MSc

Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig

Wedi'i anelu at feddygon, deintyddion a nyrsys sydd angen cymhwyster ôl-raddedig i gefnogi eu dysgu proffesiynol a'u datblygiad clinigol i ddod yn ymarferydd esthetig.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Erbyn hyn mae cymhwyster ôl-raddedig ffurfiol yn elfen hanfodol o daith ymarferydd gofal iechyd i ddod yn ymarferydd esthetig. Mae'r radd Meistr mewn Meddygaeth Gosmetig ac Esthetig, a addysgir yn llwyr ar-lein, wedi'i datblygu gyda'r pwrpas penodol o hyrwyddo a gwella'r wybodaeth sy'n sail i ymarfer mewn meddygaeth gosmetig.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Meddygon, deintyddion a nyrsys sydd angen cymhwyster ôl-raddedig i gefnogi eu dysgu proffesiynol a'u datblygiad clinigol i ddod yn ymarferydd esthetig.

Mewn partneriaeth â

Image: Accreditation logo
Learna | Diploma MSc

Trosolwg o'r Modiwl

Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol: Meddygaeth Gosmetig

Amcan y modiwl hwn, sy'n para am 12 wythnos, yw helpu myfyrwyr i adnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau sy'n benodol i ymchwil Gosmetig.

Prosiect Proffesiynol: Meddygaeth Gosmetig

Bydd y modiwl yn dibynnu ar greu darn o waith yn seiliedig ar brosiect clinigol penodol sy'n berthnasol i ymarfer y myfyriwr. Gall y prosiect gynnwys adolygiad llenyddiaeth ac arfarniad o'r dystiolaeth; archwilio ymarfer gan gynnwys sefydliadol neu glinigol; adolygu a gweithredu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth; ymchwil ansoddol neu feintiol (ni ragwelir ymchwil ffurfiol sy'n cynnwys cyfranwyr dynol); adolygiad seiliedig ar achos ac ansawdd gwasanaeth gydag arfarniad beirniadol; adroddiad achos, adolygiad o lenyddiaeth ac asesiad sefydliadol.

GOFYNION MYNEDIAD

Bydd mynediad i'r rhaglen MSc blwyddyn yn gofyn am gwblhau'r Diploma Ôl-raddedig yn llwyddiannus (120 credyd) naill ai o Brifysgol Cymru neu o Brifysgol arall yn y DU. 

Gall myfyrwyr wneud cais am y Meistr mewn cwrs dwy flynedd sy'n cynnwys 8 modiwl (180 credyd), a'r 120 credyd cyntaf yw'r Diploma Ôl-raddedig. 

Fel arfer, bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gymhwyser cyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, megis gradd feddygol neu nyrsio.

Bydd gweithwyr gofal iechyd cofrestredig nad oes ganddynt y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol, a gall amrywiaeth eang o brofiad blaenorol gael ei ystyried. Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith ar gyfer asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio’n hyderus ar lefel ôl-raddedig, ac i ddangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Dogfennau Angenrheidiol

  • Copi o’ch CV diweddaraf yn cynnwys eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni.
  • Copi o’ch tystysgrif gradd israddedig.
  • Enw a chyfeiriad e-bost rhywun sy’n gallu darparu geirda – gallai hyn fod yn gweithiwr, cyflogwr neu diwtor blaenorol.
  • Datganiad personol manwl yn egluro pam yr hoffech astudio’r cwrs.
  • Copi a dystiolaeth o’ch cymhwysedd yn y Saesneg.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

*Rhwymedig

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Er y byddwch chi'n dysgu ar-lein byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill. Bydd eich dysgu o bell hunangyfeiriedig yn cael ei arwain gan drafodaeth wedi'i hysgogi gan y tiwtor yn seiliedig ar senarios achos sy'n gyfoethog yn glinigol.

Staff addysgu

Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i ddefnyddio ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna