MBA

Meistr mewn Gweinyddu Busnes

Ar y cwrs byddwch yn dysgu sut i integreiddio ymchwil ac ymarfer arloesol ar draws pob maes busnes allweddol i gyflawni trawsnewidiad busnes yn seiliedig ar ethos cryf o helpu rheolwyr i ddatrys problemau go iawn. Mae’r Cwrs yn addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio/sy’n dymuno gweithio mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £13,500*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,500*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae’r Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinydd busnes strategol llwyddiannus ac mae wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol i’r sefydliadau y maent yn gweithredu ynddynt.

DYLUNIWYD AR GYFER

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu gyrfa mewn rheolaeth uwch yn y sector preifat neu sefydliadau cyhoeddus. Gweithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau neu ganol eu gyrfa sy’n ceisio gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Llwybrau gyrfa

  • Rheolwr
  • Uwch Reolwr
  • Cyfarwyddwr
  • Prif Swyddog Gweithredol
  • Entrepreneuriaid

Sgiliau a ddysgir

  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Meddwl dadansoddol a beirniadol
  • Cynllunio Strategol a chraffter busnes
  • Cydweithio a Gwaith Tîm
  • Cyfathrebu

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cyfleoedd gyrfa

Mae ein cwrs MBA heriol a deinamig wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n edrych i fynd â’u gyrfa i’r lefel nesaf. Bydd yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i fod yn arweinydd busnes strategol llwyddiannus.

Yn Canolbwyntio ar y Byd Go Iawn

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sut y byddai rheolwyr yn datrys problemau a materion busnes yn y byd go iawn.

Achrediad CMI

Bydd y cwrs yn rhoi Aelodaeth Gysylltiol CMI i chi sy’n eich galluogi i ennill Diploma Lefel 7 CIM os oes angen.

Arweinyddiaeth ddeinamig a chyfrifol

Sgiliau arweinyddiaeth gyfrifol, ynghyd ag arferion busnes cynaliadwy yng nghyd-destun newid anrhagweladwy.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a fydd yn gwneud gwahaniaeth strategol i’r sefydliadau y maent yn gweithredu ynddynt. Byddwch yn dysgu sut i integreiddio ymchwil ac ymarfer arloesol ar draws pob maes busnes allweddol i gyflawni trawsnewidiad busnes wrth ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i lwyddiant personol a busnes, fel datrys problemau ac arweinyddiaeth. Mae wedi’i gynllunio i fod yn rhaglen heriol a diddorol, gan gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad ymarferwyr.

Blwyddyn Un - Llawn Amswer
Ymarfer Arweinyddiaeth ac Ymgynghoriaeth 
Offer a Fframweithiau Rheoli Strategol 
Marchnata Cyfoes ac Entrepreneuriaeth 
Rheoli Gweithrediadau Strategol, Logisteg ac Optimeiddio’r Gadwyn  
Dadansoddiad Ariannol Strategol a Safbwyntiau Economaidd 
Dadansoddeg Busnes Strategol: Gyrru Gwneud Penderfyniadau 
Rheoli Prosiectau Cynaliadwy a Strategol 
Prosiect Rheoli sy’n Integreiddio Damcaniaeth ac Ymarfer 

Blwyddyn Un - Rhan Amswer
Ymarfer Arweinyddiaeth ac Ymgynghoriaeth 
Offer a Fframweithiau Rheoli Strategol 
Marchnata Cyfoes ac Entrepreneuriaeth 
Rheoli Gweithrediadau Strategol, Logisteg ac Optimeiddio’r Gadwyn Gyflenwi 

Blwyddyn Dau - Rhan Amswer
Dadansoddiad Ariannol Strategol a Phersbectifau Economaidd
Dadansoddeg Busnes Strategol: Gyrru Gwneud Penderfyniadau 
Traethawd Hir 

Mae’r cwrs yn cynnwys saith modiwl arbenigol wedi’u cynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn gwahanol feysydd o reolaeth strategol ac arweinyddiaeth. Yn y trydydd tymor byddwch yn dechrau eich Prosiect Rheoli, sydd wedi’i gynllunio i’ch herio i feddwl yn feirniadol, datrys problemau cymhleth a dangos eich parodrwydd ar gyfer y gwaith maes.

Ymarfer Arweinyddiaeth ac Ymgynghoriaeth 
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr a chyfannol o ddulliau damcaniaethol arweinyddiaeth a rheolaeth, gan alluogi cymhwyso arferion cynaliadwy, moesegol, pwrpasol ac arloesol wrth reoli rhanddeiliaid yn effeithiol ac ymdrin â heriau cyfoes.  

Offer a Fframweithiau Rheoli Strategol 
Nod y modiwl hwn yw darparu myfyrwyr â gwybodaeth gynhwysfawr am fframweithiau dadansoddi strategol a meithrin y gallu i asesu amgylcheddau cystadleuol yn feirniadol a’u heffaith ar benderfyniadau busnes strategol a chymhwyso damcaniaeth i senarios busnes byd go iawn, gan wella sgiliau gwneud penderfyniadau. 

Marchnata Cyfoes ac Entrepreneuriaeth 
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth ddofn i fyfyrwyr o egwyddorion entrepreneuriaeth er mwyn meithrin meddwl arloesol a datrys problemau effeithiol mewn busnes ac archwilio integreiddio cynaliadwyedd, moeseg ac effaith gymdeithasol o fewn arferion marchnata, yn unol â thueddiadau a heriau byd-eang. Bydd y modiwl yn gwella sgiliau ymarferol myfyrwyr mewn marchnata cyfoes ac entrepreneuriaeth trwy gymhwyso cysyniadau damcaniaethol i senarios a phrosiectau byd go iawn. 

Rheoli Gweithrediadau Strategol, Logisteg ac Optimeiddio’r Gadwyn  
Nod y modiwl hwn yw darparu archwiliad cynhwysfawr o Reoli Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg o fewn cyd-destunau busnes cyfoes, gyda’r nod o ddarparu myfyrwyr â gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer llywio cymhlethdodau’r meysydd hyn. 

Dadansoddiad Ariannol Strategol a Safbwyntiau Economaidd 
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o derminoleg a fframweithiau cyfrifyddu cyfoes, a phrif egwyddorion cyfrifyddu ariannol a rheolaeth ariannol, er mwyn galluogi myfyrwyr i gynhyrchu, dehongli a gwerthuso cyfrifiadau ac adroddiadau ariannol yn feirniadol sy’n berthnasol i brosesau monitro, rheoli, cydymffurfio a gwneud penderfyniadau strategol ar gyfer rheolwyr a/neu berchnogion busnesau. 

Dadansoddeg Busnes Strategol: Gyrru Gwneud Penderfyniadau 
Nod y modiwl hwn yw archwilio’r dulliau dadansoddol sydd eu hangen i ddeall, dehongli, ymchwilio a rheoli data cymhleth. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i dderbyn mewnwelediad o ddata yn hyderus ac adnabod patrymau a thueddiadau o ddiddordeb i’w harchwilio yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i lywio trwy dechnolegau yng nghyd-destun data busnes, gan eu darparu â’r sgiliau i addasu i dirweddau technolegol sy’n esblygu a manteisio ar offer arloesol ar gyfer gwneud penderfyniadau a chynllunio strategol gwell. 

Rheoli Prosiectau Cynaliadwy a Strategol 
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau mewn arwain, ymgynghori a rheoli prosiectau cymhleth yn gyfannol i gyd-fynd â nodau sefydliadol a chynaliadwyedd. Gan gyfuno damcaniaeth ac ymarfer, mae’n meithrin meddwl beirniadol a gwneud penderfyniadau strategol, gan rymuso myfyrwyr i fynd i’r afael â heriau ym mhob cam o’r prosiect. 

Prosiect Rheoli sy’n Integreiddio Damcaniaeth ac Ymarfer 
Nod y modiwl yw rhoi sgiliau meddwl strategol uwch i fyfyrwyr ar gyfer dyfeisio a gweithredu strategaethau rheoli cynaliadwy o fewn amgylcheddau busnes modern. Mae’n ymdrechu i integreiddio fframweithiau o’r cwrs i senarios rheoli byd go iawn, gan alluogi myfyrwyr i asesu a chymhwyso damcaniaethau rheoli o fewn cyd-destun cynaliadwyedd yn feirniadol.  

Mae’r flwyddyn gyntaf o astudio yn cynnwys pedwar modiwl arbenigol a gynlluniwyd i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth strategol. Defnyddir y sylfeini hyn i astudio hanfodion busnes trwy feysydd modelau strategol, rheolaeth ariannol ac opteg marchnata strategol.

Ymarfer Arweinyddiaeth ac Ymgynghoriaeth 
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr a chyfannol o ddulliau damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth, gan alluogi cymhwyso arferion cynaliadwy, moesegol, pwrpasol ac arloesol wrth reoli rhanddeiliaid yn effeithiol ac ymdrin â heriau cyfoes. 

Offer a Fframweithiau Rheoli Strategol 
Nod y modiwl hwn yw darparu’r sgiliau i fyfyrwyr ddelio â gwybodaeth gynhwysfawr am fframweithiau dadansoddi strategol a meithrin y gallu i asesu amgylcheddau cystadleuol yn feirniadol a’u heffaith ar benderfyniadau busnes strategol a chymhwyso damcaniaeth i senarios busnes byd go iawn, gan wella sgiliau a gwneud penderfyniadau. 

Marchnata Cyfoes ac Entrepreneuriaeth 
Nod y modiwl hwn yw darparu’r sgiliau i fyfyrwyr ddelio â dealltwriaeth ddofn o egwyddorion entrepreneuriaeth effeithiol mewn busnes ac archwilio integreiddio cynaliadwyedd, moeseg ac effaith gymdeithasol o fewn arferion marchnata, yn unol â thueddiadau a heriau byd-eang. Bydd y modiwl yn gwella sgiliau ymarferol myfyrwyr mewn marchnata cyfoes ac entrepreneuriaeth trwy gymhwyso cysyniadau damcaniaethol i senarios a phrosiectau byd go iawn. 

Rheoli Gweithrediadau Strategol, Logisteg ac Optimeiddio’r Gadwyn Gyflenwi 
Nod y modiwl hwn yw darparu archwiliad cynhwysfawr o Reoli Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg o fewn cyd-destunau busnes cyfoes, gyda’r nod o arfogi myfyrwyr â gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer llywio cymhlethdodau’r meysydd hyn. 

Mae’r ail flwyddyn astudio yn dechrau gyda mewnwelediadau traddodiadol a chyfoes i theorïau arweinyddiaeth a rheolaeth gan ganolbwyntio ar gyllid a dadansoddeg. Pan ddaw hi’n agos at ddiwedd eich ail flwyddyn, byddwch yn dechrau eich Traethawd Hir, sef darn mawr o waith hunan gyfeiriedig sy’n canolbwyntio ar bwnc neu fater rheoli cyfredol o’ch dewis. Hanfodion allweddol rheoli gweithrediadau fydd eich modiwl olaf, gan archwilio gweithrediadoli asedau ffisegol ac anniriaethol busnesau.

Dadansoddiad Ariannol Strategol a Phersbectifau Economaidd 
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o derminoleg a fframweithiau cyfrifyddu cyfoes, a phrif egwyddorion cyfrifyddu ariannol a rheoli a rheolaeth ariannol, er mwyn galluogi myfyrwyr i gynhyrchu, dehongli a gwerthuso cyfrifiadau ac adroddiadau ariannol yn feirniadol sy’n berthnasol i brosesau monitro, rheoli, cydymffurfio a gwneud penderfyniadau strategol ar gyfer rheolwyr a/neu berchnogion busnesau. 

Dadansoddeg Busnes Strategol: Gyrru Gwneud Penderfyniadau 
Nod y modiwl hwn yw archwilio’r dulliau dadansoddol sy’n ofynnol i ddeall, dehongli, ymchwilio a rheoli data cymhleth. Bydd myfyrwyr yn dysgu tynnu mewnwelediad o ddata yn hyderus ac adnabod patrymau a thueddiadau o ddiddordeb i’w harchwilio yn y dyfodol.  

Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i lywio trwy dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac sy’n chwyldroadol i addasu i dirweddau technolegol sy’n esblygu a manteisio ar offer arloesol ar gyfer gwneud penderfyniadau a chynllunio strategol gwell. 

Traethawd Hir 
Nod y modiwl hwn yw trochi myfyrwyr yng nghymhlethdodau ymarferol a strategol rheoli busnes trwy ymarfer academaidd trylwyr, sy’n canolbwyntio ar ymchwil. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu - Llawn Amswer

Mae cyflwyno pob modiwl fel arfer yn cynnwys darlith sy’n awr o hyd a sesiwn Workop rhyngweithiol sy’n dair awr o hyd a gyflwynir gan arbenigwr pwnc bob wythnos am ddeg wythnos. 

Fel arfer, mae gan bob modiwl ddau asesiad o wahanol fath. Ar draws y cwrs, mae’r rhain yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau a phortffolios. Mae rhai asesiadau’n gofyn i chi weithio fel rhan o grŵp neu dîm. 

Ar gyfer eich prosiect rheoli byddwch yn mynychu cyfres o 15 gweithdy lle byddwch yn cael eich cefnogi gan diwtoriaid. 

 

Sut byddwch chi'n dysgu - Rhan Amswer

Mae cyflwyno pob modiwl fel arfer yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd a seminarau a gyflwynir ar y campws dros 4 wythnos trwy gydol y flwyddyn gyda sesiwn ar-lein wythnosol am 2 awr un noson yr wythnos.  

Fel arfer, mae gan bob modiwl ddau asesiad o wahanol fath. Ar draws y cwrs mae rhain yn cynnwys arholiadau, traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau a phortffolios. Mae rhai asesiadau’n gofyn i chi weithio fel rhan o grŵp neu dîm. 

Ar gyfer eich traethawd hir, byddwch yn mynychu cyfres o weithdai i ddechrau a gynlluniwyd i’ch darparu â’r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau eich prosiect cyn cael goruchwyliwr unigol i gyfarwyddo eich gwaith. 

Achredu

Yn ogystal â'ch cymhwyster MGB, byddwch yn cael y cyfle i ennill Diploma Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol hefyd.

Asesu

Asesir y cymhwyster MGB drwy aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a gwaith prosiect. Mae'r MGB yn cynnwys cwblhau prosiect ymchwil busnes a fydd yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori.

Ymchwil

Bydd yr ymchwil ddiweddaraf a wnaed gan Grŵp Ymchwil Ysgol Fusnes De Cymru yn sail i'ch astudiaethau. Mae hyn yn golygu y cewch eich dysgu gan academyddion sydd ar y blaen yn eu maes arbenigol.

Staff addysgu

  • Peter Murphy 
  • Moizzah Asif 
  • Davina Evans 
  • Bharati Rathore 
  • Tiansheng Yang 
  • Lucy Corcoran 

Pam PDC?

Businesspeople discussing projects and working in an office on laptops.

Pam PDC?

Mae Busnes, Rheoli a Marchnata ymhlith y 5 uchaf yn y DU ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Ansawdd Addysgu.

(The Times and The Sunday Times Good University Guide 2025)

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn fel arfer yn mynd ymlaen i fod yn rheolwyr, uwch reolwyr a swyddogion gweithredol sefydliadol cyhoeddus a phreifat. 

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb wedi'u rhestru yn southwales.ac.uk/gyrfaoedd ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes yna gyrsiau pwysig eraill neu fentrau penodol i bwnc yn cael eu cynnal yn lleol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. Boed hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a'u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi'r hyder, yr anogaeth a'r cymhelliant i ddarpar fyfyrwyr wneud cais.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf o brifysgol yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol cydnabyddedig.

Mae’r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac mae angen lefel Saesneg o IELTS 6.0 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£13,500

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,500

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Mae’r Cwrs wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig gyda Diploma Lefel 7 wedi’i ymgorffori yn y cwricwlwm. Gall myfyrwyr dderbyn y cymhwyster hwn trwy dalu ffi gofrestru a chymedroli o £250. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.