Meddygaeth Thyroid
Mae problemau thyroid yn gyflwyniadau cyffredin mewn gofal sylfaenol a hefyd i gynulleidfa gofal iechyd ehangach, ond eto mae'n cael ei wasanaethu'n wael yn y maes addysgol ôl-raddedig. Felly, rydym yn teimlo ei fod yn amser priodol i ddatblygu Tystysgrif Ôl-raddedig cyntaf y DU mewn Meddygaeth Thyroid.
Sut i wneud cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-postgraduate-certificate-thyroid-medicine-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r rhaglen yn ymdrin â phrif agweddau meddygaeth thyroid gan gynnwys ffisioleg thyroid, nodylau thyroid, isthyroidedd a gorthyroidedd.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Wrth i'r galw rhyngwladol am feddygaeth thyroid barhau i dyfu oherwydd cynnydd mewn cleifion ag anhwylderau thyroid, mae galw sylweddol am raglen ôl-raddedig mewn meddygaeth thyroid sy'n galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu sgiliau i ddeall a rheoli'r anhwylder cyffredin hwn.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Ymarferydd nyrsio endocrinoleg
- Nyrs arbenigol diabetes
- Biocemeg Glinigol
- Arbenigwr Iechyd Perthynol
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau uwch
- Dadansoddiad beirniadol
- Ymchwil
- Cyfathrebu
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd y rhaglen hygyrch, ar-lein hon yn helpu i ddatblygu sgiliau meddwl uwch, gan gynnwys sgiliau dadansoddi beirniadol, wrth roi gwybodaeth berthnasol i fyfyrwyr ôl-raddedig i arwain yn weithredol ar well darpariaeth gofal, o ansawdd uchel, mewn ystod o leoliadau.
Ffisioleg thyroid a nodylau thyroid
Mae'r modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion ffisioleg thyroid gan gynnwys anatomeg, rheoleiddio a metaboledd hormonau thyroid. Bydd dysgwyr yn ennill sylfaen gadarn mewn ffisioleg thyroid a'r gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon wrth asesu a rheoli nodylau thyroid er mwyn sicrhau'r canlyniadau gofal gorau posibl i gleifion.
Isthyroidedd
Nod Isthyroidedd yw darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o bathoffisioleg, cyflwyniad clinigol a rheolaeth Isthyroidedd. Bydd myfyrwyr yn archwilio ymyriadau fferyllolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a therapïau adfer hormonau, gan gael cipolwg ar ddulliau priodol o drin ar gyfer gwahanol boblogaethau cleifion.
Gorthyroidedd
Mae'r modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth fanwl o bathoffisioleg, amlygiadau clinigol a rheolaeth gorthyroidedd. Bydd myfyrwyr yn archwilio gwahanol achosion gorthyroidedd, gan ddadansoddi'n feirniadol y mecanweithiau sylfaenol a'r ffactorau risg cysylltiedig.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
I sicrhau eich lle ar y cwrs, fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn pwnc perthnasol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Mae'r rhaglen hon yn cael ei darparu’n gyfan gwbl drwy ein platfform dysgu ar-lein.
Mae dysgu'n digwydd yn bennaf ar ein fforwm academaidd lle mae myfyrwyr yn ymchwilio, yn ymateb i ac yn trafod senarios achosion sy'n gryf yn glinigol, ac yn ymgymryd ag ymarfer adfyfyriol. Mae'r drafodaeth hon yn cael ei harwain a'i chefnogi gan ein tîm o diwtoriaid arbenigol sydd eu hunain yn arweinwyr ym maes meddygaeth thyroid.
Byddwch yn dysgu ymhlith grŵp o gyfoedion sy’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol amlddisgyblaethol ledled y byd. Gallwch rannu arferion gorau â nhw a manteisio ar bersbectif byd-eang.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/about-us/apply/undergraduate-interviews/apply-inteviews-practice-scenarios.jpg)
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna