd anialwch a/neu drofannol.

Trin Problemau Meddygol Cyffredin mewn Lleoliad Alldaith a Diffeithwch 

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ragweld, cynllunio a thrin problemau meddygol cyffredin posibl a allai godi ar alldeithiau a'r heriau ychwanegol sy'n bodoli mewn amgylcheddau anghysbell.

Cymhwyso Meddygaeth Alldaith i Reoli Trychineb Naturiol a Rhyddhad

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol allu trosglwyddo gwybodaeth a ddysgwyd mewn meddygaeth alldaith a diffeithwch i sefyllfa drychineb naturiol, gan ddarparu gofal meddygol diogel mewn amrywiaeth o amgylcheddau.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gan fod ein cyrsiau'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl ar-lein, maent yn hygyrch i weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig y DU a rhyngwladol. 

Yn nodweddiadol, bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Dogfennau Angenrheidiol 

  • Copi o'ch CV wedi'i ddiweddaru gan gynnwys eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni. 
  • Copi o'ch tystysgrif gradd israddedig. 
  • Enw a chyfeiriad e-bost rhywun sy'n gallu darparu geirda, gall hwn fod yn gydweithiwr gwaith, yn gyflogwr neu'n gyn-diwtor. 
  • Datganiad personol manwl yn egluro pam yr hoffech chi ddilyn y cwrs. 
  • Copi o'ch prawf o gymhwysedd Saesneg (gweler isod). 

Gofynion Ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Cynhelir ein cyrsiau yn gyfan gwbl ar-lein trwy dysgu o bell hunangyfeiriedig.

Byddwch yn derbyn arweiniad drwy gydol eich cwrs gyda thrafodaethau academaidd a ysgogir gan y tiwtor, sy'n seiliedig ar senarios achos sy'n gyfoethog yn glinigol.

Mae'r rhain yn digwydd mewn grwpiau o 10-15 o fyfyrwyr fel arfer, sy'n eich galluogi i gyfathrebu'n glir â'ch tiwtor a'ch cyd-fyfyrwyr.

Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfuniad o weithgareddau modiwl hefyd a allai fod yn seiliedig ar grŵp a/neu unigolyn, yn dibynnu ar y modiwl.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru.

FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein.

Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd